Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Rhaid gwella 'rhianta corfforaethol' i ddarparu'r gwasanaethau cywir i blant mewn gofal yng Nghymru

20/11/2018

​Mae plant mewn gofal ledled Cymru yn cael eu siomi gan nad yw sefydliadau yn cydnabod eu 'cyfrifoldebau rhianta corfforaethol' yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Mae bron i 6,000 o blant mewn gofal yng Nghymru, ddwywaith cymaint ag yr oedd yn 1997.

Er bod mwyafrif y gofal yn cael ei ddarparu a'i fesur drwy'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, canfu'r Pwyllgor ei bod hi'n anodd sefydlu faint o arian ac adnoddau sy'n cael eu darparu drwy wasanaethau eraill.

Mae'r heddlu, timau troseddau ieuenctid, addysg a gwasanaethau tai i gyd yn chwarae rôl wrth gefnogi plant yn y system gofal, ond roedd yr her sylweddol i'r Pwyllgor wrth geisio nodi'r arian sy'n cael ei wario gan y sefydliadau hyn yn dangos yn glir y diffyg tryloywder ac atebolrwydd am y gwariant hwn. Yn ôl y Pwyllgor, mae hyn yn annerbyniol gan fod cyfrifoldeb cyfunol gwirioneddol ar gyfer 'rhianta corfforaethol' ar draws ystod eang o gyrff cyhoeddus.

Mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo dull 'gwariant ataliol' a allai olygu bod mwy o arian yn cael ei ddyrannu i wasanaethau o safon uchel er mwyn darparu cymaint o gefnogaeth ag sydd angen yn gynnar. Gall buddsoddi mewn gwasanaethau o safon uchel o'r dechrau leihau'r angen posibl am wasanaethau drud yn y dyfodol fel mynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael mewn oedolion ac ymddygiad troseddol.

Gall gwasanaethau o safon uchel hefyd leihau'r risg bod plant y rhai sydd wedi bod mewn gofal yn mynd i ofal eu hunain hefyd, sy'n gost sylweddol i'r pwrs cyhoeddus yn ogystal â chael effaith ddinistriol ar deuluoedd.

Yn ôl Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus,

"Pan nad yw plant yn gallu byw gyda'u teuluoedd geni am ba bynnag reswm, mae'n hanfodol bod y gofal a ddarperir iddynt gan wasanaethau cyhoeddus o safon uchel, eu bod yn gydgysylltiedig ac wedi'u teilwra i'w hanghenion unigol.

"Fel yr ydym yn gobeithio y byddai rhieni geni yn gwneud, rhaid i 'rieni corfforaethol' gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif i ddiwallu anghenion cyfannol y plant hyn a defnyddio eu hadnoddau er lles y plentyn.

"Plant sydd wedi bod mewn gofal yn aml yw'r plant sydd fwyaf agored i niwed, ac mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus ddarparu'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt.
Drwy gydol yr ymchwiliad hwn rydym wedi sicrhau ein bod yn cofio bod hyn ynglŷn â phlant go iawn a phrofiadau go iawn.

"Er ein bod ni'n glir bod nifer o weithwyr proffesiynol yn ymroddedig ac yn darparu gwasanaethau o safon o dan amgylchiadau anodd, mae hefyd yn amlwg bod gwasanaethau ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal o dan bwysau sylweddol ac yn wynebu heriau difrifol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad o wariant ar blant sy'n derbyn gofal ar draws yr ystod o wasanaethau sy'n rhan o'u gofal, er enghraifft addysg, tai a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau darlun cynhwysfawr o'r arian a fuddsoddir i gefnogi'r grŵp hwn;

  • bod Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad cymharol o'r amrywiaeth mewn gwariant fesul plentyn sy'n derbyn gofal rhwng awdurdodau lleol i ddatblygu sylfaen o wybodaeth ynghylch amrywiaeth costau i annog arfer da, a;

  • bod yr holl blant sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu hysbysu'n rheolaidd o'u hawl i eiriolwr ac yn cael gwybodaeth glir am sut i gael gafael ar yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael. Dylai Llywodraeth Cymru fonitro hyn a'i ymgorffori yn y dangosyddion ar gyfer y Grŵp Cynghori Gweinidogol.

Mae cefnogi plant yn y system ofal yn faes allweddol y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei archwilio drwy gydol y Cynulliad hwn.


Anfonir yr adroddiad diweddaraf at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi ymateb iddo.

 

 

Partners & Help