13/12/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 06/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 13 Rhagfyr 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Rhagfyr 2016

NDM6183 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Criminal Finances Bill 2016-17 — Senedd y DU

NDM6184 Rebecca Evans (Gŵyr):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — Senedd y DU
 
NDM6185 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.
 
NDM6186 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.
 
NDM6187 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.