Gwneud cwyn
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth.
Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr yn eu cylch. Os yn bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydym efallai wedi'u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl i'w gael ac rydym wedi methu â'i ddarparu. Os byddai rhywbeth o'i le arnom, byddwn yn ymddiheuro ac, os oes modd, byddwn yn ceisio unioni'r sefyllfa. Rydym hefyd yn anelu at ddysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau.
Mae'r wybodaeth isod yn esbonio'r gwahanol ffyrdd y gallwch wneud cwyn a sut y gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gweithdrefn gwyno.
Cwynion am ymddygiad
Gwybodaeth am ein llinell ffôn gyfrinachol sy'n cynghori o ran y ffyrdd sydd ar gael i roi gwybod am unrhyw ymddygiad sydd wedi creu pryder i chi.
Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn ymchwilydd annibynnol i gwynion sy'n ystyried achosion lle y mae Aelodau'r Cynulliad wedi torri'r Cod Ymddygiad.
Cwynion am ein gwasanaethau
Mae’r adran hon yn egluro gweithdrefn cwynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ein gwasanaethau.
Os hoffech wneud cwyn yn erbyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gallwch ddefnyddio'r ffurflen yn yr adran hon.
Mae'r adran hon yn cynnwys manylion cyswllt Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Comisiynydd Gwybodaeth.