Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer
Julie Morgan yn eu rôl fel Aelod Cynulliad, a dylid eu
defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl
hon. Os ydych am gysylltu â Julie Morgan yn eu rôl cwbl
ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y
manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: http://llyw.cymru/about/cabinet/writingtoministers/?lang=cy
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae prif ddiddordebau Julie yn cynnwys iechyd,
cydraddoldeb, materion menywod, yr amgylchedd a hawliau
plant.
Mae wedi bod yn gefnogol o Macmillan ers amser hir ac
mae'n cynnal bore coffi blynyddol. Mae Julie hefyd yn cefnogi
datblygiad y ganolfan ganser £200m newydd Felindre yng
Ngogledd Caerdydd ac wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i gefnogi
grŵp o gleifion a gafodd Hepatitis C yn dilyn sgandal
gwaed heintiedig yn y GIG.
O ran yr amgylchedd, mae Julie yn cefnogi'r
Grŵp Gweithredu ar gyfer Cronfeydd Dŵr i arbed cronfeydd
dŵr Llanisien a Llysfaen, a bellach eu hadfer. Mae hi
hefyd wedi ymgyrchu ddwywaith i greu llain las swyddogol yng
ngogledd Caerdydd ac mae'n parhau i geisio amddiffyn y tir hwn yn
yr hirdymor.
Wedi i fab un o'i hetholwyr gael ei anafu'n ddifrifol
gan gi, dechreuodd Julie gefnogi ymgyrch o blaid rheoli
cŵn peryglus. Yn fwy diweddar, bu'n ymgyrchu i leihau
gwastraff bwyd.
Fel aelod o Uno'r Undeb, mae gan Julie ddiddordeb
cryf mewn hawliau undebau llafur a hi yw cadeirydd y
grŵp trawsbleidiol ar undeb PCS, yn ogystal
â grwpiau trawsbleidiol ar iechyd a phlant.
Roedd Julie yn un o sylfaenwyr Cyngor Ffoaduriaid
Cymru. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Celfyddydau'r
Merched, ac mae'n un o noddwyr Touch Trust, Advocacy Matters, Bosom
Pals Pontyclun, Grŵp Eiriolaeth ar gyfer Menywod sy'n Ceisio Lloches a
Fforwm Polisi Cymru.
Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Life for
African Mothers ac yn is-lywydd Hosbis George Thomas.
Hanes personol
Cafodd Julie Morgan ei geni yng Nghaerdydd a'i
haddysg yn Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Howell's yng
Nghaerdydd, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Manceinion a
Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddi BA Anrhydedd mewn Saesneg a diploma
ôl-radd mewn gweinyddiaeth gymdeithasol.
Cefndir proffesiynol
Roedd Julie yn weithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd
a'r Barri, gan weithio gyda phobl anabl ac ym maes amddiffyn plant.
Sefydlodd y cynllun lleoli teuluoedd cyntaf yng Nghymru ar gyfer
pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn trafferthion. Mae Julie hefyd
yn gyn-gyfarwyddwr cynorthwyol i Barnardo's yng Nghymru.
Roedd hefyd yn gynghorydd ar Gyngor De Morgannwg o
1985 i 1997 ac yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1995.
Hanes gwleidyddol
Ym 1997, etholwyd Julie yn AS dros Ogledd Caerdydd -
un o'r 13 o fenywod yn unig sydd erioed wedi bod yn ASau Cymreig
(hyd yn hyn) a'r fenyw gyntaf i gynrychioli Caerdydd yn San
Steffan. Roedd yn AS dros Ogledd Caerdydd am 13 mlynedd nes iddi
golli'r sedd o drwch blewyn o 194 o bleidleisiau yn
2010.
Fel AS dros Ogledd Caerdydd, roedd Julie Morgan yn
aelod o'r Pwyllgorau Dethol Cyfiawnder, Materion Cymreig a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac yn aelod o Grŵp Menywod y Blaid Lafur
Seneddol.
Roedd yn gadeirydd ar grwpiau sy'n cynnwys y
Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Plant yng Nghymru,
gan weithio gyda grwpiau gwirfoddol ar gyfer plant ledled Cymru; y
Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Diwygio'r Gyfraith
Sipsiwn a Theithwyr, a'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Cydraddoldeb Rhyw
(gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol). Roedd
hi hefyd yn gyd-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar TB Byd-eang.
Yn ystod ei hamser yn San Steffan, cyflwynodd dri bil
aelod preifat - un ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, un ar
ganiatáu pleidleisio yn 16 oed, ac un ar atal pobl dan 18
oed rhag defnyddio gwelyau haul, a ddaeth yn gyfraith yn
2010.
Etholwyd Julie yn Aelod Cynulliad dros Ogledd
Caerdydd yn 2011. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd hi ar y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor
Amgylchedd, yn ogystal â chadeirio saith grŵp trawsbleidiol yn
ymdrin â meysydd fel plant, canser, a nyrsio a
bydwreigiaeth.
Yn y Pumed Cynulliad, mae Julie ar y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.
Mae hi hefyd yn aelod o'r grwpiau trawsbleidiol ar
blant, canser, cyfiawnder a'r undebau.