Helpwch drwy lofnodi'r ddeiseb hon fel y gall llawer o deuluoedd yn union fel ein un ni gael mynediad at gymorth a gwasanaethau hanfodol y mae arnom eu hangen yn daer! Mae gormod o deuluoedd yn colli allan ar Asesiadau Gofalwyr hanfodol yng Nghymru gan eu bod yn cael eu rhedeg gan Awdurdodau Lleol nad oes ganddynt yr arian i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen i deuluoedd! Mae hyn yn bwysig iawn gan fod llawer o deuluoedd yng Nghymru yn dioddef oherwydd na allant gael mynediad at Asesiad Gofalwyr a fydd yn darparu cefnogaeth a mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen ar deuluoedd! Mae angen i hyn newid! Mae'n bryd i Ganolfannau Gofalwyr ledled Cymru gymryd rheolaeth o Asesiadau Gofalwyr er mwyn rhoi gwell mynediad i deuluoedd at y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen. Fy nod yw i Ganolfannau Gofalwyr gynnal Asesiadau Gofalwyr yn annibynnol ar yr awdurdod lleol ac yna i'r awdurdod lleol ddarparu'r gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen ar deuluoedd.
Mae hyn mor bwysig imi gan fod gennyf fy stori bersonol fy hun y tu ôl iddi. Mae gennym deulu o bedair merch! Mae gennym efeilliaid gyda Pharlys yr Ymennydd a phlentyn hŷn ag Anawsterau Dysgu Cymedrol ac Oedi Datblygiadol Byd-eang ynghyd ag epilepsi. Nid oes gan ein plentyn canol unrhyw anghenion meddygol. Rydym wedi bod yn brwydro i gael Asesiad Gofalwyr ers 2017 gan fod gan un o'n hefeilliaid lawer o anghenion meddygol cymhleth, gan gynnwys epilepsi heb ei reoli oherwydd genedigaeth drawmatig iawn, ac rydym yn gofalu amdani 24 awr y dydd heb seibiant, sy'n flinedig iawn ac mae hi'n teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd ei chyflyrau meddygol. Mae gan ei gefaill barlys yr ymennydd hefyd ond ffurf fwynach ac mae ganddi anhwylder cromosom hefyd nad ydym yn ei ddeall yn iawn eto! Mae gennym hefyd blentyn hŷn sydd ag ymddygiad heriol oherwydd ei hanghenion ac sydd angen goruchwyliaeth drwy'r amser oherwydd gall fod fel ymdrin â phlentyn bach ar brydiau! Gwrthodwyd Asesiad Gofalwyr inni ers 2017 ac roeddem hyd yn oed wedi cael rhywun yn dweud celwydd wrthym fod un wedi'i wneud lle nad oedd tystiolaeth ohono! Oherwydd na allwn gael y gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen arnom mae bywyd teuluol yn flinedig iawn ac yn frwydr ac mae'n draenio'n emosiynol bob dydd.