Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i Adam, i astudio yn
y brifysgol o fri rhyngwladol, Harvard. Astudiodd ar gyfer gradd
Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yno. Aeth yn ei flaen i ddod yn
Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraeth John
F. Kennedy yn Harvard.
Yn 2014 enillodd y Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a
Theledu Efrog Newydd am ei raglen ddogfen ar Streic y Glowyr ym
1984-1985. Yn 2015 cafodd ei gyfres pedair rhan ddwy Wobr BAFTA
Cymru.
Hanes personol
Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a
chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol
Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ).
Cefndir proffesiynol
Mae Adam yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr i Newidiem,
ymgynghoriaeth polisi ac economeg sy'n gweithredu ledled y DU, ac
yn gyn-Gyfarwyddwr Gweithredol yr asiantaeth datblygiad economaidd
a newid diwylliannol yng Nghymru, Menter a Busnes.
Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, roedd
Adam yn gweithio fel Uwch Reolwr Rhaglen ar gyfer Sefydliad
Arloesedd y DU.
Hanes gwleidyddol
Mae Adam yn gyn-Aelod Seneddol, ac roedd yn
cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a
2010.
Roedd yn frwd ei wrthwynebiad i Ryfel Irac a
rôl Tony Blair yn y rhyfel, ac arweiniodd ymgais, ochr yn
ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a'r SNP, i uchelgyhuddo Tony
Blair. Cafodd Adam ei daflu allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar
17 Mawrth 2005 am wrthod tynnu'n ôl ei ddatganiad yn cyhuddo
Tony Blair o fod wedi camarwain y Senedd.
Cychwynnodd Adam ddadl dair awr ar ymchwiliad i Ryfel
Irac, gan arwain at sefydlu Ymchwiliad Chilcot.
Yn ystod ei amser yn Nhŷ'r Cyffredin
gwasanaethodd ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a
bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Busnes, Arloesedd
a Sgiliau.
Adam oedd yr unig Aelod Seneddol o Gymru i gadw
cefnogaeth y cyhoedd yn arolwg ar-lein y Western Mail ynglŷn
ag Aelodau Seneddol yn ystod y sgandal treuliau yn 2009. Cafodd ei
enwi yn Gyfathrebwr y Flwyddyn yng ngwobrau rhaglen AM.PM y BBC yn
2007, ac enillodd wobr Gwleidydd Ymgyrchu y Flwyddyn yn 2005 yng
Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.