Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cyfraith newydd sy'n rhoi fwy o bwerau i bobl ddwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif

21/03/2019

​Mae cyfraith newydd wedi cael ei phasio a fydd yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy atebol i bobl Cymru.

Cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gyda phleidlais yn y Senedd ddydd Mercher, 20 Mawrth 2019.

Am y tro cyntaf erioed, dyma'r Bil cyntaf i gael ei basio a gyflwynwyd gan bwyllgor Cynulliad.

Bydd y gyfraith newydd yn ei gwneud yn haws i bobl gwyno, a hynny drwy ddileu'r rhwystr bod rhaid i gŵyn gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig. Bydd pobl yn gallu gwneud cwynion ar lafar neu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain ac efallai, yn y dyfodol, drwy dechnolegau digidol eraill, a'i nod yw helpu aelodau bregus a difreintiedig o'r gymdeithas.

Hefyd, bydd yn galluogi'r Ombwdsmon i ddechrau ei ymchwiliadau ei hun heb iddo orfod cael cwyn ffurfiol lle mae tystiolaeth i awgrymu y gallai ymwneud â mater sydd er budd ehangach y cyhoedd. Yn aml, mae pobl yn amharod i wneud cwyn, neu'n ofni gwneud hynny, felly bydd modd iddynt gwyno'n ddienw, ac os bodlonir y meini prawf llym, bydd yr Ombwdsmon yn gallu ymchwilio iddi.

Ar hyn o bryd, lle mae triniaeth iechyd cyhoeddus a thriniaeth iechyd preifat yn gorgyffwrdd, mae'n rhaid i rywun wneud cwynion ar wahân i wahanol sefydliadau. Mae'r gyfraith newydd yn caniatáu i'r Ombwdsmon ymdrin â'r elfennau preifat a chyhoeddus gyda'i gilydd lle na fyddai fel arall yn gallu ymchwilio i'r camau perthnasol a gymerwyd gan ddarparwr y gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hon yn broses decach a fydd yn rhoi atebion i gwestiynau ynghylch a gafodd unigolyn driniaeth feddygol briodol drwy gydol ei lwybr gofal iechyd.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid : "Mae gan yr Ombwdsmon yng Nghymru rôl hanfodol wrth sicrhau bod unrhyw un sy'n credu ei fod wedi dioddef anghyfiawnder, caledi neu fethiant gwasanaeth oherwydd corff cyhoeddus yn gallu gwneud cwyn.

Cyflwynodd y Pwyllgor Cyllid y Bil hwn am ein bod yn credu y dylid cryfhau rôl yr Ombwdsmon er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.

"Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cymdeithas lle mai'r bobl fwyaf bregus yn aml yw'r rhai sy'n dibynnu fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus.

Rwyf yn falch iawn fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r gyfraith newydd hon; mae arnom angen Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol. Os nad yw gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau unigolion, bydd ganddynt hyder yng ngallu'r Ombwdsmon i ymchwilio a gwneud pethau'n iawn."

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

"Rwyf yn falch iawn fod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r ddeddfwriaeth ac edrychaf ymlaen at ddefnyddio pwerau newydd fy swyddfa a rhoi mwy o lais i'r rhai heb lais yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ei waith ar y Bil a byddaf yn mynd ati i ymateb i'r her o weithredu newidiadau i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell."

Cynigiwyd y gyfraith am y tro cyntaf gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Jocelyn Davies oedd Cadeirydd y Pwyllgor yr adeg honno:

"Dechreuais weithio ar ehangu pwerau'r Ombwdsmon yn ôl yn y Pedwerydd Cynulliad. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol lle mae gennym wasanaethau cyhoeddus rhagorol, ond pan fydd pethau'n mynd o'u lle, bydd yr Ombwdsmon yn gallu ymchwilio, gwneud iawn i unigolion, a gwneud gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus er lles pawb."

Bydd y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn cael ei anfon nesaf at Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth, ar gyfer y rhan olaf o broses ddeddfu'r Cynulliad – Cydsyniad Brenhinol.

Partners & Help