Lle i ni – Diwrnod Menywod yn y Senedd

Roedd y Cawcws yn falch o gefnogi digwyddiad arbennig yn y Senedd ar 21 Hydref 2023. Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â WEN Wales a Elect Her, er mwyn hybu a chysylltu’r genhedlaeth nesaf o fenywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Cynhaliwyd sesiwn ysbrydoledig yn Siambr y Senedd, sydd ar gael i'w wylio isod, ac yna gweithdai ar weithredu, cymryd y camau cyntaf mewn i wleidyddiaeth, a hunaniaeth a phrofiadau mewn bywyd cyhoeddus. Trwy gydol y dydd, cyfrannodd Aelodau'r Cawcws at sesiynau a chwrdd â menywod o bob rhan o Gymru mewn gwahanol gamau o'u gyrfaoedd gwleidyddol. Mae’r Cawcws yn ddiolchgar i bob un gyfrannodd at y digwyddiad a’i lwyddiant.

 

Darllenwch fwy gan ein partneriaid yn WEN Wales yma

Mwy o wybodaeth

Manylion Cyswllt

Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd

Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: llywydd@senedd.wales

Cadeirydd: Joyce Watson AS

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.