15/03/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 08/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 15 Mawrth 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2016

NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

NDM5993 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/immigration.html

NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

NDM5995 Carl Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html

NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

NDM5998 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2016.

NDM5999 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  9 Chwefror  2016.

NDM6000 Jane Hutt (Bro Morgannwg) TYNNWYD YN ÔL

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu'r system well ar gyfer addasiadau, a fydd yn helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain;

2. Cydnabod bod y system wedi'i datblygu gyda chymorth a chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol;

3. Nodi y bydd y datblygiad hwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn cyflymu'r broses o wneud yr addasiadau; a

4. Croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro ac adrodd ar effaith y system a'i effeithiolrwydd. 

NDM6001 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.

NDM6002 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.

NDM6003 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.

NDM6004 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.

NDM6005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.