Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig sy'n ymwneud â threfn ariannu a chyllido Llywodraeth Cymru.  

Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, gallwch ddarllen cyhoeddiadau eraill y Gwasanaeth Ymchwil,  neu ein blog, Pigion.

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu?

Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyfran fawr o gyllid blynyddol i Lywodraeth Cymru, a adwaenir yn anffurfiol fel y 'grant bloc'.  Mae'r grant bloc heb ei neilltuo, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn o ran sut mae'n dyrannu'r arian hwn.

Wrth bennu ei chyllideb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trin y gweinyddiaethau datganoledig yn yr un modd ag y mae'n trin adrannau llywodraethol y DU.​

Mae adolygiadau gwariant y DU  yn amlinellu'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn pennu Cyllideb yr Hydref fanwl bob blwyddyn sy'n nodi unrhyw addasiadau a wneir i wariant a threth a gofynion benthyca, sy'n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â mentrau cyllidebol blaenorol, sefyllfa ariannol y Llywodraeth, a chynigion posibl ar gyfer cyllidebau'r dyfodol.  Bydd unrhyw newidiadau i adrannau â chyfrifoldebau a ddatganolwyd i Gymru yn debygol o arwain at newid i'r cyllid a ddarperir i Lywodraeth Cymru.​

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu codi arian trwy drethi datganoledig a threthi lleol.

2. Faint o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli tua  £6 biliwn yn flynyddol. Cyfanswm y gwariant cyhoeddus amcangyfrifedig yng Nghymru yw £38 biliwn (tua 5% o gyfanswm gwariant cyhoeddus y DU).

Er bod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi'u datganoli, mae Llywodraeth y DU yn parhau i reoli dros hanner  yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, ee, gwariant ar y system les.  Mae'n anodd priodoli rhannau o wariant Llywodraeth y DU, fel yr arian a gaiff ei wario ar amddiffyn a materion tramor, i un ardal ddaearyddol.

3. Faint y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar bethau fel iechyd ac addysg​?


4. Beth yw Fformiwla Barnett?

Defnyddir fformiwla Barnett i bennu'r newid blynyddol a wneir i grantiau bloc y tair gweinyddiaeth ddatganoledig. Os bydd Llywodraeth y DU yn newid gwariant yn Lloegr mewn maes sydd wedi'i ddatganoli'n llawn neu'n rhannol, bydd grant bloc Cymru yn newid.  Yn aml, y term a roddir i'r arian hwn yw 'arian canlyniadol'. 

Cyflwynodd y Fframwaith Cyllidol ffactor sy'n seiliedig ar angen i gymhwyso fformiwla Barnett yng Nghymru.  O 2018-19, bydd y cynyddrannau a drosglwyddir i gyllideb Cymru o Fformiwla Barnett yn 5% yn fwy nag y byddent wedi bod o dan y fformiwla flaenorol.  Yn 2017, cyfrifwyd bod y cyllid cymharol y person yng Nghymru oddeutu 120% o'r hyn ydyw yn Lloegr.  Os bydd hyn, yn y dyfodol, yn is na 115%, yna bydd y ffactor sy'n seiliedig ar angen yn cael ei newid i 115%.​


5.Beth yw'r amserlen ar gyfer datganoli trethi i Gymru?

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n casglu mwyafrif y trethi a godir yng Nghymru (er enghraifft, treth incwm ac yswiriant gwladol). Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran anuniongyrchol o arian a godwyd trwy'r grant bloc.

Mae cyfrifoldeb dros y Dreth Stamp a threth Tirlenwi yn cael ei ddatganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018. Bydd treth incwm wedi'i ddatganoli'n rhannol, sy'n golygu o fis Ebrill 2019   bydd Llywodraeth Cymru yn pennu ac yn derbyn cyfran o’r dreth incwm.


6. Sut y caiff y grant bloc ei addasu i gyfrif am ddatganoli treth​?

Yn dilyn datganoli tua £2.5 biliwn o refeniw treth erbyn 2019, bydd grant bloc Cymru yn cael ei dorri gan swm cyfatebol. Wrth edrych ymlaen, bydd y ffordd y caiff y grant bloc ei addasu bob blwyddyn yn dibynnu ar newidiadau i refeniw treth cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Felly bydd perfformiad cymharol refeniw treth Cymru yn cael effaith uniongyrchol ar faint y gall Llywodraeth Cymru ei wario yn y gyllideb.  Nodir y model addasu grant bloc yn y fframwaith cyllidol i Gymru.   

7. A all Llywodraeth Cymru fenthyg arian?

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca cyfyngedig at ddibenion buddsoddi cyfalaf ac at ddibenion rheoli derbyniadau treth ansefydlog.  Mae yna gyfyngiadau ar y swm y gellir ei fenthyca bob blwyddyn.  Y terfynau benthyca cyffredinol tan 1 Ebrill 2018 yw:

  • £500 miliwn ar gyfer gwariant cyfalaf; a 
  • £500 miliwn ar gyfer adnoddau i gyfrif am ansefydlogrwydd refeniw treth.

Cynyddodd y Fframwaith cyllidol bwerau benthyca cyfalaf:​

  • £1 biliwn gyfer gwariant cyfalaf; a 
  • £500 miliwn ar gyfer adnoddau i gyfrif am ansefydlogrwydd refeniw treth.

Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol fynediad i system o fenthyca darbodus ar gyfer prosiectau cyfalaf, o dan Adran 3 Deddf Llywodraeth Leol 2003. Ers 2004 mae gan awdurdodau lleol rwymedigaeth i ddilyn y Cod Benthyca Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, a ddatblygwyd gan CIPFA. 

Mae gan ymddiriedolaethau'r GIG bwerau benthyca hefyd, er nad oes gan Fyrddau Iechyd y GIG y pwerau hynny ar hyn o bryd. Cynhaliwyd ymgynghoriad​ yn y Pedwerydd Cynulliad ynghylch ymestyn pwerau byrddau iechyd yn hyn o beth.

8. Pryd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn pennu ei Chyllideb?

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei Chyllideb bob blwyddyn, a hynny drwy broses â sawl cam iddi. Mae'r broses o bennu cyllideb yn cynnwys y tair elfen a ganlyn:

  • Cynigion cyllideb ddrafft (mis Hydref): yn amlinellu cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ac yn caniatáu i'r Cynulliad graffu arnynt a'u diwygio.
  • Cynnig terfynol a chynnig cyllideb blynyddol (Rhag-Ion): yn ceisio awdurdodiad ffurfiol y Cynulliad ar gyfer defnyddio adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol. 
  • Cynnig cyllideb atodol (Chwef a Mehefin): yn ceisio caniatâd ar gyfer newidiadau yn ystod y flwyddyn i'r cynnig cyllideb blynyddol. 

Fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Chyllideb ddrafft yn ystod tymor yr hydref bob blwyddyn. Pwyllgorau a phartïon eraill â diddordeb yn archwilio'r gyllideb ddrafft.  Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyllideb derfynol, ac mae'r Cynulliad cyfan yn pleidleisio ar y cynnig cyllideb blynyddol. 

Mae achlysuron pan fydd Adolygiad Gwariant neu gyhoeddiad Cyllidebol y DU yn hwyr yn golygu bod rhaid i Gyllideb Cymru ddigwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Newidiodd sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chraffu yn y Cynulliad yn Hydref 2017.  Mae'r graffig isod yn dangos y dyddiadau allweddol yn 2017.


9. Sut y mae llywodraeth leol yn cael ei hariannu?

Mae maes llywodraeth leol yn cynnwys nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau tân a chyrff y parciau cenedlaethol.  Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw prif ffynonellau cyllid y sefydliadau hyn. ​

Mae awdurdodau lleol yn cael cyllid drwy'r setliad blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'r setliad hwn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Tair prif elfen y pecyn cyllido ar gyfer awdurdodau lleol yw'r Grant Cynnal Refeniw (RSG), y dreth gyngor ac ardrethi busnes.

Mae heddluoedd yn cael cyllid drwy'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a praesept y dreth gyngor.  

Mae'r gwasanaeth tân yn cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ond yn cael y rhan fwyaf ohono gan awdurdodau lleol.

10. Beth yw rôl y Cynulliad mewn perthynas â threfn gyllido a gwariant Llywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y ffordd y mae'n dyrannu cyllid, yn codi ac yn gwario incwm treth yng Nghymru ac yn rheoli benthyca.

Ymgymerir â swyddogaeth gyffredinol graffu cyllideb yn y Cynulliad gan  y Pwyllgor Cyllid, gyda phwyllgorau pwnc yn craffu ar eu meysydd pwnc cyfrifoldeb eu hunain.  

Mae gan bwyllgorau rôl hefyd wrth ddal y Llywodraeth i gyfrif am benderfyniadau polisi gyda chanlyniadau ariannol ac unrhyw newidiadau i ddyraniadau cyllidebol a wnaed yn ystod y flwyddyn.  

Swyddogaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw sicrhau bod dulliau priodol a thrylwyr o graffu ar wariant Llywodraeth Cymru.  Mae’r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a baratowyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiwyd adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. 

Gall y Cynulliad Cenedlaethol graffu yn y Siambr trwy gwestiynau neu ddadleuon yr aelodau.

11. Beth yw ystyr y derminoleg a ddefnyddir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru​?

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Hysbysiad Hwylus ar Eirfa'r Gyllideb​.

​ 

Partners & Help