Gwybodaeth am gyfarfodydd - fel data
Mae llawer iawn o'n gwybodaeth am gyfarfodydd ar gael fel data sy'n ddarllenadwy i beiriannau mewn fformat XML. Mae'r data hyn yn cynnwys data am Bwyllgorau a Chyfarfod Llawn y Cynulliad, gan gynnwys y rheini a oedd yn bresennol, lleoliad ac amser. Mae testun agendâu a chofnodion a lincs i ddogfennau perthnasol hefyd ar gael.
http://senedd.cynulliad.cymru/mgWebServiceW.asmx
Mae sgema ar gael ar gyfer y data hyn yn esbonio'r hyn sydd ar gael a sut y caiff y data eu strwythuro. Mae'r sgema hefyd yn cynnwys enghreifftiau o allbynnau i helpu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio XML, ewch i w3schools.com.