Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Hydref 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 06 Hydref 2010
Dadl Fer
NDM4550 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd: Democratiaeth ar waith?
NDM4554 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod misoedd y gaeaf yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn drwy:
a) Datblygu Cynllun Gweithredu i leihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn 2010/11;
b) Gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i gynyddu'r capasiti ar gyfer y cynnydd a ragwelir mewn achosion o lithro a disgyn;
c) Rhoi cynllun cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod grwpiau mewn perygl yn cael y brechlyn ffliw;
d) Ymgysylltu â Llywodraeth y DU i wella cyfrifiadau ar gyfer Taliadau Tywydd Oer drwy ddefnyddio gorsafoedd tywydd sy'n fwy priodol;
e) Gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mynediad at raean ffyrdd, yn dilyn y problemau a gafwyd dros aeaf 2009/10; ac
f) Gweithio gyda phenaethiaid ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod gwybodaeth well ar gael i rieni ynghylch cau ysgolion oherwydd amodau tywydd garw.
NDM4553 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Greu Swyddi yn yr Economi Werdd osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2010
Nodyn: Ymateb y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2010
NDM4551 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar Diwydiannau Gwin, Cwrw, Seidr a Gwirodydd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2010.
Noder: Ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2010
NDM4552 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys Adolygiad Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2009/10 – ‘Gwneud Gwahaniaeth’,
a gyhoeddwyd ym mis Awst 2010.
Mae ‘Gneud Gwahaniaeth’ drwy fynd i’r hyperddolen ganlynol:
http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/gwneud-gwahaniaeth/
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 08 Hydref 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4554
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Yn is-bwynt e, dileu ‘Gweithio gydag’ a rhoi ‘Cyhoeddi canllawiau i’ yn ei le.
2. Nick Ramsay (Mynwy)
Yn is-bwynt f, dileu ‘Gweithio gyda phenaethiaid ysgolion ac awdurdodau lleol’ a rhoi ‘Cyhoeddi canllawiau’ yn ei le.
3. Nick Ramsay (Mynwy)
Yn is-bwynt b, ar ôl 'Byrddau Iechyd Lleol' rhoi ‘a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'.
4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod misoedd y gaeaf yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru:
a) Wedi rhoi arian i Age Cymru i weithredu Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn;
b) Yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i gynyddu’r capasiti ar gyfer y cynnydd a ragwelir mewn achosion o lithro a disgyn;
c) Wedi rhoi cynllun cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod grwpiau mewn perygl yn cael y brechlyn ffliw;
d) Er yn cydnabod nad oes rheolaeth ganddi ar yr holl ffactorau sy’n effeithio ar dlodi tanwydd, wedi sefydlu strategaeth tlodi tanwydd newydd ac y bydd yn dod â rheoliadau i’w ategu gerbron y Cynulliad yn nes ymlaen eleni;
e) Wedi darparu arian drwy’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mynediad at raean ffyrdd;
f) Yn gweithio gyda phenaethiaid ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod gwybodaeth well ar gael i rieni ynghylch cau ysgolion oherwydd tywydd garw.
Mae copi o’ r canllaw Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn ar gael drwy’r hyperddolen ganlynol:
Mae copi o’r
strategaeth newydd ar dlodi tanwydd ar gael drwy’r hyperddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/fuelpoverty/strategy/?skip=1&lang=cy