Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

​​​​​​​​

William Williams Pantycelyn

Ewch i'r Senedd o 17 Hydref - 6 Tachwedd​ i fwynhau arddangosfa arbennig hon sy'n dathlu 300 mlynedd ers geni un o fawrion dywilliant Cymru.

 

​Ynglŷn â'r arddangosfa​

William Williams Pantycelyn (1717-1791), y Pêr Ganiedydd, yw un o emynwyr enwocaf Cymru. Ysgrifennodd dros 900 o emynau yn Gymraeg a Saesneg yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith. 

Mae ei etifeddiaeth yn parhau hyd heddiw, ac nid yw'n anghyffredin clywed ei emyn enwocaf yn Saesneg, "Guide me O though great Jehova" yn cael ei ganu mewn gemau rygbi yn Stadiwm y Principality ac sydd bellach yn cael ei adnabod fel 'Bread of Heaven'.

Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith celf gan artistiaid o Gymru, Ivor Davies a Wynne Melville Jones, a gyflwynir i'r Senedd i gofio trichanmlwyddiant geni Pantycelyn. 

Am fwy o wybodaeth am ymweld a'r Senedd, cliciwch yma

 
 
William Williams, Pantycelyn - Ivor D​avies

Nid ydym yn gwybod yn union sut oedd William Williams yn edrych. Yr unig lun sydd ar gael yw braslun ohono yn fel hen ŵr, ond mae'r ysgythriad ohono a grëwyd gan ei gyhoeddwr wedi creu delwedd eiconig a pharhaol.

Fel plentyn, roedd yr artist o Benarth, Ivor Davies, yn arfer gweld y ddelwedd hon ar waliau nifer o gartrefi Cymru ac am flynyddoedd roedd am ail-greu coffadwriaeth clasuron o'r eicon.

300 mlynedd ers geni Pantycelyn, penderfynodd wneud hynny. Dewisodd bigment dulas arbennig o darddiad llysieiol ar ôl ei gymysgu â 'casein'. Tynnodd y portread ar ddiledyn gwely.

I orffen, llungopïodd rai o emynau Pantycelyn a'u lleihau yn ddarnau bychan i'w defnyddio i orchuddio'r tyllau yn y canfas.

Mae'r portread yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

​​Ynglyn â'r artist

Artist yw Ivor Davies yn bennaf, ond mae hefyd yn hanesydd celf ac roedd ei draethawd ymchwil ar gyfer ei Ddoethuriaeth i Brifysgol Caeredin ar Gelf Rwsiaidd Cyfnod y Chwyldro.

Ym 1966, cynorthwyodd Gustav Metzger i drefnu'r Symposiwm 'Destruction in Art', a Davies oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio ffrwydron mewn perfformiad celf.

Yn y 1970au, ymunodd â'r brodyr Davies i ailddeffro ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol y Cymry fel cyd-artistiaid mudiad Beca. 

Mae wedi arddangos ei waith ar draws y byd, a'i arddangosfa yn Amgueddfa Cymru yn ddiweddar oedd y sioe un dyn mwyaf i'w chynnal yng Nghymru erioed.

 
 

​​​Pantycelyn – Wynne Melville Jones


Paentiwyd y darlun hwn o Bantycelyn, cartref emynydd mwyaf adnabyddus a mwyaf cynhyrchiol Cymru, William Williams (1717-1791), gan Wynne Melville Jones o Geredigion yn gynharach eleni  i nodi 300 mlynedd ers genedigaeth y bard ac i ddathlu ei gyfraniad nodedig i fywyd crefyddol, diwylliannol a chenedlaethol Cymru.

Mewn ymgais i gyfrannu at ddathliad cenedlaethol, mae'r darlun hwn wedi mynd ar daith i sawl lleoliad yng Nghymru ac mae eisoes wedi cael ei arddangos eleni yn Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, ymhlith lleoedd eraill.

Paentiwyd y darlun yn dilyn ymweliadau cofiadwy gan yr artist â Phantycelyn ac yn werthfawrogiad o'r croeso rhoddwyd gan Mr a Mrs Cecil Williams a'r teulu. ​

Ynglyn â'r artist​

Mae Wynne Melville Jones yn artsist o Geredigion sy'n gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn neu yn Llandre.

Mae'r cyn-fyfyriwr celf wedi ailgydio yn y brwsh paent ar ôl deugain mlynedd ac mae llawer o'i baentiadau wedi'u hysbrydoli gan ein treftadaeth a'n diwylliant unigryw o fewn y cymunedau yng Nghymru.

​Gellir gweld llawer o'i luniau ledled Cymru ac mae eraill wedi crwydro dipyn ymhellach.​


Partners & Help