Senedd Allgymorth – Gallwn ni alw draw

Mae penderfyniadau a wneir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn effeithio ar bawb yng Nghymru.
Felly, rydym ni'n credu ei bod yn bwysig y gallwch ddarganfod sut y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ni waeth ble rydych chi'n byw yng Nghymru.
Ac yn bwysicaf oll – sut y gallwch chi ddweud eich dweud a chyfrannu at y penderfyniadau hyn er mwyn dylanwadu ar yr hyn sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Dyna pam y mae gennym ni dîm Allgymorth pwrpasol a all ddarparu gweithdai a chyflwyniadau am ddim yn unrhyw le yng Nghymru i roi gwybodaeth ddiduedd ichi am sut y mae'r Cynulliad yn gweithio a sut y gallwch chi gymryd rhan ac ymgyrchu dros newid.
Gyda mwy a mwy o benderfyniadau ynglŷn â Chymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, gall eich llais fod yn fwy pwerus nag erioed.
Ewch ati i ddysgu rhagor a chymryd rhan heddiw drwy drefnu sesiwn ar gyfer eich grŵp cymunedol, staff, cymdeithas brifysgol, cylch cyfeillgarwch neu Gymdeithas Tai.
Anfonwch e-bost at seneddallgymorth@cynulliad.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565 i drefnu hyn.
Y gweithdai rydym ni'n eu cynnig:
1. Cyflwyniad i'ch Cynulliad Cenedlaethol
Pa benderfyniadau am Gymru y gellir eu gwneud yng Nghymru
Rôl y Cynulliad a phwy sy'n eich cynrychioli chi
Sut y mae'r Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif
Sut y gallwch chi ddechrau cymryd rhan a dweud eich dweud
2. Dweud eich dweud a chael eich clywed yn y Cynulliad
Sut i feithrin perthynas ag Aelodau'r Cynulliad
Sut i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth
Sut i ddechrau deiseb
Awgrymiadau ar sut i ymgyrchu'n effeithiol
3. Deddfu yng Nghymru
Sut y mae cyfraith yn cael ei gwneud yng Nghymru
Hanes deddfu yng Nghymru
Cipolwg ar is-ddeddfwriaeth a chynigion cydsyniad deddfwriaethol
Sut y gallwch chi lunio cyfreithiau'r dyfodol
Rhowch wybod i ni beth yw diddordebau neu nodau eich grŵp a gallwn addasu'r sesiwn yn benodol ar eich cyfer chi. Ar gael yn Gymraeg neu Saesneg ar adeg ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i chi.