Roedd Keith Davies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu
adael.
Cefndir personol
Cafodd Keith Davies ei eni yng Ngwauncaegurwen
a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd ymlaen i
astudio Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei wraig yn
gweithio i Tinopolis ac mae eu dau fab yn mynd i Ysgol y
Strade.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl ennill ei gymhwyster fel athro, bu Keith yn gweithio mewn swyddi uwch mewn ysgolion a cholegau cyn dechrau ar ei yrfa wleidyddol mewn llywodraeth leol, yn gyntaf fel arolygydd ysgolion ac yn y pen draw yn gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol a Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod ei gyfnod yn arolygydd, bu’n cynrychioli
De Cymru a Gorllewin Lloegr ar Gymdeithas Genedlaethol yr Arolygwyr
a Chynghorwyr Addysgol.
Cefndir gwleidyddol
Bu Keith yn cynrychioli Ward Hengoed ar Gyngor Sir
Caerfyrddin rhwng 2004 a 2008. Ar hyn o bryd, mae’n cynrychioli Canolbarth a
Gorllewin Cymru ar Bwyllgor Gweithredol Cymru.
Ymgysylltiadau
Mae Keith yn Llywodraethwr Ysgol Gymunedol Ffwrnes ac
Ysgol Gyfun y Strade. Mae hefyd yn aelod o’r Blaid
Gydweithredol.