Is-ddeddfwriaeth
Ni ellir gwneud is-ddeddfwriaeth oni bai fod deddfwriaeth sylfaenol yn rhoi'r pŵer i wneud hynny. Gelwir y ddeddfwriaeth sylfaenol yn ddeddf alluogi, gan ei bod yn galluogi'r is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud. Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfau galluogi fel Deddfau'r Cynulliad, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth ddirprwyedig hefyd, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd hefydd.
Er enghraifft, o dan adran 33(3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, "Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a'r amodau eraill sydd i'w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd."
Yn yr enghraifft hon, y ddeddf galluogi yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac mae adran 33(3) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (ar ffurf rheoliadau) ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol. Heb y pŵer galluogi hwnnw, ni allai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol.
Yng Nghymru, offerynnau statudol Cymru yw'r math mwyaf cyffredin o is-ddeddfwriaeth. Fel arfer, maent yn rheoliadau neu'n orchmynion. Mae codau ymarfer, cynlluniau a chanllawiau yn fathau eraill o is-ddeddfwriaeth.
Offerynnau Statudol
Mae is-ddeddfwriaeth ar ffurf offeryn statudol yn golygu y bydd y rheolau a nodir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i'r is-ddeddfwriaeth.
Mewn perthynas ag offerynnau statudol, rôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw ystyried a chyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r meini prawf a nodir yn y Rheolau Sefydlog canlynol:
- Rheol Sefydlog 21.2 – er enghraifft, materion a allai godi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb offeryn statudol neu a yw offeryn statudol wedi'i lunio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n rhaid i'r Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn. Yr enw ar faterion y cyflwynir adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 yw pwyntiau adrodd technegol.
- Rheol Sefydlog 21.3 – er enghraifft, materion sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad, fel offeryn statudol nad yw'n gweithredu polisi yn y ffordd a nodwyd neu offeryn statudol yr ystyrir ei fod yn wleidyddol gynhennus neu'n arwyddocaol. Caiff y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn. Yr enw ar faterion y cyflwynir adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 yw pwyntiau adrodd o ran rhinweddau.
Os yw'r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, cyfeirir ato fel un sydd ag adroddiad clir. Fel arall, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 21.2 neu Reol Sefydlog 21.3, neu'r ddwy reol, os nad yw'n fodlon ar offeryn statudol. Mae adroddiadau o'r fath yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw faterion sy'n codi mewn perthynas ag offerynnau statudol; nid yw adroddiadau'r Pwyllgor yn gyfystyr ag unrhyw fath o feto o ran offerynnau statudol. O dan Reol Sefydlog 21.4, mae'n rhaid i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad o fewn 20 diwrnod i offeryn statudol gael ei osod gerbron y Cynulliad.
O dan adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, os na chaiff offeryn statudol gweithdrefn negyddol a wnaed gan Weinidogion Cymru ei osod gerbron y Cynulliad o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn statudol ddod i rym (h.y. cael effaith), mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Llywydd ac esbonio pam mae'r "rheol 21 diwrnod" wedi'i thorri.
Mae'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i waith y Cynulliad wrth ystyried offerynnau statudol wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 27 (ond noder Rheol Sefydlog 27.14 sy'n cymhwyso Rheol Sefydlog 27 i is-ddeddfwriaeth nad yw ar ffurf offeryn statudol).
Mae unrhyw ohebiaeth arall sy'n ymwneud â Biliau; Is-ddeddfwriaeth; Offerynnau Statudol y mae angen Cydsyniad arnynt; Datganiadau Ysgrifenedig a wneir o dan Reol Sefydlog 30C; a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gael ar y dudalen berthnasol sy'n ymwneud â'r eitem benodol o ddeddfwriaeth.
Gweithdrefnau
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.
Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer pennu pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol a elwir yn “rheoliadau negyddol arfaethedig”. Yna bydd y Pwyllgor sifftio yn ystyried y weithdrefn briodol i'w dilyn, naill ai negyddol neu gadarnhaol.
Ar ôl i Weinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, mae'r weithdrefn negyddol yn darparu bod yn rhaid iddynt osod yr is-ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad. Yna, mae gan y Cynulliad gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r is-ddeddfwriaeth. Os na fydd y Cynulliad yn gwrthwynebu, bydd yr is-ddeddfwriaeth yn parhau i gael effaith (mae'n 'parhau' i gael effaith oherwydd y bydd yr is-ddeddfwriaeth wedi dod i rym yn awtomatig cyn gynted ag y cafodd ei rhyddhau i'r cyhoedd). Os bydd y Cynulliad yn gwrthwynebu, caiff yr is-ddeddfwriaeth ei dirymu ac ni fydd dim byd arall y gellir ei wneud o dan yr is-ddeddfwriaeth. Mae'r rhan fwyaf o'r is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn y weithdrefn hon.
Weithiau, bydd y ddeddf alluogi yn dweud bod yn rhaid i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud ar y cyd, gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i'r fath hon o is-ddeddfwriaeth gael ei gosod gerbron y Cynulliad a Senedd y DU. Bydd y ddeddf alluogi yn nodi pa weithdrefn sy'n berthnasol.
Rhaid gosod darn o is-ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod yn weithredol. Os bydd y rheol hon yn cael ei thorri, rhaid i Lywodraeth Cymru hysbysu'r Llywydd o'r rhesymau dros hynny.
Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu na all Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth oni fydd y Cynulliad wedi gwneud penderfyniad i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Felly, mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad ar ffurf drafft, ac ni fydd yn dod i rym oni bai bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r drafft. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth mwy arwyddocaol.
Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth yn destun gweithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys: (i) gweithdrefnau uwchgadarnhaol, er enghraifft y drefn a nodir yn adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011; (ii) y weithdrefn gadarnhaol dros dro, er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 25(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a (iii) y weithdrefn drafft negyddol, er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 144ZF(5) i (7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth yn dilyn gweithdrefn arbennig y Cynulliad, sy'n golygu nad oes modd i Weinidogion Cymru eu gwneud na'u cadarnhau nes bod y gweithdrefnau a nodir yn Rheol Sefydlog 28 wedi cael eu bodloni.
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol oni bai fod yn rhaid iddynt gael eu gosod gerbron y Cynulliad. Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad oes angen eu gosod gerbron y Cynulliad hyd yn oed. Er enghraifft, nid yw gorchmynion cychwyn (h.y. is-ddeddfwriaeth sy'n pennu dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym) fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol ac nid oes angen eu gosod gerbron y Cynulliad. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am orchmynion cychwyn, ond ni fydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fel arfer.
Mae’r offerynnau hyn yn ymwneud mewn ryw ffordd â chyfraith y DU. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn adrodd i’r Cynulliad ar wahân ar yr offerynnau hyn, gan amlygu materion a allai fod â goblygiadau yn deillio o’r DU yn gadael yr UE er gwybodaeth yn unig ac i helpu i ddeall sut y gallai fod angen newid cyfraith o’r fath yn y dyfodol.
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad oes angen eu gosod gerbron y Cynulliad. Er enghraifft, nid yw gorchmynion cychwyn (h.y. is-ddeddfwriaeth sy'n pennu dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym) fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol ac nid oes angen eu gosod gerbron y Cynulliad. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am orchmynion cychwyn, ond ni fydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fel arfer.
Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio
Atodlen 7 i Ddeddf 2006, ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.
Mae Rheol Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn perthynas â thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gosodwyd y ddeddfwriaeth a ganlyn gerbron y Cynulliad yn rhy hwyr i ganiatáu iddi gael ei hystyried gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad.
Cynulliad Blaenorol