Ymwelwyr sydd ar y Sbectrum Awtistig
Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb.
Rhan o'r ymrwymiad hwn yw sicrhau bod ein hadeiladau'n hygyrch i ymwelwyr ag awtistiaeth a bod ein staff wedi cael eu hyfforddi i'w croesawu.
Mae'r adran hon wedi cael ei datblygu er mwyn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth. Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru a gwella gwasanaethau er mwyn gwella'r profiad o ymweld â'n hystâd.
Rydym yn croesawu adborth ar y pethau y gallwn eu gwella.
Gallwch roi adborth trwy glicio yma:
ffurflen adborth.
Mae ein hystâd yn cynnwys y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead sydd ym Mae Caerdydd. Mae gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth ar gael isod ar gyfer pob un o'r adeiladau hyn.
Mae gwybodaeth am gyrraedd y Cynulliad ar gael yma:
Sut i'n cyrraedd.
Mae gwybodaeth am ein horiau agor a phryd y mae busnes y Cynulliad yn digwydd ar gael yma:
Oriau-agor.
Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd
Mae materion o ran y synhwyrau y dylai rhai ymwelwyr ag awtistiaeth fod yn ymwybodol ohonynt cyn iddynt ymweld â'r Cynulliad. Efallai y bydd rhai ymwelwyr yn sensitif iawn i oleuadau, synau, arogleuon a chyffwrdd.
Gwybodaeth am faterion synhwyraidd efallai y bydd ymwelwyr yn dod ar eu traws :
Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd (PDF,140 KB)
Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd (Word, 26.6 KB)
Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd: Hawdd ei Ddeall (PDF, 3.53 MB)
Y Senedd
Y Senedd yw prif adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Mae'n adeilad cyhoeddus ac yn atynfa am ddim i ymwelwyr.
Gall ymwelwyr weld pa ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y Senedd drwy glicio yma:
Calendr y Cynulliad.
Gallwch fynd ar daith ar-lein o amgylch y Senedd trwy glicio yma:
Taith ar-lein y Senedd
Ceir rhagor o wybodaeth am ddod i gyfarfod pwyllgor trwy glicio yma:
Mynd i Bwyllgor.
Os bydd Pwyllgor yn eich gwahodd chi i siarad ag ef, gallwch gysylltu â'n llinell wybodaeth ar 0300 200 6565 a gofyn am gael siarad â Hyrwyddwr Awtistiaeth yn ein gwasanaeth Pwyllgorau.
Gwybodaeth berthnasol i ymwelwyr sydd ag awtistiaeth:
Y Senedd: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (PDF, 4.29 MB)
Y Senedd: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (Word, 5.15 MB)
Fersiwn gryno:
Y Senedd: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (PDF, 130 KB)
Y Senedd: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (Word, 22.2 KB)
Y Larwm Tân Profir y larwm tân ar fore Llun, bore Mawrth a bore Mercher am tua 08.45. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud a ble i fynd. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.
Cloch y Cyfarfod Llawn - Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.
Y Pierhead
Mae'r Pierhead yn lle unigryw ar gyfer ymwelwyr, digwyddiadau a chynadleddau. Rhwng yr arddangosfeydd, yr arddangosiadau rhyngweithiol a'r digwyddiadau arbennig yn amlygu materion sydd o bwys yng Nghymru, mae bob amser rhywbeth yn y Pierhead fydd yn ehangu gwybodaeth, diddori neu ysbrydoli ymwelydd.
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y Pierhead, cliciwch yma:
calendr digwyddiadau'r Pierhead.
Gwybodaeth berthnasol i ymwelwyr sydd ag awtistiaeth :
Y Pierhead: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (PDF, 962 KB)
Y Pierhead: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (Word, 1.81 MB)
Fersiwn gryno:
Y Pierhead: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (PDF, 11.8 KB)
Y Pierhead: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (Word, 22.7 KB)
Y larwm tân - Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.30, cyn bod ymwelwyr yn cael dod i mewn. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.
Tŷ Hywel
Tŷ Hywel yw'r adeilad y tu ôl i'r Senedd, ac yno y mae swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er nad yw'n atynfa i ymwelwyr, gall pobl ddod i mewn i'r adeilad i ymweld ag Aelod Cynulliad neu aelod o staff, dod i ddigwyddiad neu dod i un o'r cyfleoedd addysgiadol yn ein siambr drafod bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc.
I drefnu ymweliad addysgiadol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm, ac am wybodaeth cyn ac ar ôl ymweliad, gan gynnwys yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth gyrraedd, cliciwch yma:
Ymweliadau addysgiadol.
Gwybodaeth berthnasol i ymwelwyr ag awtistiaeth:
Tŷ Hywel: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (PDF, 2.08 MB)
Tŷ Hywel: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth (Word, 923 KB)
Fersiwn gryno:
Tŷ Hywel: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (PDF, 115 KB)
Tŷ Hywel: Gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistaeth: fersiwn gryno (Word, 21.1 KB)
Y larwm tân - Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.00. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad er mwyn osgoi'r prawf larwm tân. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.
Cloch y Cyfarfod Llawn - Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.
I archebu copïau caled neu fformatau eraill megis print bras a Braille, ffoniwch y llinell archebu ar 0300 200 6565 neu anfonwch neges e-bost at
cysylltu@cynulliad.cymru
Gwelir hefyd: Diogelwch a Mynediad