Data Agored
Mae'r rhyngrwyd wedi newid y ffordd rydym yn cael gwybodaeth, yn ei defnyddio a’i rhannu. Fel corff yn y sector cyhoeddus sy'n deddfu ar gyfer Cymru ac yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru, rydym yn cynhyrchu llawer o wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys rhai setiau data sy'n cael eu darparu fel data agored. Un o brif flaenoriaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw sicrhau bod ein gwaith yn dryloyw ac yn atebol. Mae ein cynnwys ni’n agored, gan mai eich cynnwys chi ydyw.
Pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd?
Mae'r setiau data canlynol ar gael ar hyn o bryd i'w hailddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedu, ewch i Ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus.
Mewn sawl enghraifft, rydym yn defnyddio XML (Iaith Arwyddnodi Estynadwy) i sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn agored, yn dryloyw ac nad yw mewn fformat perchnogol. Yn nhermau cyfrifiadurol, mae XML yn iaith arwyddnodi sy'n diffinio set o reolau ar gyfer amgodio dogfennau mewn fformat sy'n ddarllenadwy i bobl a pheiriannau fel ei gilydd. Dyluniwyd XML i'w gwneud yn haws rhannu gwybodaeth a dehongli data. Yn ei hanfod, mae'n helpu gwahanol bobl, cyfrifiaduron a systemau i ddeall ei gilydd ar blatfform digidol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio XML, ewch iw3schools.com.
Mae gennym ddiddordeb yn eich barn chi wrth inni weithio tuag at wneud mwy o ddata yn agored yn y dyfodol. Cysylltwch â ni yn cysylltu@cynulliad.cymru / 0300 200 6565 os oes gennych unrhyw adborth.
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyfarfodydd pwyllgorau, data o eisteddiadau blaenorol y Cynulliad cyn 2011 a'n hadroddiadau blynyddol. Ewch i'r dudalen Ein Gwybodaeth am fanylion.