DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 03/03/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0011 - Y Streic PCS Arfaethedig
Codwyd gan:
Leanne Wood
Tanysgrifwyr:
Gareth Jones 25/03/2010
Rhodri Glyn Thomas 25/03/2010
Dai Lloyd 25/03/2010
Bethan Jenkins 25/03/2010
Nerys Evans 25/03/2010
Helen Mary Jones 25/03/2010
Janet Ryder 25/03/2010
Y Streic PCS Arfaethedig
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod y gwaith hanfodol a wneir gan weision sifil, hebddynt hwy ni fyddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu gweithredu.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch y newidiadau arfaethedig i Gynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, y mae Llywodraeth y DU yn ceisio’u rhoi ar waith, a fyddai’n golygu y byddai llawer o weision sifil filoedd o bunnoedd ar eu colled yn achos diswyddiadau gwirfoddol neu orfodol;
Yn cefnogi aelodau undeb y PCS sy’n gweithredu’n ddiwydiannol er mwyn gwarchod eu hawliau diswyddo; ac
Yn annog Llywodraeth y DU i ailddechrau trafodaethau gyda’r PCS er mwyn hwyluso ateb cyfiawn i’r anghydfod hwn.