Archwilio deddfwriaeth

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/08/2023   |   Amser darllen munudau

Mae deddfwriaeth yn gyfraith neu set o gyfreithiau y mae senedd wedi cytuno arnynt (neu eu “pasio”).

Mae gan Bwyllgorau rôl bwysig o ran archwilio deddfwriaeth cyn ac ar ôl iddi gael ei phasio.


Biliau

Mae’r Senedd yn edrych ar ddeddfau arfaethedig (sef “Biliau”) mewn cyfnodau gwahanol. Mae rhai o'r cyfnodau hyn yn cynnwys Pwyllgorau.

Cyfnod 1

Fel arfer, caiff Bil ei anfon at Bwyllgorau i edrych arno. Mae Pwyllgorau’n clywed gan y cyhoedd, sefydliadau ac arbenigwyr – yn ysgrifenedig ac yn y cnawd – am y Bil a’i effaith os caiff ei basio.

Mae Pwyllgorau’n gwneud argymhelliad i’r Senedd ynghylch a ddylai “egwyddorion cyffredinol” y Bil gael eu derbyn ai peidio. Mae egwyddorion cyffredinol Bil yn ymwneud â'i ddiben - yr hyn y mae'n ceisio ei wneud a'r broblem y mae'n ceisio ei datrys.

Yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn, mae’r Senedd naill ai’n cytuno y dylai’r Bil symud ymlaen neu mae’n penderfynu na ddylai fynd ymhellach.

Cyfnod 2

Os yw’r Senedd yn cytuno y dylai’r Bil symud ymlaen o Gyfnod 1, bydd Pwyllgor yn edrych ar newidiadau manwl a gynigir iddo (sef “gwelliannau”). Gall pob Aelod o’r Senedd awgrymu (neu “gyflwyno”) gwelliant, ond aelodau’r Pwyllgor yn unig sy’n gallu pleidleisio ar welliannau yn y Cyfnod hwn.

Cyfnodau eraill

Yn gyffredinol, ar ôl i Bwyllgor drafod Bil mae dau Gyfnod arall. Mae’r Cyfnodau hyn yn cynnwys pob Aelod o’r Senedd.

Mae Cyfnod 3 yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn, lle bydd Aelodau’n trafod gwelliannau.

Cynhelir Cyfnod 4 hefyd yn y Cyfarfod Llawn ar ffurf dadl a phleidlais i benderfynu a ddylai testun terfynol y Bil gael ei basio.

 

Deddf y Senedd

Os yw’r Senedd yn cytuno ar Fil, a’r Bil hwnnw’n cael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin, mae'n dod yn gyfraith o’r enw “Deddf y Senedd”.

 

Craffu cyn deddfu a chraffu ar ôl deddfu

Weithiau, gall Pwyllgorau edrych ar Filiau ar ffurf ddrafft, ac awgrymu gwelliannau, cyn iddynt gael eu cyflwyno’n ffurfiol i’r Senedd. Yr enw ar hyn yw “craffu cyn deddfu”.

Gall Pwyllgorau hefyd edrych ar gyfreithiau ar ôl iddynt gael eu pasio, i edrych ar sut maen nhw’n gweithio. Yr enw ar hyn yw “craffu ar ôl deddfu”.

 

Is-ddeddfwriaeth

Mae is-ddeddfwriaeth yn gyfraith sy’n cael ei chreu gan Weinidogion y Llywodraeth o dan bwerau sy’n cael eu rhoi iddynt gan Ddeddf.

Caiff is-ddeddfwriaeth ei defnyddio i roi mwy o fanylion am sut y bydd cyfraith yn gweithio’n ymarferol, i gadw cyfreithiau sy’n bodoli eisoes yn gyfredol, ac i bennu’r dyddiad pan fydd rhannau o gyfraith newydd yn dod i rym.

Y Pwyllgor sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar is-ddeddfwriaeth yw’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

 

 

Gweld holl ddeddfwriaeth a Deddfau’r Senedd

 

 


 

Archwilio’r pwnc

Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd

Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor

Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau

Cymryd rhan mewn pwyllgorau

Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd