16/06/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mehefin 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid i gleifion o Gymru sy’n cael triniaeth yn Ysbyty Orthopedig Gobowen? (WAQ54329)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae arian ar gael o fewn dyraniad refeniw'r GIG i gleifion o Gymru gael triniaeth yn Ysbyty Orthopedig Gobowen.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw doriadau mewn gwasanaethau yn Ysbyty Orthopedig Gobowen a fydd yn effeithio ar gleifion sy’n byw yng Nghymru? (WAQ54330)

Edwina Hart: Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw doriadau mewn gwasanaethau yn Ysbyty Orthopedig Gobowen a fydd yn effeithio ar gleifion sy'n byw yng Nghymru.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog sicrhau y gall cleifion sy’n byw mewn un ardal BILl gael mynediad at Wasanaethau Deintyddol y GIG mewn ardal BILl/Ymddiriedolaeth arall os mai dyna’r cyfleuster agosaf at eu cartref? (WAQ54339)

Edwina Hart: Mae telerau ac amodau contract deintyddol y GIG eisoes yn hwyluso'r trefniant hwn. Nid yw'r cysyniad o gofrestru cleifion yn bodoli mwyach. Dylai cleifion barhau i weld eu deintydd eu hunain, pa le bynnag y lleolir y ddeintyddfa.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Deintyddiaeth y GIG yn Ne Powys? (WAQ54340)

Edwina Hart: Ers cyflwyno contract deintyddol newydd y GIG, mae Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) yn gyfrifol am gomisiynu lleol gan roi rheolaeth ac atebolrwydd iddynt o ran eu cyllidebau deintyddol eu hunain i ddarparu gofal deintyddol i ddiwallu'r angen lleol. Mae hyn yn galluogi'r BILlau i ddatblygu gwasanaethau i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Rhaid cyflawni hyn drwy ddyrannu cyllideb ddeintyddol gyffredinol a phenodol.

O dan y trefniadau hyn, cyfrifoldeb BILl Powys yw penderfynu ar leoliadau a lefel y gwasanaethau deintyddol drwy gontractau deintyddol fel rhan o'r gwaith o reoli cyllunio, datblygu a rheoli cyllidebau gwasanaethau.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ar gyfer cost trin diabetes a chyflyrau sy’n gysylltiedig â diabetes i’r GIG yn y 4 blynedd diwethaf? (WAQ54346)

Edwina Hart: Cyhoeddir costau uniongyrchol trin diabetes, lle mae diabetes yw'r prif gyflwr y mae angen triniaeth ar ei gyfer, fel rhan o'r Datganiad Ystadegol ar Gyllidebau Rhaglenni Gwariant yn: -

http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/releaseindex2009/;jsessionid=JNvSKyRHPxxktkt81wW0hpwfGntFym7FLqpQ3PL5XL50Ly7jnJbh!-826231897?cr=3&lang=en

Enw'r cyhoeddiad unigol yw SDR59/2009.