Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Stori chwerwfelys y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru

16/05/2019

Er mwyn parhau twf aruthrol y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, mae angen datblygu strategaeth gynaliadwy a chynnal gwaith hyrwyddo trylwyr, yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dysgodd y Pwyllgor fod y diwydiant sgrin yng Nghymru yn tyfu'n gyflymach na gweddill y DU ar gyfartaledd, bod yma gyfleusterau o'r radd flaenaf, a bod pobl o Gymru yn creu ffilmiau a chyfresi teledu arbennig ledled y byd.

Er enghraifft, cafodd y Pwyllgor wybod gan Brifysgol De Cymru fod 26 o raddedigion yr Ysgol Ffilm a Theledu wedi cyfrannu at ffilmiau a enillodd Oscar yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dyma rai o'r rhesymau pam y mae'r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi proffil uwch i'r diwydiant sgrin yng Nghymru.

Dylai hefyd wneud mwy i ddatblygu'r diwydiant cynhenid er mwyn adrodd straeon o Gymru a fydd yn atseinio ar draws y byd.

Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai Cymru allu elwa mwy o'r cynyrchiadau rhyngwladol sy'n cael eu ffilmio yma. Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn argymell ymchwilio i weld a yw'n bosib gosod amodau ar unrhyw gynhyrchiad sy'n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, yn cynnwys:

  • cynnal o leiaf un clyweliad yma fel y gall talent o Gymru gystadlu ar sail gyfartal;
  • llunio cytundebau cyd-gynhyrchu gyda chwmnïau lleol;
  • gosod cwota o ran cyflwyno talent o Gymru ar y sgrin.

Clywodd y Pwyllgor – gan dystion yn cynnwys y BBC a Bad Wolf – mai'r ffactor mwyaf sy'n cyfyngu twf yn y diwydiant sgrin yng Nghymru yw prinder sgiliau.

Rhybuddiodd Natasha Hale, o Bad Wolf, na fydd modd darparu ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol os bydd yn parhau i dyfu gormod heb ddatblygu talent a sgiliau.

Dywedodd Gareth Williams, o Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), ei bod yn anochel y bydd cyfnod yn dod "lle, rhywle yn y gadwyn yna o bopeth yn ffilmio ar yr un pryd, mi fydd yna brinder pobl sydd â'r sgiliau i wneud y gwaith. Ac felly, mae'n allweddol ein bod ni'n delio â hyn ac yn ei gael e'n iawn nawr, er mwyn osgoi sefyllfa lle y gall llai o gynyrchiadau ddewis dod i Gymru yn y dyfodol. Rydym ni'n moyn i'r diwydiant dyfu."

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth sgiliau sy'n nodi proffil y gweithlu a'r bylchau o ran sgiliau, ac yn hyrwyddo cyfleoedd yn y diwydiant ar bob lefel addysgol.

Mae'r Pwyllgor hefyd am wybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cynnal y twf trawiadol yn y sector drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan ddarparu cymorth ariannol sy'n hyblyg ac yn dryloyw, a dangos ei fod yn barod i gymryd risgiau.

Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Dyma'r amser mwyaf cyffrous erioed i fod yn rhan o'r diwydiant sgrin yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld twf anhygoel yn y sector hwn yng Nghymru, y twf mwyaf trawiadol o bell ffordd yn y DU.

"Ond ni allwn dynnu ein troed oddi ar y sbardun nawr. Mae'n rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn cynhyrchwyr ffilm a theledu a'u cefnogi.

"Rydym ni am i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth yn dangos sut y bydd yn cefnogi ac yn cynnal ein llwyddiant presennol. Yn bwysicaf oll, rydym ni am iddi ddefnyddio pob cyfle i helpu i ddatblygu talent a chynyrchiadau o Gymru sydd â'r potensial i gael eu gwerthu'n rhyngwladol."

Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar berthynas Llywodraeth Cymru â Stwidios Pinewood, a leolir rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Daeth i'r casgliad ei bod hi'n siomedig bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian cyhoeddus mewn safle stiwdios a ddisgrifiwyd fel un sy'n anaddas ar gyfer cynyrchiadau ffilm mawr. Roedd yr un peth yn wir am y cytundeb â Pinewood, wnaeth ddim llwyddo i ddarparu'r budd oedd wedi ei fwriadu.

Fodd bynnag, y peth mwyaf annerbyniol oedd y diffyg tryloywder a welwyd gan y Llywodraeth.

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am i'r Llywodraeth fod yn fwy agored yn y dyfodol o ran arian gyhoeddus, gan ei fod yn credu na ellir defnyddio cyfrinachedd masnachol fel esgus i osgoi craffu ar berfformiad y Llywodraeth.
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth sy'n nodi ei gweledigaeth o ran sut y gall diwydiant sgrin Cymru:
  • fod yn ddiogel yn ariannol;
  • ddatblygu busnesau bach i fanteisio ar gynyrchiadau mwy o faint;
  • ddenu cynyrchiadau gydag ystod o werthoedd ac amrywiaeth ddiwylliannol;
  • gefnogi cynyrchiadau Cymraeg a chynyrchiadau eraill sy'n amlwg yn Gymreig gyda'r nod i gryfhau amlygrwydd iaith a diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol;
  • gymryd cyfrifoldeb dros nodi a lliniaru bylchau sgiliau drwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol; a chymryd cyfrifoldeb dros sut mae cyfleoedd gwaith a dysgu yn cael eu hyrwyddo er mwyn sicrhau eu bod nhw o fewn gafael pobl o gefndiroedd gwahanol.

Mi ddylai Llywodraeth Cymru gynllunio polisi cyllido er mwyn meithrin diwydiant sgrin a fydd yn gallu sefyll ar ei draed ei hun. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i weld os oes modd mynnu fod cynyrchiadau sy'n derbyn cyllid yn llunio cytundebau cyd-gynhyrchu â chwmnïau yng Nghymru. Hefyd, mi ddylai busnesau sydd wedi'u cofrestru a'u lleoli yng Nghymru orfod gwario o leiaf 35% o'r gyllideb gynhyrchu 'islaw'r llinell' ar gyflenwyr, cast, criw a chyfleusterau lleol.
Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Cymru Greadigol lunio strategaeth sgiliau sy'n:

  • darparu gwybodaeth am y gweithlu medrus yn niwydiant sgrin Cymru; 
  • archwilio'r hyfforddiant a'r lleoliadau gwaith sy'n cael eu cynnig ar bob lefel addysg, gan gynnwys ysgolion;
  • nodi sut y maen nhw'n bwriadu llenwi'r bwlch sgiliau; a 
  • gofyn am farn a chymorth undebau a chyflogwyr am y math o sgiliau fydd ei angen ar y diwydiant yn y dyfodol.

 

Partners & Help