Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Rhagfyr 2014 i'w hateb ar 15 Rhagfyr 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru pob busnes a gaiff ei gefnogi drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru a faint o gymorth a ddarparwyd gan y gronfa ym mhob blwyddyn ariannol ers sefydlu'r gronfa? (WAQ68116)
Derbyniwyd ateb ar 15 Rhagfyr 2014
Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): This information was published in response to a Freedom of Information request. This can be seen at:
http://wales.gov.uk/about/foi/responses/dl2014/july/atisn8549/?lang=en
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Faint o gyn-filwyr sydd wedi cael therapïau drwy GIG Cymru - hynny yw, therapi ymddygiad gwybyddol, dadsensiteiddio ac ailbrosesu drwy symudiad y llygad - sydd wedi cyflawni hunanladdiad? (WAQ68115)
Derbyniwyd ateb ar 15 Rhagfyr 2014
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): Veterans’ NHS Wales, which is funded by Welsh Government, reports no veterans engaged in therapy has committed suicide, to its knowledge. Combat Stress, a leading veterans’ mental health charity, states the suicide rate among UK veterans is not significantly different to the rate among the UK general population.