Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn uchelgeisiol ond yn brin o fanylion, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

19/05/2017

​Cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn uchelgeisiol ond yn brin o fanylion, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Mae cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 yn uchelgeisiol, ond mae diffyg manylion ac eglurder, meddai un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Prif bryder y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yw nad yw strategaeth Llywodraeth Cymru wedi cael ei hystyried yn drwyadl. Nid oedd yr Aelodau wedi’u hargyhoeddi bod y dystiolaeth angenrheidiol ar raddfa debygol yr adnoddau a'r buddsoddiad ychwanegol sy’n ofynnol i gyflawni ei nod wedi cael ei darparu.

Darllen yr adroddiad llawn (PDF, 948KB)

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr uchelgais i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yn bolisi diwylliannol, er ei fod yn un y bydd angen ei gyflawni i raddau helaeth drwy'r system addysg. Felly, nododd risg amlwg y gallai hyn gael effaith wyrdroadol ar gyflawni blaenoriaethau addysgol gan fod y system wedi’i hadlinio i fod yn gallu cyflawni'r strategaeth iaith.

"Mae'r pwyllgor yn llwyr gefnogi nod mentrus polisi Llywodraeth Cymru, ac wedi nodi y bydd yn adeiladol wrth drafod agweddau ymarferol ar sut y gellir gweithredu’r polisi radical hwn yn llwyddiannus," meddai Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Mae'n amlwg, o ystyried y dystiolaeth, er mwyn cael llwyddiant bydd angen gwaith caled, adnoddau ychwanegol sylweddol a thargedau clir.  Bydd hefyd angen iddo fod yn seiliedig ar gefnogaeth barhaus pobl Cymru, siaradwyr Cymraeg a’r rhai di-Gymraeg fel ei gilydd."

Un o'r meysydd a nodwyd gan y Pwyllgor ei fod yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth iaith Gymraeg oedd addysg y blynyddoedd cynnar. Nododd Llywodraeth Cymru y byddai angen 331 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol i gefnogi gweledigaeth y strategaeth. Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn cwestiynu’r ffigur ac awgrymwyd y byddai angen mwy na 650.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r ffigur hyn ac y dylai ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar fod yn flaenoriaeth wrth ystyried cyllid ychwanegol.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru hefyd yn sôn am symud ysgolion ar hyd y 'continwwm ieithyddol'. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod yna berygl o ganolbwyntio gormod ar newid categori iaith yr ysgol yn hytrach na gwella rhuglder disgyblion ym mhob ysgol.

Dywedodd Bethan Jenkins AC:

"Gan fod saith deg pump y cant o ddisgyblion Cymru yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, nid yw'r Pwyllgor yn teimlo bod digon o sylw yn cael ei roi i ffyrdd eraill posibl o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y strategaeth.

"Gyda gwell canlyniadau, gallai ysgolion cyfrwng Saesneg fod yn ffynhonnell gyfoethog o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.  Pe bai hynny’n digwydd, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut mae'n bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg."

Serch hynny, os yw'r nod o filiwn o 'siaradwyr Cymraeg' i fod yn ystyrlon, daeth y pwyllgor i’r casgliad bod yn rhaid i hyn olygu mwy na dim ond gallu dweud ychydig o ymadroddion yn Gymraeg.

Mae’n rhaid iddo olygu deall a chynnal sgyrsiau naturiol ar y rhan fwyaf o bynciau bob dydd. Fodd bynnag, mae Aelodau yn credu bod angen gwneud mwy o waith ar ganfod ffordd wrthrychol o fesur cynnydd sy'n cael ei dderbyn yn eang.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Y dylai'r Llywodraeth gyhoeddi ei thybiaethau sylfaenol am y cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg y mae'n disgwyl o’i hymyriadau arfaethedig a’i bod yn ymgynghori ymhellach ar dargedau a cherrig milltir manwl sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cyn eu mabwysiadu ar gyfer y strategaeth newydd;
  • Y dylai'r strategaeth derfynol roi sylw dyledus i bwysigrwydd meithrin defnydd iaith yn y cymunedau, mewn bywyd cymdeithasol ac mewn gweithleoedd. Dylid gwneud hyn ochr yn ochr â chaffael iaith drwy addysg cyfrwng Cymraeg, addysg y blynyddoedd cynnar a gwella ansawdd addysg Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chanlyniadau Cymraeg i ddisgyblion;
  • Y dylai ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar fod yn flaenoriaeth wrth ystyried cyllid ychwanegol o dan y strategaeth; a
  • Bod y strategaeth derfynol yn cynnwys diffiniad clir o siaradwr Cymraeg wrth werthuso a yw'r strategaeth yn llwyddo i gyrraedd ei nod o greu miliwn o siaradwyr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod yr adroddiad ac yn ymateb iddo.

Partners & Help