Aelodau'r Senedd yn y Siambr

Aelodau'r Senedd yn y Siambr

Lluniau a Fideo

Cyhoeddwyd 27/03/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2024

Mae gan dîm newyddion y Senedd lyfrgell o ddelweddau stoc sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyfryngau.

Mae llyfrgell luniau ar gael ar albwm Flickr Senedd Cymru / Welsh Parliament

Ymhlith y lluniau mae:

  • Lluniau pob Aelod o'r Senedd
  • Cyfarfodydd y Senedd yn y Siambr
  • Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru
  • Digwyddiadau cyhoeddus mawr ar ystâd y Senedd
  • Lluniau o du mewn a thu allan adeilad y Senedd

 

Mae’r lluniau ar gael yn rhad ac am ddim, gyda chredyd i Gomisiwn y Senedd / Senedd Commission. Mae esboniad am yr amodau, gan gynnwys manylion hawlfraint, ar gael yma. 

Caiff yr holl luniau o Aelodau o’r Senedd presennol a chyn Aelodau eu rhyddhau o dan Drwydded Attribution 4.0 International Creative Commons. Darllenwch mwy am yr amodau.

 

Fideo a sain

 

Mae modd clipio, rhannu a lawr lwytho fideo o gyfarfodydd cyhoeddus y Senedd a’r Pwyllgorau oddi ar Senedd.tv

 

Gallwch fewnosod y fideo ar wefan arall neu ei rannu ar rwydweithiau cymdeithasol. Darllenwch gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn. 

 

Mae hawl defnyddio clipiau fideo a sain gan Senedd.tv drwy gydymffurfio a hawlfraint y Comisiwn a'r Telerau Defnyddio.

 

Cewch olygu cynnwys clipiau a lawr lwythwyd i fformatau gwahanol er mwyn eu gwylio, a chewch gymryd camau i wella hygyrchedd y deunydd, gan gynnwys ychwanegu penawdau a/neu isdeitlau, yn amodol ac yn unol â’r Telerau. Ni chaniateir addasu, newid na thrin deunydd mewn unrhyw ffordd arall.

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod ceisiadau penodol, cysylltwch â thîm newyddion y Senedd.

 

I wneud cais ffilmio, ffotograffiaeth, darlledu byw neu recordio, darllenwch y wybodaeth yma cyn llenwi ein ffurflen gais.