Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cymrodyr Blaenorol

Cynllun Cymrodoriaethau 2019

 

Yn dilyn cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y Fframwaith) drafft ym mis Awst 2019, cwblhaodd yr Athro Ludi Simpson, Athro Astudiaethau Poblogaeth ym Mhrifysgol Manceinion, adolygiad annibynnol o amcangyfrifon o’r angen am dai a’r angen a’r galw am dai yn ôl tenantiaeth a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail ar gyfer y Fframwaith drafft.

Mae gwaith Ludi Simpson ym maes demograffeg is-genedlaethol ar gyfer cynllunio yn cynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, cyngor mewn ymchwiliadau cynllunio, ymchwil ac addysgu. Mae’n ddylunydd ac yn gynghorydd i feddalwedd POPGROUP sy’n eiddo cyhoeddus, safon y diwydiant cynllunio ar gyfer amcanestyniad demograffig lleol o’r boblogaeth a thai.

Drwy’r cynllun cymrodoriaeth, lluniodd adroddiad ar agweddau technegol y rhagamcanion poblogaeth a thai ac ystod y niferoedd tai a ddefnyddiwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei waith craffu ar y Fframwaith drafft.

Mae adroddiad yr Athro Simpson, Amcanestyniadau demograffig a chynllunio – partneriaeth gydweithredol bellach wedi’i gyhoeddi.

 

 

 

Bu Dr David Dallimore (Prifysgol Bangor) yn ymgymryd â gwaith ymchwil i lywio nifer o bapurau briffio ac adroddiad ar integreiddio addysg a gofal plentyndod cynnar. Canolbwyntiodd y prosiect ar nifer o gwetsiynau allweddol:

  • Sut mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar wedi datblygu yng Nghymru?
  • Beth yw sylfeini presennol Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar o ran polisi, deddfwriaeth, a chysyniadau?
  • Sut y mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru yn cymharu â systemau mewn gwledydd eraill?
  • Beth yw'r rhwystrau deddfwriaethol, rheoleiddiol, strwythurol a chysyniadol o ran datblygu mynediad at Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar ymhellach yng Nghymru?

Cyhoeddodd Dr Dallimore y cyntaf mewn cyfres o bapurau ymchwil, 'Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: cyflwyniad' (PDF, 1144KB) ym mis Mai 2019. Dilynwyd gan ail bapur ymchwil, 'Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pwysigrwydd Ansawdd' (PDF, 877KB) yng Nghorffennaf 2019. Cyhoeddwyd trydydd papur, 'Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Datblygu Polisi' (PDF, 3729KB) ym mis Medi 2019. 

 

 

 

Cynhyrchodd Dr Lucy J Griffiths (Prifysgol Abertawe) bapur ar gynllun drafft Llywodraeth Cymru - Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan ganolbwyntio ar ba mor dda y mae'n cyflawni'r her o gael mwy o blant a phobl ifanc i fod yn egniol yng Nghymru. Yn ogystal, ysgrifennodd Dr Griffiths briff ar lefelau gweithgarwch corfforol ac ymddygiadau yn y boblogaeth hon, gan ddefnyddio data o Astudiaeth Cohort y Mileniwm, i lywio dadl y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn.

Cyhoeddodd Dr Griffiths erthygl ar y cyd gyda'r Athro Gareth Stratton o Brifysgol Abertawe, 'Bodloni'r gofynion: A yw plant yng Nghymru yn symud digon?', ym mis Mehefin 2019

 

 

 

Cynhyrchodd Dr Fillipos Proedrou (Prifysgol De Cymru) adroddiad yn ymdrin â'r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru. Yn benodol, bu'r gwaith hwn yn llunio polisi hinsawdd o fewn strategaeth polisi cyhoeddus cyffredinol Cymru ar gyfer y dyfodol a fframwaith cyfreithiol Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Defnyddiodd dystiolaeth ac achosion gorau o bob cwr o'r byd er mwyn gwneud y mwyaf o'u mewnbwn i gyllidebau carbon baeddgar a llwyddiannus y dyfodol. Bu hefyd yn craffu ar rai o'r effeithiau y bydd Brexit yn eu cael ar bolisi hinsawdd Cymru.

Cyhoeddodd Dr Proedrou Briff Ymchwil ar Fynd i'r afael â'r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2019. 

 

 

 

Ymchwiliodd Dr Helen Taylor (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) i ehangu dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â digartrefedd mewn perthynas â Deddf Tai (Cymru) 2014. Dadansoddodd y cynnig i gynnwys 'cysgu ar y stryd' fel categori angen blaenoriaeth gan gasglu data ar yr effaith y gallai hyn ei chael ar unigolion sy'n cysgu ar y stryd. Roedd ymchwil PhD Helen yn ymwneud ag agweddau tuag at fregusrwydd yn y Ddeddf ac ar hyn o bryd mae'n darlithio mewn Astudiaethau Tai, gan arbenigo mewn polisi, dulliau ymchwil a digartrefedd.

Cyhoeddwyd crynodeb o waith Dr Taylor mewn erthygl ar y blog Pigion, Beth sy'n cael ei wneud i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru?, ym mis Tachwedd 2019. 

 

  

Cynllun Cymrodoriaethau 2017

 

Cyhoeddodd y Dr Alex Plows (Prifysgol Bangor) adroddiad i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth i edrych yn fanwl ar ddulliau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi gogledd Cymru. Casglodd y prosiect dystiolaeth ar:

  • Y cyfleoedd a'r bygythiadau o ran swyddi a thwf yn y Gogledd
  • Yr ymyriadau sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleodd hyn.
  • Modelau o arfer gorau / cymharol rhyngwladol ym maes datblygiadau rhanbarthol a thrawsffiniol; a
  • Syniadu ar ddulliau / datblygiadau gwahanol a chyflenwol ym mae datblygu'r economi

Cyhoeddwyd erthygl Pigion a oedd yn cynnwys crynodeb o ganfyddiadau'r Dr Plows ym mis Gorffennaf 2017. Mae ei hadroddiad ar gael yma (PDF, 862.19 KB).

 

 

Darparodd y Dr Catrin Hedd Jones (Prifysgol Bangor) sail dystiolaeth ar gyfer craffu yn y dyfodol ar bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru, a gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.  Yn benodol, casglodd dystiolaeth am:

  • Dementia a'i effaith ar anghydraddoldebau iechyd.
  • Y dystiolaeth am ymrwymiadau gwariant effeithiol ac effeithlon' gan nodi enghreifftiau o arfer gorau ym maes gofal dementia ledled Cymru ac yn rhyngwladol yn unol â'r egwyddorion a'r camau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Ddementia (2017-2025).

Lluniodd y Dr Hedd Jones ddau bapur ymchwil: Lluniodd y Dr Hedd-Jones ddau bapur ymchwil: Mynediad i wasanaethau dementia i bobl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) (PDF, 3,496KB), a Safbwynt Byd-eang a Chenedlaethol ar Dementia (PDF, 3,383KB).

 

 

ge3-blog.png

Darparodd y Dr Gareth Enticott (Prifysgol Caerdydd) sail dystiolaeth ar gyfer craffu yn y dyfodol ar raglen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB mewn gwartheg.  Roedd yn prosiect yn adolygu ac yn casglu tystiolaeth am y tair elfen a ganlyn (pecynnau gwaith):

  • Y cyfleoedd i wahanol fodelau llywodraethu gyfrannu at fynd i'r afael â TB mewn gwartheg yng Nghymru;
  • Y gwersi y gellir eu dysgu oddi wrth gynlluniau rhyngwladol llwyddiannus i ddileu TB mewn gwartheg;
  • Yr heriau sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol yng ngoleuni penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r goblygiadau posibl o ran TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Lluniodd y Dr Enticott y papurau ymchwil a ganlyn: TB mewn gwartheg yng Nghymru: llywodraethu a risg (PDF, 843KB) a Goblygiadau Brexit ar gyfer TB Buchol yng Nghymru (PDF, 378KB). Cyhoeddwyd papur ymchwil academaidd yn Ebrill 2019.

 

 

Mae’r Athro Nick Perdikis (Prifysgol Aberystwyth) wedi paratoi adroddiad sy’n ymchwilio i’r modd y mae penderfyniad y DU i adael yr UE yn debygol o effeithio ar economi Cymru, gan gynnwys yr effaith ar y sectorau allweddol.

Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o senarios posibl ar gyfer gadael yr UE, fel gadael heb gytundeb, masnachu’n ôl telerau’r WTO, parhau’n aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Cyhoeddodd yr Athro Perdikis yr adroddiad (PDF, 1.991Mb) a ganlyn yn amlinellu'r canfyddiadau.

 

 

Mae’r Athro Ann John (Prifysgol Abertawe) wedi paratoi gwybodaeth a phapur ar hunanladdiad a hunan-niweidio i helpu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i werthuso effeithiolrwydd strategaeth Llywodraeth Cymru, sef “Beth am siarad â mi 2,” yn 2018.

Mae ei chyhoeddiadau hyd yma yn cynnwys Cronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad-Cymru (SID-Cymru).

 

  

victoria-jenkins-blog.png

Bu'r Dr Victoria Jenkins (Prifysgol Abertawe) yn ystyried goblygiadau Brexit ar gyfer y Gyfraith Amgylcheddol yng Nghymru

Yn benodol, bu'n ystyried sut y gall Cymru ddefnyddio’r dull o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) i ymchwilio i’r dulliau mwyaf priodol o rannu pwerau i reoli tir yn gynaliadwy rhwng Cymru a’r DU ar ôl gadael yr UE er mwyn cryfhau ecosystemau.

Fel man cychwyn, bydd y prosiect yn ystyried y Treialon Ardal a gynhaliwyd i gael gwybodaeth ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd ar SMNR.  Mae'r treialon hyn yn rhoi rhywfaint o arwydd o'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar SMNR yn y rhanbarthau hyn. Lluniodd y Dr Jenkins yr adroddiad ymchwil a ganlyn Persbectif Newydd ar Fframweithiau Cyffredin y DU: y cyfleoedd ar gyfer rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy (PDF, 1,313KB).

 

 

 

 

Partners & Help