Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015 a dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Toriad: Dydd Llun 30 Mawrth 2015 – Dydd Sul 19 Ebrill 2015
Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015 a dydd Mercher 22 Ebrill 2015
Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015 a dydd Mercher 29 Ebrill 2015
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar gamau gweithredu sy’n deillio o adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes (30 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cryfhau Polisi Caffael (30 munud)
• Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Adolygiad o’r Diwydiant Llaeth (30 munud)
• Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Cymru) 2015 (30 munud)
• Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 (15 munud)
• Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru (60 munud)
• Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fesur Cymwysterau Cymru (5 munud)
Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
• Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
• Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5713
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a’r miloedd o swyddi y mae’n eu cefnogi.
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy’n llifo i mewn i’r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Mae’r Siarter Dur Cynaliadwy Prydeinig ar gael yma:
http://www2.eef.org.uk/NR/rdonlyres/04940D4A-E15E-43A5-8C41-51CD7EE4E13F/24323/TheCharterforBritishSustainableSteel1.pdf (Saesneg yn unig).
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
• Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (5 munud)
• Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (5 munud)
• Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 22 Ebrill 2015
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
• Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
• Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
• Dadl Fer (30 munud)
• Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru): Darparu Difidend Datganoli ar gyfer Cymru gyfan (30 munud) - Gohiriwyd ers 18 Mawrth 2015 (30 munud)
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Dydd Mercher 29 Ebrill 2015
Busnes y Llywodraeth
• Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
• Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
• Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ran 2 yr ymchwiliad i Arferion gorau o ran y gyllideb - Cynllunio a gweithredu gweithdrefnau cyllidebol newydd (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Dadl Fer (30 munud)