Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Rhestr termau


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

 


A


Aelodau: Gweler Aelodau’r Cynulliad

Aelodau’r Cynulliad: Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau etholedig. Caiff 40 ohonynt eu dewis i gynrychioli etholaethau unigol a chaiff 21 eu dewis i gynrychioli’r pum rhanbarth yng Nghymru. Cyfeirir atynt hefyd fel ACau neu Aelodau.


Aelodau etholaethol: Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau etholedig. Caiff 40 ohonynt eu dewis i gynrychioli etholaethau unigol a chaiff 20 eu dewis i gynrychioli’r pum rhanbarth yng Nghymru.


Aelodau Rhanbarthol: Gweler Rhanbarthau (uchod)



Yn ôl i’r brig



B


Balot ar gyfer deddfwriaeth a gynigir gan Aelod: O bryd i’w gilydd, bydd y Llywydd yn cynnal balot i ddewis enw Aelod Cynulliad a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod. Rhaid i’r balot gynnwys enwau’r holl Aelodau sydd wedi gwneud cais i gael eu cynnwys neu sydd wedi cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen cyn cynnal balot. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Weinidogion neu’n Ddirprwy Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn y balot. Y Swyddfa Gyflwyno sy’n gyfrifol am drefnu’r balot a bydd y canlyniad yn ymddangos ar wefan y Cynulliad ac yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.


Bil: Cyfraith arfaethedig yw Bil. Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau’n aml fel deddfwriaeth sylfaenol.


Busnes y Cynulliad: Y term casgliadol a ddefnyddir i ddisgrifio gwaith Aelodau’r Cynulliad yn y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor.



Yn ôl i’r brig

 

 

C


Cabinet: Mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.


Cadeirydd:  Mae gan bob un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gadeirydd. Caiff pob cadeirydd ei ethol gan y Cynulliad a bydd yn eistedd ym mhen y bwrdd fel arfer yn ystod cyfarfodydd y pwyllgor. Prif rôl y cadeirydd yw sicrhau bod pob aelod o’r pwyllgor yn cael yr un cyfle i ofyn cwestiynau a bod pob tyst yn cael yr un cyfle i ymateb. I bob pwrpas, mae cyfrifoldeb y cadeirydd mewn cyfarfod pwyllgor yn debyg i gyfrifoldeb y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd pan fyddant yn cadeirio Cyfarfodydd Llawn.


Cadeirydd Dros Dro: Mae gan bob pwyllgor y pwer i benodi cadeirydd dros dro yn absenoldeb ei gadeirydd.


Cadeirydd Pwyllgor:  Gweler Cadeirydd


Clerc y Cynulliad:  Gweler Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad


Clymblaid: Pan fydd mwy nag un blaid yn cytuno i ffurfio llywodraeth, byddant yn ffurfio clymblaid. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan na fydd unrhyw un blaid yn llwyddo i ennill dros hanner y seddi.


Cod Ymarfer: Nod Cod Ymarfer Aelodau’r Cynulliad yw rhoi arweiniad iddynt ynglyn â’r safonau ymddygiad y disgwylir iddynt gadw atynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau a’u dyletswyddau cyhoeddus.


Cofnod: Gweler Cofnod y Trafodion


Cofnod cryno: Fersiwn fer o gofnod trafodion y Cynulliad. Mae’n nodi pa Aelodau a bleidleisiodd ac a gymerodd ran yn y dadleuon ac ym mha drefn y gwnaethant hynny. Mae’n cynnwys linc i’r Cofnod llawn yn y mannau perthnasol.


Cofnod y Trafodion (Y Cofnod): Cofnod swyddogol o’r Cyfarfodydd Llawn sy’n cynnwys yr holl ddatganiadau, areithiau ac ymyriadau gan Aelodau’r Cynulliad a manylion unrhyw bleidleisiau. Caiff Cofnod y Trafodion ei gyhoeddi gan Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad cyn pen 24 awr ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben.

Cedwir cofnod o gyfarfodydd pwyllgor hefyd, a chaiff fersiwn ddrafft ei chyhoeddi fel arfer cyn pen wythnos ar ôl pob cyfarfod. Mae’r trawsgrifiadau hyn ar gael ar wefannau’r pwyllgorau unigol.


Cofrestr buddiannau’r Aelodau: Mae’r Cynulliad yn cadw ac yn cyhoeddi cofrestr o fuddiannau ariannol a buddiannau eraill yr Aelodau a chofnod o’r aelodau hynny o’u teuluoedd y maent yn eu cyflogi.


Cofrestr etholiadol: Rhestr o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio: Mae’n rhaid i’ch enw fod ar y gofrestr etholiadol cyn y cewch bleidleisio mewn unrhyw etholiad. Yn y DU, rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hyn ar ddiwrnod yr etholiad cyn y cewch bleidleisio. Rhaid i chi hefyd fod yn ddinesydd Prydeinig, neu mae’n rhaid i’ch rhieni fod yn ddinasyddion Prydeinig.


Comisiwn: Gweler Comisiwn y Cynulliad


Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru  Gweler Comisiwn y Cynulliad


Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru: Sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn 2011 i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Caiff ei arwain gan Paul Silk. Enw arall arno yw Comisiwn Silk.


Comisiwn Silk: Yr enw answyddogol ar y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru , sy’n cael ei arwain gan Paul Silk. Fe’i sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011 i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.


Comisiynydd Safonau: Person annibynnol a benodir gan y Cynulliad i roi cyngor a chymorth yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau yw Comisiynydd Safonau’r Cynulliad (ei deitl llawn yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru).  Mae’n ymchwilio’n annibynnol i unrhyw gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad pan fydd y cwynion hynny’n ymwneud â thorri codau, protocolau neu benderfyniadau’r Cynulliad. Gerard Elias CF, yw’r Comisiynydd Safonau ar hyn o bryd.


Comisiwn y Cynulliad: Corff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad. Mae pump o gomisiynwyr yn arwain y Comisiwn: y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall a gaiff eu henwebu gan y prif bleidiau gwleidyddol.


Craffu: Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio gwaith Llywodraeth Cymru, dywedir ei fod yn ymgymryd â gwaith ‘craffu’. Mae hyn yn golygu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau ac am yr hyn y mae’n ei wneud. Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ymgymryd â’r gwaith hwn.


Craffu cyn y broses ddeddfu : Bydd un o bwyllgorau Senedd y DU neu’r Cynulliad yn ystyried, neu’n craffu ar ddeddfwriaeth ddrafft cyn i’r broses ddeddfu ffurfiol ddechrau.


Cronfa Gyfunol Cymru: Caiff arian cyhoeddus a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU ei dalu i’r gronfa hon, drwy gyfrwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a hefyd arian a geir o ffynonellau eraill.


Cwestiynau/ Cwestiynau’r Cynulliad: Gall yr Aelodau ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad am unrhyw faterion sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb. Mae tri math o Gwestiynau’r Cynulliad; Cwestiynau Llafar, Cwestiynau Ysgrifenedig a Chwestiynau Brys.


Cwestiynau Brys: Dim ond pan fydd y Llywydd o’r farn bod y mater o bwysigrwydd cyhoeddus brys y gellir gofyn Cwestiynau Brys. Caiff Cwestiynau Brys eu hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn.


Cwestiynau Llafar: Caiff Cwestiynau Llafar eu cyflwyno bob wythnos i’r Prif Weinidog eu hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn. Cânt eu cyflwyno bob pedair wythnos i bob un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad eu hateb.


Cwestiynau Ysgrifenedig: Caiff Cwestiynau Ysgrifenedig eu cyflwyno i un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â materion y maent yn gyfrifol amdanynt, a bydd y Comisiwn hefyd yn ateb Cwestiynau Ysgrifenedig yn ymwneud â’i gyfrifoldebau. Anfonir atebion ysgrifenedig at yr Aelod Cynulliad a chânt eu cyhoeddi ar dudalen Cofnod y Trafodion ar wefan y Cynulliad.


Cwnsler Cyffredinol: Prif Gynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru ond mae’n aelod o Lywodraeth Cymru. Does dim rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod Cynulliad.


Cworwm: Y nifer leiaf o Aelodau’r Cynulliad y mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol er mwyn cynnal cyfarfod pwyllgor.


Cwrt: Dyma lle bydd Aelodau’r Cynulliad yn cyfarfod cyn ac ar ôl dadleuon, ger yr ystafelloedd pwyllgora yn y Senedd. Mae dau ddrws dwbl yn arwain i’r Siambr drwy’r wal grom yng nghanol y Cwrt.


Cydsyniad Brenhinol:  Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf, rhaid cael cymeradwyaeth y Frenhines. Cydsyniad Brenhinol yw hyn a dyma gam olaf y broses ddeddfu. Rhaid i bob Bil (a wneir gan y Cynulliad neu Senedd y DU) gael cydsyniad brenhinol cyn y daw’n gyfraith.


Cyfarfod Llawn: Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfarfod llawn y 60 Aelod Cynulliad yn y Siambr (prif siambr y Senedd) i fwrw ymlaen â busnes y Cynulliad. Cynhelir Cyfarfodydd Llawn yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher.


Cyfranogiad: Cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gall pobl gymryd rhan drwy bleidleisio, sefyll mewn etholiad, ymuno â phlaid wleidyddol, cyflwyno deiseb neu ymuno ag ymgyrch leol neu genedlaethol


Cyfreithiau: Rheolau y bydd llywodraeth yn penderfynu arnynt yw’r rhain ac maent yn dweud beth y gellir ac na ellir ei wneud mewn gwlad. Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2011, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn 21 maes pwnc. Caiff cyfreithiau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arnynt eu galw’n Ddeddfau.


Cyfrin Gyngor: Cyfarfod rhwng y Frenhines ac aelodau o’r Cyfrin Gyngor sydd hefyd yn aelodau o’r llywodraeth. Bydd y Cyfrin Gyngor yn cymeradwyo Biliau’r Cynulliad.

Cylch gorchwyl: Gall pwyllgor gytuno ar fframwaith unrhyw ymchwiliad cyn iddo ddechrau.


Cymhwysedd Deddfwriaethol: Y term a ddefnyddir i ddisgrifio cwmpas pwer y Cynulliad i ddeddfu. Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2011, mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i basio Deddfau wedi’i osod allan yn adrannau 108 ac 109 ac mae’r 21 Pwnc wedi’u cynnwys yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: - gofynnir am gydsyniad y Cynulliad o dan rai amgylchiadau pan fydd Gweinidogion Llywodraeth y DU am basio deddfau mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru. Bydd y Cynulliad yn rhoi’r cydsyniad hwn drwy gyfrwng cynigion cydsyniad.


Cynnig: Caiff cynnig ei wneud er mwyn cael penderfyniad gan y Cynulliad.


Cynnig cydsyniad: Gweler Cynigion cydsyniad deddfwriaethol


Cynnig cyllideb atodol. Dyma’r trydydd cam ym mhroses y gyllideb, a gall un o Weinidogion Cymru ei gynnig unrhyw adeg cyn, yn ystod neu ar ôl y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi (hy unrhyw adeg ar ôl derbyn y cynnig cyllideb blynyddol). Prif ddiben y gyllideb atodol yw gofyn am awdurdod i newid y cynnig cyllideb blynyddol yn ystod y flwyddyn.


Cynnig cyllideb drafft: Dyma gam cyntaf proses y gyllideb yng Nghymru ac mae’n caniatáu i Aelodau’r Cynulliad a phwyllgorau graffu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru cyn y cynnig cyllideb blynyddol.


Cynnig cyllideb blynyddol: Dyma gam olaf proses y gyllideb yng Nghymru, a dyma sut y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi awdurdod i Weinidogion Cymru wario adnoddau, cadw incwm a chael arian o Gronfa Gyfunol Cymru. Drwy’r cynnig cyllideb blynyddol hefyd caiff y Cynulliad ei hun, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus eu hariannu.


Cynrychiolaeth gyfrannol:  System etholiadol sy’n dosbarthu’r seddi’n ôl cyfran yr holl bleidleisiau a gaiff eu bwrw dros bob plaid.


Y Cynulliad: gweler Cynulliad Cenedlaethol Cymru:


Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad): Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli nhw a’u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.



Yn ôl i’r brig

 


 

Ch



Yn ôl i’r brig



D


Deddfwrfa: Corff deddfu lle caiff cyfreithiau newydd eu trafod a’u cytuno. Cyfeirir ato’n aml fel senedd. Mae’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Yng Nghymru,  Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r ddeddfwrfra. Caiff y llywodraeth ei galw’n weithrediaeth (gweler uchod).


Dadl: Trafodaeth rhwng Aelodau’r Cynulliad. Cynhelir dadleuon yn y Siambr a gall pleidlais eu dilyn.


Dadl Fer:  Cynhelir dadl fer ar bwnc a gynigir gan Aelod Cynulliad (ac eithrio Aelodau sydd hefyd yn Weinidogion neu’n Ddirprwy Weinidogion Cymru) bob wythnos pan fydd Cyfarfod Llawn. Cânt eu cynnal fel arfer yn ystod y 30 munud olaf o’r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher.


Datganiadau Barn: Mae datganiadau barn yn caniatáu i’r Aelodau dynnu sylw at faterion sy’n peri pryder neu at lwyddiant yn ymwneud ag unrhyw bwnc sy’n effeithio ar Gymru. Gall unrhyw Aelod Cynulliad eu cyflwyno ac eithrio Aelodau sy’n Weinidogion neu’n Ddirprwy Weinidogion Cymru. Gall Aelodau eraill gefnogi, gwrthwynebu neu roi sylwadau ar ddatganiadau barn a bydd y Swyddfa Gyflwyno’n eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad


Datganoli: Datganoli yw’r broses o drosglwyddo neu ddirprwyo pwer i lefel is, yn enwedig gan lywodraeth ganolog.  Yng Nghymru, mae pwerau wedi’u datganoli oddi wrth Weinidogion y DU i Weinidogion Cymru ac mae pwerau deddfu wedi’u datganoli o’r Senedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru


Deddf Cynulliad: Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwer i ddeddfu ym mhob un o’r 21 maes y mae’n gyfrifol amdanynt. Caiff y meysydd cyfrifoldeb hyn eu galw’n  bynciau. Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu cyflwyno gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau’n aml fel deddfwriaeth sylfaenol.


Deddf Llywodraeth Cymru 2006: Pasiwyd y Ddeddf hon gan Senedd y DU yn 2006 i roi pwerau i’r Cynulliad ddeddfu yng Nghymru, ac i newid y modd y caiff Aelodau’r Cynulliad eu hethol. Roedd y Ddeddf hefyd yn gwahanu Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


Deddf Seneddol: Cyfraith sy’n cael ei gwneud gan Senedd y DU yw Deddf Seneddol. Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu trafod yn Nhy’r Arglwyddi a Thy’r Cyffredin. Os bydd dau dy’r Senedd pleidleisio o blaid y cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Seneddol, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol.


Deddfwriaeth: Term cyffredinol am gyfreithiau newydd a’r broses o’u gwneud.


Deddfwriaeth sylfaenol: Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau a gaiff eu pasio gan Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


Deiseb: Drwy’r broses ddeisebu, gall y cyhoedd ddwyn materion penodol i sylw’r Cynulliad. Gall unigolion neu gyrff gyflwyno deisebau a hynny’n ymwneud ag unrhyw bwnc o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Rhaid sicrhau cefnogaeth o leiaf deg o unigolion neu un sefydliad. Bydd y Pwyllgor Deisebau’n ystyried pob deiseb dderbyniadwy.


Democratiaeth: Mae democratiaeth yn golygu y dylai pawb yn y wlad fod â llais yn y broses o ddewis pwy sy’n gwneud penderfyniadau a beth sy’n digwydd yn y wlad honno. Mewn gwlad ddemocrataidd, caiff etholiadau eu cynnal i roi cyfle i’r bobl benderfynu pwy ddylai eu cynrychioli.


Diddymu: Diddymu yw'r term swyddogol a ddefnyddir ar gyfer diwedd cyfnod Senedd.

Diwrnod gwaith: Mae hyn yn cyfeirio ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio:

(i) dydd Sadwrn a dydd Sul;
(ii) noswyl Nadolig; dydd Nadolig, dydd Iau Cablyd a dydd Gwener y Groglith;  
(iii) diwrnod sy’n wyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971; neu
(iv) diwrnod a neilltuwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus.


Dogfennau a osodwyd: Mae proses benodol ar gyfer cyflwyno dogfennau’n ffurfiol gerbron y Cynulliad a dywedir eu bod yn cael eu ‘gosod’. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o’r dogfennau sy’n berthnasol i Fusnes y Cynulliad fel adroddiadau gan bwyllgorau’r Cynulliad, papurau Llywodraeth Cymru, neu ddogfennau gan gyrff allanol y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad. Caiff dogfennau eu gosod neu eu cyflwyno’n ffurfiol gerbon Swyddfa Gyflwyno’r Cynulliad i’w hystyried. Caiff yr holl ddogfennau a osodwyd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gyflwyno a byddant i’w gweld hefyd ar wefan y Cynulliad.

 

Dd



Yn ôl i’r brig

 


 

E


E-ddemocratiaeth: Mewn e-ddemocratiaeth, defnyddir y cyfryngau digidol newydd (fel Twitter neu Facebook) a dulliau cyfathrebu traddodiadol (fel datganiadau i’r wasg) i sicrhau bod y Cynulliad yn ymgysylltu’n effeithiol â phobl Cymru ac yn caniatáu iddynt gyfathrebu’n gyflym ac yn hawdd â’r Cynulliad.


Eithriadau: Meysydd polisi a restrir yn yr 20 pwnc yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac na all y Cynulliad ddeddfu arnynt.


Etholaeth: Mae’r DU wedi’i rhannu’n ardaloedd etholiadol, sef etholaethau, ac mae pob un o’r rhain yn ethol Aelod Cynulliad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Aelod Seneddol (AS) i’r Senedd yn San Steffan. Mae Cymru wedi’i rhannu’n 40 o etholaethau sy’n ethol 40 Aelod Cynulliad o dan y system ‘y cyntaf i’r felin’.


Etholiad cyffredinol: Cynhelir etholiad cyffredinol o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Dyma pryd y caiff pawb yn y DU sydd dros 18 oed ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio gyfle i ddewis Aelod Seneddol (AS) a fydd yn eu cynrychioli yn Senedd y DU.


Etholiadau’r Cynulliad: Caiff etholiadau’r Cynulliad eu cynnal bob pedair blynedd fel arfer. Gall pawb dros 18 oed yng Nghymru bleidleisio dros y rhai yr hoffent iddynt eu cynrychioli. Bydd pawb sy’n pleidleisio’n cael dau bapur pleidleisio. Papur i ethol Aelod etholaethol fydd un, sef y person a fydd yn cynrychioli’u hardal leol yn y Cynulliad. Papur i ethol Aelod rhanbarthol fydd y llall, ond yn hytrach na phleidleisio dros aelodau unigol, bydd pawb yn pleidleisio dros un o’r pleidiau gwleidyddol.



Yn ôl i’r brig

 


 

F



Yn ôl i’r brig

 



Ff

Fformwla Barnett: Fformwla a ddefnyddir i addasu’r symiau o arian cyhoeddus a gaiff y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon pan fydd Llywodraeth y DU yn adolygu ei chynlluniau gwariant ar wasanaethau cymharol.



Yn ôl i’r brig



G


Gorchmynion: Gweler Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol: Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd, os caiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad a’r ddau Dy yn y Senedd y DU, yn newid Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad.


Goruchafiaeth Seneddol: Athrawiaeth yng nghyfraith gyfansoddiadol y DU sy’n nodi mai Senedd y DU yw’r corff deddfu sofran. Mae hyn yn golygu ei bod uwchlaw pob sefydliad llywodraethol arall ac y gall ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfwriaeth y bydd seneddau eraill yn eu gwneud.


Grant bloc: Y grant bloc yw’r swm y bydd Senedd y DU yn penderfynu ei ddyrannu i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig berthnasol. Dyma’r gyllideb a neilltuir o fewn terfyn gwariant yr adrannau, a chaiff ei chyfrifo o’r llinell sylfaen gyfredol gan ddefnyddio fformwla Barnett.


Grwpiau hollbleidiol: Gweler Grwpiau trawsbleidiol


Grwpiau trawsbleidiol: Gall Aelodau’r Cynulliad sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymchwilio i unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Cynulliad. Rhaid i grwp gynnwys Aelodau o’r tri grwp plaid sydd wedi’u cynrychioli yn y Cynulliad.


Gwasanaeth Ymchwil: Gwasanaeth yn y Cynulliad sy’n cynnig ymchwil a gwybodaeth arbenigol a diduedd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a’r pwyllgorau i gyflawni eu swyddogaethau, craffu a deddfwriaethol a’u swyddogaethau fel cynrychiolwyr yn y Cynulliad.


Gweinidogion Cymru: Aelod Cynulliad y bydd y Prif Weinidog yn ei benodi’n Weinidog, gyda chymeradwyaeth y Frenhines, ac sy’n rhan o Lywodraeth Cymru. Ni cheir mwy na 12 Gweinidog a Dirprwy Weinidog ar unrhyw un adeg, ar wahân i’r Prif Weinidog.


Gweithrediaeth: Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r Llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa, neu’r senedd. Yng Nghymru, y weithrediaeth yw Llywodraeth Cymru, a’r ddeddfwrfa yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r weithrediaeth yn gwneud polisïau ac yn rhoi deddfwriaeth ar waith.


Gwelliannau (i Fil): Newidiadau a awgrymir i destun Bil a gynigir gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys y rheini sydd hefyd yn Weinidogion Cymru). Gellir awgrymu gwelliannu yn ystod cyfnod dau a thri o broses ddeddfu’r Cynulliad, a gall Aelodau’r Cynulliad bleidleisio i’w derbyn ai peidio.


Gwelliannau (i gynigion): Newidiadau a awgrymir i destun cynnig a gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Oni bai bod Rheolau Sefydlog yn nodi fel arall, gall Aelodau’r Cynulliad gynnig gwelliant i unrhyw gynnig.


Gwrthbleidiau: Mae’r term hwn yn cyfeirio at yr Aelodau hynny nad ydynt yn rhan o’r blaid (neu’r pleidiau) sy’n ffurfio’r Llywodraeth. Bydd y gwrthbleidiau’n craffu ar waith y Llywodraeth.



Yn ôl i’r brig



Ng



Yn ôl i’r brig

H



Yn ôl i’r brig



I


Is-ddeddfwriaeth: Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth hefyd fel deddfwriaeth ddirprwyedig neu offerynnau statudol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau a gall gynnwys arweiniad statudol a gorchmynion lleol.


Is-etholiad: Cynhelir isetholiad pan fydd sedd yn y Cynulliad neu yn Nhy’r Cyffredin yn dod yn wag yn ystod Cynulliad neu Senedd gyfredol (hy rhwng etholiadau cyffredinol neu etholiadau’r Cynulliad) wedi i Aelod etholaethol farw, ymddiswyddo neu orfod gadael ei sedd am ryw reswm arall. Os na fydd Aelod rhanbarthol yn gallu cymryd ei sedd yn y Cynulliad am ryw reswm, y nesaf ar y rhestr fydd yn cymryd ei le.



Yn ôl i’r brig


L


Lwfansau: Gweler Treuliau



Yn ôl i’r brig

 

Ll


Llywodraeth Cymru: Y corff sydd â chyfrifoldebau gweithredol, llywodraethol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddatblygu polisïau ac i wneud penderfyniadau. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru; y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru.


Llywydd: Caiff y Llywydd ei ethol gan yr holl Aelodau a bydd yn gwasanaethu’r Cynulliad yn ddiduedd. Prif rôl y Llywydd yw cadeirio’r Cyfarfod Llawn, cadw trefn a sicrhau bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu dilyn. Rosemary Butler AC yw’r Llywydd ar hyn o bryd.



Yn ôl i’r brig

 

M



Maniffesto: Rhestr o addewidion a wneir gan blaid wleidyddol, fel arfer cyn etholiad. Mae’r maniffesto’n awgrymu’r hyn y bydd plaid yn ei wneud os caiff ei hethol.


Materion a gadwyd yn ôl: Dyma’r meysydd polisi nad ydynt wedi’u datganoli. Mae hyn yn golygu nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwer i ddeddfu yn y meysydd pwnc hyn, felly San Steffan fydd bob amser yn gwneud hynny. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys materion milwrol, amddiffyn, trethi a’r gyfraith gyflogaeth.


Memorandwm esboniadol:  Rhaid paratoi memorandwm esboniadol i gyd-fynd â phob Bil a gyflwynir gerbron y Cynulliad. Yn y memorandwm esboniadol, nodir yr amcanion polisi, manylion unrhyw broses ymgynghori a gafwyd, amcangyfrif o’r gost o roi’r Bil ar waith ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.


Mesurau: Yn ystod y Trydydd Cynulliad (Mai 2007 - Mawrth 2011), galwyd y cyfreithiau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Fesurau.


Meysydd: Meysydd polisi datganoledig y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwer i ddeddfu arnynt. I gael rhagor o wybodaeth, gweler: Pynciau.



Yn ôl i’r brig



N



Neuadd: Dyma’r rhan agored yn y Senedd lle ceir y dderbynfa.



Yn ôl i’r brig



O


Oriel: Y rhan honno ar ben y grisiau sy’n amgylchynu’r twndis mawr yng nghanol y Senedd.


Oriel gyhoeddus: Uwchben y Siambr yn adeilad y Senedd mae oriel lle gall y cyhoedd eistedd i wylio’r Cyfarfod Llawn. Fel arfer mae 120 o seddi ar gael, a lle i 12 cadair olwyn, ac mae’n bosibl neilltuo lle hyd at dair wythnos ymlaen llaw.



Yn ôl i’r brig



P


Papurau wedi’u hadneuo: Mae papurau wedi’u hadneuo’n cynnwys unrhyw bapur y mae angen i Weinidog, y Llywydd neu unrhyw Aelod arall ei osod yn Llyfrgell y Cynulliad, ac na chaiff ei osod gerbron y Cynulliad mewn unrhyw fodd arall. Fel arfer, llythyrau neu ryw fath arall o ohebiaeth yw’r rhain ac maent yn trosglwyddo gwybodaeth gan Weinidog i Aelod Cynulliad arall pan na ellir gwneud hynny’n llawn mewn Cyfarfod Llawn. Gallant gynnwys copïau o ohebiaeth â chyrff allanol, mapiau neu wybodaeth ystadegol.


Papur gwyn: Papur sy’n gosod allan ddarn arfaethedig o gyfraith, ac sy’n gwahodd Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau.


Papur gwyrdd: Dogfennau ymgynghori a gynhyrchir gan  Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Maent yn gwahodd Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd i roi sylwadau.


Pierhead: Adeilad brics coch, rhestredig gradd un a fu unwaith yn ganolbwynt masnachol yng Nghymru. Mae’r Pierhead yn awr yn ganolfan ymwelwyr unigryw lle cynhelir nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau.


Pleidiau: Grwpiau o bobl sydd â safbwyntiau tebyg. Mae’r rhan fwyaf o wleidyddion yn perthyn i blaid wleidyddol, er bod modd cael eich ethol fel ymgheisydd annibynnol. Y prif bleidiau yng Nghymru yw’r Ceidwadwyr Cymreig, Llafur Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru.


Polisïau: Dyma gynlluniau plaid wleidyddol, a gaiff eu gosod yn eu maniffesto fel arfer. Maent yn dweud beth mae’r blaid honno’n gobeithio’i wneud os bydd yn ennill yr etholiad.


Prif Swyddog Cyfrifyddu: Gweler Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad


Prif Weinidog: Aelod Cynulliad a benodir gan y Frenhines, wedi i’r Cynulliad ei enwebu. Y Prif Weinidog yw arweinydd Llywodraeth Cymru, a bydd wedyn yn penodi Gweinidogion eraill Cymru.


Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Clerc y Comisiwn yw Prif Weithredwr Comisiwn y Cynulliad hefyd ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod staff yn darparu gwasanaethau effeithlon i’r Comisiwn ac i’r Cynulliad. Y Clerc hefyd yw Prif


Proses flynyddol y gyllideb: Mae modd rhannu cylch cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn gamau penodol: Y gyllideb ddrafft, y cynnig cyllideb blynyddol a’r cynnig cyllideb atodol.


Pwyllgor: Grwp bach o Aelodau’r Cynulliad yw pwyllgor ac mae cynrychiolwyr o’r holl bleidiau gwleidyddol yn aelod o bob pwyllgor. Caiff un aelod ei ethol yn gadeirydd. Bydd y pwyllgorau’n craffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig (Biliau) a pholisïau Llywodraeth Cymru a byddant yn gwneud argymhellion i’w gwella. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Weinidogion neu’n Ddirprwy Weinidogion Cymru fod yn aelodau o bwyllgor.


Pwyllgor Busnes: Comisiwn y Cynulliad sy’n gyfrifol am drefnu busnes y Cynulliad. Ei rôl yw sicrhau bod trafodion y Cynulliad yn mynd rhagddynt yn effeithiol.


Pwyllgor y Cynulliad cyfan: Caiff deddfwriaeth ei hystyried yn fanwl yng nghyfnod dau gan holl Aelodau’r Cynulliad yn hytrach na dim ond gan aelodau pwyllgor penodol.


Pwyllgor y Rhanbarthau: Cynulliad gwleidyddol ym Mrwsel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a rhanbarthol o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Ymgynghorir â’r pwyllgor pan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu polisïau a deddfwriaeth a gaiff eu gweithredu’n rhanbarthol ac yn lleol. Mae gan Gymru bedwar cynrychiolydd ymhlith dirprwyaeth o 48 o’r DU (24 aelod llawn a 24 eilydd): dau o’r Cynulliad a dau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.


Pynciau: Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar gyfer Cymru. Gelwir cyfreithiau’r Cynulliad yn Ddeddfau. Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad y pwer i wneud Deddfau yn yr 20 pwnc, neu faes, a restrir isod:

01 Amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd a datblygu gwledig
02 Henebion ac adeiladau hanesyddol
03 Diwylliant
04 Datblygu economaidd
05 Addysg a hyfforddiant
06 Yr amgylchedd
07 Y gwasanaeth tân ac achub a hyrwyddo diogelwch
08 Bwyd
09 Iechyd a’r gwasanaethau iechyd
10 Priffyrdd a thrafnidiaeth
11 Tai
12 Llywodraeth leol
13 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Gwasanaethau cyhoeddus
15 Lles cymdeithasol
16 Chwaraeon a hamdden
17 Twristiaeth
18 Trethi wedi'u datganoli 
19 Cynllunio gwlad a thref
20 Dwr ac amddiffyn rhag llifogydd
21 Yr iaith Gymraeg



Yn ôl i’r brig



Ph



Yn ôl i’r brig


R


Refferendwm: Proses a ddefnyddir i ofyn i’r etholwyr bleidleisio ar gwestiwn penodol. Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn pleidlais o blaid hynny mewn refferendwm a gynhaliwyd fis Medi 1997. Ym mis Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu ychwanegol i’r Cynulliad. Pleidleisiodd 63.5% o blaid y newid.



Yn ôl i’r brig



Rh



Rhanbarthau: At ddibenion etholiadau’r Cynulliad, mae Cymru wedi’i rhannu’n bum rhanbarth: Dwyrain De Cymru; Canol De Cymru; Gorllewin De Cymru; Canolbarth a Gorllewin Cymru; Gogledd Cymru Mae pob rhanbarth yn ethol pedwar Aelod Cynulliad drwy gyfrwng system cynrychiolaeth gyfrannol, sef System yr Aelod Ychwanegol.


Rheolau Sefydlog: Dyma’r rheolau ysgrifenedig sy’n llywodraethu trafodion y Cynulliad. Maent yn amlinellu sut y dylai’r Aelodau ymddwyn, sut y caiff Biliau eu prosesu a sut y caiff dadleuon eu trefnu.



Yn ôl i’r brig



S



San Steffan: Mae Senedd y DU yn Nhy’r Cyffredin, yn San Steffan, Llundain.


Senedd: Grwp o wleidyddion etholedig sy’n dadlau ac yn deddfu.


Y Senedd: Yr adeilad cyhoeddus ym Mae Caerdydd lle mae busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddo. Mae’r Senedd a’r oriel gyhoeddus ar agor i bobl Cymru, ac yno gallant wylio’r Aelodau’n gweithio.


Siambr: Rhan o adeilad y Senedd lle caiff Cyfarfodydd Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu cynnal. Mae oriel gyhoeddus uwchben y Siambr, lle gall y cyhoedd drefnu i wylio’r cyfarfodydd.


Siambr Hywel: Hen siambr drafod y Cynulliad yn Nhy Hywel lle mae modd cynnal digwyddiadau’n awr. Cafodd ei enwi ar ôl Hywel Dda a wnaeth cyfreithiau cyntaf ar gyfer Cymru yn y ddegfed ganrif. Pan agorodd y Senedd ei drysau yn 2006, ailwampiwyd Siambr Hywel cyn ei hailagor fel siambr drafod i bobl ifanc a chanolfan dysgu rhyngweithiol. Hon yw’r siambr gyntaf o’i math yn Ewrop ac, ers ei lansio yn 2009, mae wedi bod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer sesiynau dysgu, cynadleddau a darlithoedd.


Y Swyddfa Gyflwyno: Y Swyddfa Gyflwyno sy’n gyfrifol am roi cyngor diduedd i Aelodau’r Cynulliad ynghylch gweithdrefnau’n ymwneud â Busnes y Cynulliad, ac ynghylch a yw Busnes y Cynulliad yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd ar Fusnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, yn ogystal â chwestiynau’r Cynulliad, datganiadau barn, grwpiau trawsbleidiol, dogfennau a osodwyd a’r rhan fwyaf o Fusnes arall y Cynulliad.


Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn: Mae gan y swyddog cyfrifyddu gyfrifoldeb dros sicrhau bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario’n unol â’r gyfraith ac yn unol â rheolau a gynlluniwyd i sicrhau y caiff ei wario’n briodol ac yn dryloyw.


System Aelodau Ychwanegol:  System bleidleisio gymysg a ddefnyddir i ethol Aelodau Cynulliad. Mae’n cyfuno elfennau o system y cyntaf i’r felin yn y 40 etholaeth, a system cynrychiolaeth gyfrannol, pan fydd pleidleiswyr yn dewis o restr o ymgeiswyr dros bob plaid mewn pum rhanbarth, gan ethol 20 o Aelodau Cynulliad ychwanegol. Mae hyn yn helpu i wneud iawn am yr anghyfartaledd sy’n codi’n aml yn etholiadau’r cyntaf i’r felin.



Yn ôl i’r brig



T



Toriad: Cyfnodau pan nad yw'r Cynulliad yn eistedd yn ffurfiol. Gall yr Aelodau ymgymryd â gwaith etholaethol yn ystod y cyfnodau hyn.

 


Trafodion y Cynulliad: Yr holl waith sy’n digwydd yn y Cynulliad, gan gynnwys y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor.


Treuliau: Gall yr Aelodau hawlio symiau o arian i gyflogi staff ac i redeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â phroblemau ac achosion a godir gan y rhai y maent yn eu cynrychioli. Gelwir y symiau hyn o arian yn dreuliau. Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw gostau y bydd yn rhaid iddynt eu hysgwyddo os bydd angen iddynt aros oddi cartref dros nos i ymgymryd â’u dyletswyddau swyddogol fel Aelodau’r Cynulliad.


Ty Hywel: Dyma lle mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd staff y Cynulliad a Siambr Hywel, hen siambr drafod y Cynulliad.



Yn ôl i’r brig



Th



Yn ôl i’r brig



U



Yn ôl i’r brig



W



Yn ôl i’r brig



Y



Y cyntaf i’r felin: System etholiadol sy’n rhoi buddugoliaeth i’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau. Yn etholiadau’r Cynulliad, caiff 40 o Aelodau eu hethol i gynrychioli etholaethau drwy gyfrwng y system hon.


Ymchwiliad: Darn o waith craffu gan un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ymwneud â maes polisi neu bwnc penodol.


Ymgynghoriad: Yn ystod ymgynghoriad, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn am bwnc penodol. Gelir gwneud hyn drwy gynnal cyfarfod cyhoeddus, neu drwy ofyn i bobl roi barn neu dystiolaeth am bynciau penodol. Gellir gwneud hyn hefyd drwy gyfrwng gwefan y Cynulliad neu drwy ofyn i grwp penodol o bobl sydd â diddordeb yn y pwnc roi sylwadau (fel grwp amgylcheddol a fyddai’n awyddus i roi sylwadau am wahardd bagiau plastig).


Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Aelod o Lywodraeth y DU yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac ar hyn o bryd mae ganddo sedd yn y Cabinet. Ei rôl yw gweithredu i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ystyried buddiannau Cymru yn llawn pan fydd yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar Gymru; cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru a bod yn gyfrifol am sicrhau hynt deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru yn unig drwy Senedd y DU. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol fod yn bresennol a chymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad ond ni chaiff bleidleisio ac nid yw’n Aelod o’r Cynulliad.



Yn ôl i’r brig

Partners & Help