Y Dirprwy Lywydd

Mae rôl y Dirprwy Lywydd yn cael ei amlinellu yn y Rheolau Sefydlog.

Etholwyd David Rees AS yn Ddirprwy Lywydd  y Senedd, yn ogystal ag Aelod o'r Senedd dros Aberafan. 
Mae Rheol Sefydlog 6.18 yn dweud, “yn absenoldeb y Llywydd neu yn unol â chais ganddo, rhaid i’r Dirprwy arfer swyddogaethau’r Llywydd, cyhyd ag y caniateir hynny gan y Ddeddf."
Prif swyddogaeth y Dirprwy Lywydd yw rhannu’r dasg o gadeirio Cyfarfodydd Llawn y Senedd â’r Llywydd; mae ei rôl yn debyg i rôl Dirprwy Lefarydd Ty’r Cyffredin.
O dan Reol Sefydlog 6.19, rhaid i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd fod yn ddiduedd bob amser.
Mae’r Dirprwy hefyd yn mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau yn rhinwedd ei swydd yn ogystal ag ar ran y Llywydd, er mwyn codi proffil y Senedd.
David Rees

Y Diweddaraf