18/06/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mehefin 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwyso a mesur yr ôl troed carbon sydd ynghlwm wrth adeiladu tyrbin gwynt ar y tir wrth ystyried ceisiadau? (WAQ54365)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae polisi cynllunio Llywodraeth y Cynulliad, fel y’i nodir yn Natganiad Polisi Interim y Gweinidog a Nodyn Cyngor Technegol 8 yn pwysleisio’r angen i weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â bygythiadau newid yn yr hinsawdd. Ynni gwynt yw un o’r ffurfiau mwyaf datblygedig o ynni adnewyddadwy o safbwynt masnachol a pholisi Llywodraeth y Cynulliad yw hyrwyddo tyrbinau gwynt er mwyn cyflawni’r targedau a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 8.

Mae’r mwyafrif llethol o geisiadau i ddatblygu ffermydd gwynt yn cael eu penderfynu gan awdurdodau cynllunio lleol o dan eu pwerau cynllunio gwlad a thref, neu pan fydd cynllun yn fwy na 50MW, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid yn yr Hinsawdd sy’n penderfynu arnynt. O ganlyniad caiff rôl Llywodraeth y Cynulliad o ran penderfynu ar geisiadau ei chyfyngu i ambell achos a elwir i mewn.

Yn 2008 gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru rywfaint o waith i gyfrifo’r arbedion mewn allyriadau a oedd yn deillio o dyrbinau ar ystâd y Comisiwn Coedwigaeth, a dengys y gwaith hwn dros oes o 25 mlynedd cyfrifir bod tyrbin 3MW yn arbed 84,753 tunnell o garbon deuocsid.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig unrhyw arweiniad i Awdurdodau lleol ar yr ôl troed carbon sydd ynghlwm wrth adeiladu tyrbin gwynt ar y tir wrth ystyried ceisiadau? (WAQ54366)

Jane Davidson: Ynni gwynt yw’r dechnoleg ynni adnewyddadwy fwyaf datblygedig o safbwynt masnachol ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad bolisïau cynllunio clir i hwyluso ei thargedau ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig unrhyw ganllawiau penodol i awdurdodau lleol ar yr ôl troed cabon sydd ynghlwm wrth adeiladu tyrbinau gwynt ar y tir, a hynny’n bennaf oherwydd gall hyn amrywio o achos i achos.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi trefnu unrhyw gyfarfodydd ymgynghorol ar y Mesur Drafft ar Reoli Llifogydd a Dŵr, ac os felly ymhle a phryd y bwriedir cynnal y rhain? (WAQ54380)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi trefnu tri gweithdy ar y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr i’w cynnal ledled Cymru.

Bydd gweithdai’r Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr yn cwmpasu’r darpariaethau a nodir yn y Mesur drafft ac a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori.Nod y gweithdai yw rhoi cyfle i randdeiliaid drafod y cynigion. Bydd y gweithdai yn dair awr o hyd ac yn cynnwys cyflwyniad byr ar y Mesur drafft gyda thrafodaeth ar y cynigion yn dilyn mewn grwpiau llai.

Cynhelir y gweithdai fel a ganlyn:

Mehefin 24ain, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (9.30am - 12.30pm)

Mehefin 30ain, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (2.30pm - 5.30pm)

Gorffennaf 1af, Venue Cymru, Llandudno (2.30pm - 5.30pm)

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r contract gofal llygaid yng Nghymru, yn cynnwys yr amserlenni ar gyfer gweithredu? (WAQ54323)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ni fyddaf yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y contract cyn adolygiad ariannol canol y flwyddyn.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru ar wahân nifer y swyddi gweinyddol, anghlinigol yn Ymddiriedolaethau GIG Bro Morgannwg ac Abertawe yn union cyn eu huno? (WAQ54341)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer y swyddi gweinyddol, anghlinigol yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? (WAQ54342)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio Pympiau Inswlin i drin diabetes? (WAQ54354)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ganran o gleifion diabetes yng Nghymru sy’n defnyddio Pympiau Inswlin? (WAQ54355)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr holl gleifion sy’n glinigol addas i ddefnyddio Pympiau Inswlin yn gallu cael gafael arnynt? (WAQ54356)

Edwina Hart: Mae darparu pympiau inswlin yn fater i glinigwyr benderfynu arno ar ôl trafod gyda’u cleifion. Dylai’r holl driniaeth a gofal ar gyfer pobl â diabetes fod yn seiliedig ar asesiad o anghenion yr unigolyn. Ni chesglir gwybodaeth yn ganolog am ba ganran o gleifion diabetes yng Nghymru sy’n defnyddio pympiau inswlin.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd wnaeth y Grŵp Cyflawni Cenedlaethol gynnal ei gyfarfod cyntaf? (WAQ54357)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae cyfarfodydd y Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn mynd i fod yn fwy tryloyw? (WAQ54359)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch (a) pryd gaiff cyfarfod nesaf y Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ei gynnal a (b) ymhle? (WAQ54361)

Edwina Hart: Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar 4ydd Mehefin 2009 a chaiff cyfarfodydd eu cynnal bob mis i ddechrau.

Ni fwriedir i bapurau’r Grŵp Cyflawni fod ar gael i’r cyhoedd.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 23ain Gorffennaf 2009.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd wnaeth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol gynnal ei gyfarfod cyntaf? (WAQ54358)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae cyfarfodydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn mynd i fod yn fwy tryloyw? (WAQ54360)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch (a) pryd gaiff cyfarfod nesaf y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ei gynnal a (b) ymhle? (WAQ54362)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Ymhle mae cofnodion a phapurau’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd? (WAQ54363)

Edwina Hart: Cynhaliwyd cyfarfod anffurfiol cyntaf y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol (BCC) ar 27ain Ebrill 2009.

Er mwyn bodloni’r gofynion parthed tryloywder ac atebolrwydd, bydd y BCC yn cyfarfod yn gyhoeddus a bydd ei agenda, ei bapurau a’i gofnodion yn cael eu cyhoeddi. Fe’u cyhoeddir ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.

Cyhoeddir agenda’r BCC o leiaf bum diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod, a chaiff cofnod cytûn o’r cyfarfod ei gyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith i’r cyfarfod.

Bydd y BCC yn ceisio cynnal cymaint o’i weithgareddau ag sy’n bosibl yn gyhoeddus. Weithiau, gall amgylchiadau godi lle na fydd gwneud hynny er budd y cyhoedd, a bydd y Cadeirydd yn penderfynu ar achlysuron o’r fath.

Cynhelir y cyfarfod ffurfiol cyntaf am 11am yn Nhŷ Hywel ddydd Llun 29ain Mehefin 2009.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Croeso Cymru i godi tâl ar fusnesau llety am brynu arwyddion llety? (WAQ54338)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae gan bob busnes lletya y dyfernir gradd iddo fel rhan o’r Cynllun Sicrhau Ansawdd Llety i Ymwelwyr, hawl i gael arwydd arddangos allanol maint A4, gyda haen alwminiwm am ddim ar gyfer eu safle ar ôl cael eu gradd gyntaf, neu radd ddiwygiedig, a dyma’r achos o hyd.

Gall busnesau sy’n dymuno dangos arwydd maint A4 ychwanegol, arwyddion mwy neu arwyddion wedi’u goleuo eu prynu wrth gyflenwr dan gontract, ac mae llyfryn archebu ar gael at y diben hwn.