Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Craffu ar Gyfrifon 2016-17 - Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

07/02/2018

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad yn craffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cyflwyno adroddiad bob blwyddyn ar welliannau i'r ffordd y caiff adroddiadau blynyddol a chyfrifon cyrff cyhoeddus y mae wedi craffu arnynt eu cyflwyno a pha mor hygyrch ydynt.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

“Rydym wedi gweld bod gwaith craffu cadarn ac annibynnol yn sbardun pwysig o ran atebolrwydd a chyflwyno adroddiadau ariannol tryloyw. 

“Mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ran hanfodol i'w chwarae o ran datgelu problemau a chamreoli'n gynnar er mwyn gwneud arbedion ariannol yn y tymor hwy. 

“Mae ein rôl ragweithiol yn herio gwastraff ac aneffeithlonrwydd ond mae hefyd yn darparu ffyrdd o wirio pa mor dda y mae sefydliadau'n darparu gwasanaethau i'r dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu a chadw'r cydbwysedd hwnnw.

Gwnaiff y Pwyllgor 22  o argymhellion, gan gynnwys:


Llywodraeth Cymru:

- Bod Llywodraeth Cymru yn dangos yn glir sut y mae ei systemau Rheoli Perfformiad yn gadarn ac yn cynhyrchu canlyniadau pendant;

- Bod gwybodaeth sy’n ymwneud â nifer yr holl staff yn Llywodraeth Cymru sy’n ennill dros £100,000 o fewn blwyddyn yn cael ei chynnwys yng nghyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’u cynnwys yn y polisi tâl a gyhoeddir ar wahân. 


Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

- Bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ailymweld â'r syniad o ddatgelu taliadau ar gyfer uwch-aelodau o staff, gan sicrhau ei fod yn nodi gwybodaeth i alluogi cymhariaeth uniongyrchol o lefel y taliadau a dalwyd i'r cyfarwyddwyr o fewn swyddfa Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol ac a gyflogir gan gyrff eraill;

- Bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos i'r Pwyllgor effaith yr amgylchedd gwaith hyfyw ac yn hyrwyddo unrhyw arfer da y mae'n ei nodi.


Chwaraeon Cymru:

- Bod Chwaraeon Cymru yn ceisio hyrwyddo a diogelu mynediad i bawb at yr holl gyfleusterau chwaraeon sy’n eiddo i awdurdodau lleol;

- Bod Chwaraeon Cymru yn monitro’r effaith a gaiff hyrwyddo caeau 3G ar fynediad at gaeau sy’n eiddo i awdurdodau lleol, gan rannu canlyniadau’r gwaith monitro hwn â’r Pwyllgor, a gweithio i sicrhau bod cyfleusterau’n parhau i fod mor hygyrch â phosibl i bawb.


Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

- Bod Comisiwn y Cynulliad yn darparu manylion i ni am sut y mae ei adolygiad o gapasiti wedi profi lefelau staffio a darparu manylion am sut y caiff staff eu lleoli i gyflawni blaenoriaethau Comisiwn y Cynulliad;

- Bod Comisiwn y Cynulliad yn parhau i fonitro lefelau absenoldebau staff yn ofalus, gan gynnwys dadansoddi achosion yr absenoldebau oherwydd salwch er mwyn sicrhau y cânt eu rheoli’n briodol.


Cyngor Celfyddydau Cymru:

- Nid yw'r Pwyllgor yn fodlon ar lefel y cymorth y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei ddarparu i gefnogi ymgysylltiad â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac yn argymell bod Cyngor y Celfyddydau yn adolygu’r cymorth hwn gyda’r bwriad o’i gynyddu;

- Mae'r Pwyllgor yn pryderu bod rôl Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru yn swydd rhan-amser erbyn hyn ac rydym yn argymell bod Bwrdd Cyngor y Celfyddydau yn cadarnhau ei fod yn fodlon bod y cyfrifoldeb am drosolwg ariannol strategol y Cyngor yn cael ei gyflawni’n foddhaol o fewn y sefydliad.


Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

- Bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adolygu ei chynllun pensiwn fel mater o frys ac yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor y gall weithredu cynllun sy’n gynaliadwy yn y tymor hwy, o ystyried y caledi parhaus a’r pwysau sydd ar gyllid cyhoeddus; a

- Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydnabod yn llawn yr heriau a’r goblygiadau o wrthod cyllid yn y dyfodol ac rydym yn argymell bod y Llyfrgell Genedlaethol yn nodi’n glir yn ei gwaith cynllunio senario ar gyfer y dyfodol sut y mae’n bwriadu ymateb i’r gostyngiad hwn mewn cyllid.

Darllenwch yr adroddiad yma




Partners & Help