Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

​Ffrydiau data calendrau

Mae nifer o ffyrdd o ddefnyddio data sy'n gysylltiedig â chalendrau a digwyddiadau'r Cynulliad.

Cydamseru calendr Google / iPhone

Mae pob tudalen we calendr yn cynnig yr opsiwn ar gyfer cydamseru dyddiol â chyfrif allanol calendr Google neu galendr iPhone. Yn syml, dilynwch y cyfarwyddiadau uwchlaw'r fersiwn we berthnasol o'r calendr i danysgrifio i'r gwasanaeth hwn.

JSON​

Mae ffrwd JSON ar gael yn cynnwys parau o wybodaeth am apwyntiadau calendr. Mae hyn hefyd wedi'i baramedru i reoli'r ffrwd.

Hefyd, mae modd defnyddio'r ffrwd JSON hwn i fwydo gwybodaeth i declyn calendr tebyg i'r hyn a welir ar flaen y wefan hon. Isod, mae modd llwytho enghraifft o god ar gyfer y math hwn o declyn, gan gynnwys gwahanu data digwyddiadau a data cyfarfodydd.

Setiau data XML

Mae gwybodaeth amrywiol am galendrau ar gael fel rhan o'n WebService ar gyfer gwybodaeth am gyfarfodydd. Mae disgrifiad llawn ar gael yn y ddogfen isod:

Ffrydiau RSS

Mae ffrwd RSS o bob un o'n calendrau ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am ffrydiau RSS ar gael ar ein tudalen ffrydiau RSS.

Partners & Help