Aelodau’r Cynulliad, eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau
Daw Aelodau’r Cynulliad (yr Aelodau) o holl etholaethau a rhanbarthau Cymru i’ch cynrychioli chi yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yr Aelodau sy’n cyflawni gwaith democrataidd y Cynulliad; maent yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae gan bawb yng Nghymru bum Aelod Cynulliad i’w cynrychioli. Mae un yn cynrychioli’r etholaeth rydych chi’n byw ynddi, ac mae pedwar yn cynrychioli’r rhanbarth rydych chi’n byw ynddo. Yn yr adran hon, gallwch ddarganfod mwy am sut mae Aelodau’r Cynulliad yn cyflawni eu dyletswyddau a sut maent yn eich cynrychioli chi.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad. Darganfyddwch pwy sy’n eich cynrychioli chi
Mae Aelodau’r Cynulliad yn cyflawni gwaith democrataidd y Cynulliad. Dysgwch fwy am rôl Aelod Cynulliad
Mae gan bawb yr hawl i gysylltu â’u Haelod Cynulliad lleol i drafod materion sy’n effeithio arnynt. Darganfyddwch am beth y gallwch gysylltu â’ch Aelod.
Mae’r Cynulliad wedi’i ffurfio o 40 Aelod Etholaeth a 20 Aelod Rhanbarthol. Darganfyddwch fwy am y broses etholiadol a sut mae’r systemau rhanbarthol ac etholaeth yn gweithio.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r fforwm ar gyfer trafod materion sy’n bwysig i Gymru a’i phobl. Darganfyddwch sut mae eich Aelod Cynulliad yn eich cynrychioli chi.
Chwiliwch drwy Gofnod y Trafodion (trawsgrifiadau o gyfarfodydd Pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn), yn ogystal â busnes defnyddiol arall a gyflwynwyd, gan gynnwys yr holl gwestiynau llafar, cwestiynau amserol a chwestiynau ysgrifenedig a’r holl gynigion.
Gall Aelodau’r Cynulliad sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymchwilio i unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Cynulliad.
Chwiliwch drwy’r archif i weld Aelodau Cynulliadau blaenorol.
Darganfyddwch fwy am ein polisi cwyno, y drefn gwyno a sut i wneud cwyn