Y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae'r manylion
cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Dafydd Elis-Thomas yn ei rôl fel
Aelod Cynulliad, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu ag ef yn y
rôl hon. Os ydych am gysylltu â Dafydd Elis-Thomas yn ei rôl cwbl ar wahân fel
Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar
wefan Llywodraeth Cymru: http://llyw.cymru/about/cabinet/writingtoministers/?lang=cy
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Dafydd
Elis-Thomas yn mwyhau treulio ei amser hamdden yn cerdded mynyddoedd, a loncian
o’r bwthyn teuluol ger Betws-y-Coed. Mae Dafydd Elis-Thomas hefyd yn weithgar
gyda'r Eglwys yng Nghymru.
Hanes personol
Mae Dafydd
Elis-Thomas wedi byw y rhan fwyaf o'i fywyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cefndir proffesiynol
Mae’n gyn
ymchwilydd a chyn athro mewn addysg oedolion ac addysg uwch.
Hanes gwleidyddol
Cafodd ei ethol
gan ei gyd-Aelodau yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, 2003 a 2007, ac
mae wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o wella a diwygio ffyrdd y Cynulliad o
weithio.
Mae’r rhain yn
cynnwys Pwyllgor Deisebau hygyrch, Rheolau Sefydlog clir a newydd, ac ymgyrch
‘Pleidleisio 2011’ er mwyn hybu pleidleiswyr ifanc newydd i gofrestru i
bleidleisio. Cyflwynodd hefyd
ddeddfwriaeth newydd i sicrhau bod amodau gwaith staff a chyflogau Aelodau’r
Cynulliad yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Taliadau annibynnol, yn ogystal â
Chomisiynydd Safonau annibynnol a chadarn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad er mwyn
hybu bywyd cyhoeddus o'r ansawdd gorau.
Yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad (2011 – 2016), bu Dafydd yn aelod o Bwyllgor Menter a
Busnes y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn aelod o’r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Cadeirydd, y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (Mehefin 2011 - Mawrth 2014)
Cadeirydd,
Gweithgor Tirweddau Am Oes Cymru (Hydref 2015 - Rhagfyr 2017)
Ym mis Hydref
2016, gadawodd Dafydd Plaid Cymru a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.