Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 17 Hydref 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 (60 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (30 munud)
- Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd Plant Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol (60 munud)
- Dadl ar ddeiseb P-06-1345: Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)
Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Diweddariad ar Gynnydd y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Troseddol (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (30 munud)
- Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 (5 munud)
Dydd Mercher 25 Hydref 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Huw Irranca-Davies (Ogwr) (30 munud)
Dydd Mawrth 7 Tachwedd 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cymorth i Aros (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru (30 munud)
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)