Yr Ail Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn rhoi amlinelliad o'r dyddiadau allweddol wrth greu Cynulliad Ceneldaethol Cymru a datblygiad y sefydliad wedi hynny. Mae'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau gweinyddol a threfniadaeth ond mae hefyd yn cyfeirio at rai datblygiadau gwleidyddol a pholisi nodweddiadol.
2003 | 2004 | 2005 | 2006 | 2007
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill | Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr
2007
Mai
03.05.2007 - Etholiadau’r Cynulliad. (Canlyniadau’r etholiad)
Chwefror
12.02.2007 - Prif Weithredwr a Chlerc newydd y Cynulliad, Claire Clancy, yn dechrau ar ei swydd.
07.02.2007 - Cymeradwyir y Rheolau Sefydlog newydd yn y Cyfarfod Llawn. (Linc i Gofnod y Trafodion)
Ionawr
31.01.2007 - Cyhoeddir Rheolau Sefydlog newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2006
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill | Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr
Tachwedd
28.11.2006 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh. Peter Hain AS, yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines, a ddilynir gan ddadl yn y Cyfarfod Llawn. (Linc i Gofnod y Trafodion).
15.11.2006 - Penodir Claire Clancy yn Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad. (Linc i Gofnod y Trafodion)
Gorffennaf
25.07.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru yn derbyn Cydsyniad Brenhinol (Linc i Hansard).
Cyhoeddir Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
24.07.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – Ystyried gwelliannau Ty’r Cyffredin a’r rhesymau amdanynt yn Nhy’r Arglwyddi. (Link i Hansard)
13.07.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – y trydydd darlleniad yn Nhy’r Arglwyddi (Link i Hansard)
04.07.2006 - Trish Law AC yn mynychu ei Chyfarfod Llawn cyntaf yn dilyn is-etholiad Blaenau Gwent.
Mehefin
29.06.2006 - Etholir Trish Law (Annibynnol) yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Blaenau Gwent.
28.06.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – Ail ddiwrnod y Cyfnod Adrodd yn Nhy’r Arglwyddi (Linc i Hansard).
27.06.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – Diwrnod cyntaf y Cyfnod Adrodd yn Nhy’r Arglwyddi (Linc i Hansard).
12.06.2006 - Pwyllgor Sefydlog CALRE, Cynhadledd Llywyddion Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop, yn cyfarfod yn y Senedd i drafod materion o ddiddordeb cyffredin o ran cynulliadau rhanbarthol, eu cysylltiad â’i gilydd, a’u perthynas â sefydliadau Ewrop.
06.06.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – trydydd diwrnod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Arglwyddi (Linc i Hansard).
Mai
17.05.2006 - Y Cynulliad yn pleidleisio i greu pwyllgor ymgynghorol a fydd yn argymell pa Reolau Sefydlog y dylai’r Cynulliad eu mabwysiadu pan fydd wedi’i gyfansoddi yn ôl Mesur Llywodraeth Cymru.
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas (y Llywydd)
Elin Jones (Plaid Cymru)
William Graham (Ceidwadwyr)
Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol)
yn aelodau’r Comisiwn Cysgodol, ac etholir y Llywydd yn Gadeirydd.
Y Cynulliad yn pleidleisio i greu pwyllgor ymgynghorol a fydd yn argymell pa Reolau Sefydlog y dylai’r Cynulliad eu mabwysiadu pan fydd wedi’i gyfansoddi yn ôl Mesur Llywodraeth Cymru.
Jane Hutt (Llafur)
Ann Jones (Llafur)
Val Lloyd (Llafur)
Gwenda Thomas (Llafur)
Jocelyn Davies (Plaid Cymru)
Lisa Francis (Ceidwadwyr)
Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol)
yn aelodau’r Pwyllgor ar y Rheolau Sefydlog. Etholir Jenny Randerson yn Gadeirydd y pwyllgor (Linc i Gofnod y Trafodion)
03.05.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – ail ddiwrnod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Arglwyddi (Linc i Hansard)
02.05.2006 - Telir teyrnged yn y Cyfarfod Llawn i’r diweddar Peter Law AC AS, yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent. (Linc i Hansard)
Ebrill
25.04.2006 - Croesewir y 100,000fed ymwelydd i’r Senedd ers iddi agor i’r cyhoedd ym mis Chwefror.
19.04.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – Diwrnod cyntaf y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Arglwyddi (Linc i Hansard)
01.04.2006 - Newidir enw dau o bwyllgorau’r Cynulliad i adlewyrchu’r ffaith bod Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, ACCACacELWa wedi dod yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Enw newydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yw’r Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, ac enw newydd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes yw’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Nid oes newidiadau i gyfrifoldebau’r pwyllgorau.
Mawrth
22.03.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – yr ail ddarlleniad yn Nhy’r Arglwyddi. (Linc i Hansard)
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar Fesur Llywodraeth Cymru. (Linc i Gofnod y Trafodion)
14.03.2006 - Agoriad Brenhinol adeilad newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd, a fynychir gan Ei Mawrhydi’r Frenhines, Ei Fawrhydi Brenhinol Dug Caeredin, Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, a’i Mawrhydi Brenhinol Duges Cernyw. (Linc i Gofnod y Trafodion)
01.03.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – y darlleniad cyntaf yn Nhy’r Arglwyddi. (Linc i Hansard)
Chwefror
28.02.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru - gweddill y cyfnodau craffu yn Nhy’r Cyffredin (Linc i Hansard)
27.02.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – gweddill y cyfnodau craffu yn Nhy’r Cyffredin. (Linc i Hansard)
07.02.2006 - Cynhelir y Cyfarfod Llawn cyntaf yn y Senedd, adeilad newydd y Cynulliad.
Ionawr
30.01.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – trydydd diwrnod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Cyffredin. (Linc i Hansard)
Mesur Llywodraeth Cymru – ail ddiwrnod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Cyffredin. (Linc i Hansard)
24.01.2006 - Etholir yr Aelodau Cynulliad canlynol yn aelodau’r Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr:
Leighton Andrews (Llafur);
Carl Sargeant (Llafur);
Janet Davies (Plaid Cymru);
Lisa Francis (Ceidwadwyr);
Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol);
John Marek (Forward Wales).
23.01.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru – diwrnod cyntaf y Cyfnod Pwyllgor yn Nhy’r Cyffredin. (Linc i Hansard).
18.01.2006 - Y Cynulliad yn pleidleisio i sefydlu Pwyllgor ar Fesur Llywodraeth Cymru, ac yn ethol yr Aelodau canlynol yn aelodau ohono:
Yr Arglwydd Elis-Thomas (y Llywydd) (Cadeirydd);
Leighton Andrews (Llafur);
Ann Jones (Llafur);
Val Lloyd (Llafur);
Gwenda Thomas (Llafur);
Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru);
Jocelyn Davies (Plaid Cymru);
Nick Bourne (Ceidwadwyr);
David Melding (Ceidwadwyr);
Michael German (Democratiaid Rhyddfrydol)
(Linc i Gofnod y Trafodion)
17.01.2006 - Dadl ar Fesur Llywodraeth Cymru
yn y Cyfarfod Llawn. (Linc i Gofnod y Trafodion)
09.01.2006 - Mesur Llywodraeth Cymru - ail ddarlleniad yn Nhy'r Cyffredin. (Linc i Hansard)
2005
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru | | | |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr | |
13.12.2005 | Cyhoeddir adroddiad cyntaf y Pwyllgor Materion Cymreig ar y Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru (First Report, 2005-06, HC 551). (Linc i'r Adroddiad) |
| |
08.12.2005 | Cyhoeddir Mesur Llywodraeth Cymru. Darlleniad cyntaf y Mesur yn Nhŷ'r Cyffredin (Linc i Hansard) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Tachwedd | |
10.11.2005 | Y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ei gyfarfod olaf o'i ymchwiliad ar y Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru (Linc i Hansard) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hydref | |
31.10.2005 | Y Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod fel rhan o'i ymchwiliad ar y Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru. (Link to Hansard) |
| |
25.10.2005 | Y Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod fel rhan o'i ymchwiliad ar y Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru (Linc i Hansard) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gorffennaf | |
07.07.2005 | Y Pwyllgor ar y Papur Gwyn – Trefn Lywodraethu Well i Gymru yn cyfarfod i glywed tystiolaeth |
| |
06.07.2005 | Y Cynulliad yn ethol yr Aelodau Cynulliad canlynol yn aelodau'r Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion: - Denise Idris Jones (Llafur);
- Lynne Neagle (Llafur);
- Janet Ryder (Plaid Cymru);
- William Graham (Ceidwadwyr);
- Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol).
(Cofnod y Trafodion 6 Gorffennaf 2005) |
| |
05.07.2005 | Y Pwyllgor ar y Papur Gwyn – Trefn Lywodraethu Well i Gymru yn cyfarfod i glywed tystiolaeth |
| |
04.07.2005 | Y Pwyllgor ar y Papur Gwyn – Trefn Lywodraethu Well i Gymru yn cyfarfod i glywed tystiolaeth |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mehefin | |
28.06.2005 | (Cofnod y Trafodion 28 Mehefin 2005) Yn dilyn y Cyfarfod Llawn, cynhelir cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar y Papur Gwyn – Trefn Lywodraethu Well i Gymru, er mwyn clywed tystiolaeth
|
| |
21.06.2005 | Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh. Peter Hain AS, yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines, a ddilynir gan ddadl yn y Cyfarfod Llawn (Cofnod y Trafodion 21 Mehefin 2005) |
| |
15.06.2005 | Cyhoeddir Trefn Lywodraethu Well i Gymru, sef y Papur Gwyn ar ddiwygio'r Cynulliad, ar ôl datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. . (Linc i Hansard). Prif Weinidog Cymru’n gwneud datganiad ar y Papur Gwyn yn y Cyfarfod Llawn. (Cofnod y Trafodion 15 Mehefin 2005) |
| |
14.06.2005 | Y Cynulliad yn pleidleisio i sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar ariannu ysgolion (Cofnod y Trafodion 14 Mehefin 2005) |
| |
07.06.2005 | Etholir Mick Bates AC yn aelod o’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Kirsty Williams AC yn aelod o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, Jenny Randerson AC yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Jeff Cuthbert AC yn aelod o’r Pwyllgor Deddfau (Cofnod y Trafodion 7 Mehefin 2005) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mai | |
17.05.2005 | Cyhoeddir deddfwriaeth yn Araith y Frenhines i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ceir y manylion llawn am Fesur (Diwygiad) Llywodraeth Cymru mewn Papur Gwyn sydd ar fin cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir tair deddf arall sy’n berthnasol i Gymru yn unig: Mesur Trafnidiaeth (Cymru); Mesur Comisiynydd Pobl Hyn (Cymru) ; Y Mesur Llety Twristiaeth (Cofrestru) (Cymru) drafft.
(Linc i Hansard) Etholir Laura Anne Jones AC yn aelod o’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Brynle Williams AC yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a William Graham AC yn aelod o’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes. (Linc i Gofnod y Trafodion) |
| |
05.05.2005 | Y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol gyda mwyafrif o 67 o seddi. Etholir dau Aelod Cynulliad yn Aelodau Seneddol yn San Steffan: etholir Peter Law AC yn Aelod Seneddol annibynnol dros Flaenau Gwent, a David Davies AC yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Fynwy. |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ebrill | |
27.04.2005 | Y Cynulliad yn ethol aelodau’r pwyllgorau rhanbarthol. (Linc i Gofnod y Trafodion) |
| |
18.04.2005 | Peter Law AC yn hysbysu’r Llywydd nad yw bellach yn aelod o’r Blaid Lafur. O ganlyniad, bydd yn Aelod annibynnol o’r Cynulliad. |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mawrth | |
09.03.2005 | Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 3.2 o ran y swyddi y gall Aelod Cynulliad gael cyflog ychwanegol amdanynt. (Linc i Gofnod y Trafodion) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Chwefror | |
22.02.2005 | Y Cynulliad yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Busnes ar Chwefror 14. Diwygir Rheol Sefydlog Rhif 18A i sefydlu pwyllgor i graffu ar waith y Prif Weinidog. Diwygir Rheol Sefydlog Rhif 10 er mwyn newid ffiniau rhanbarthau’r pwyllgorau rhanbarthol fel eu bod yn cyd-fynd â ffiniau rhanbarthau etholiadol y Cynulliad. Drwy hynny crëir pum pwyllgor rhanbarthol, ar gyfer: Diwygir Rheol Sefydlog Rhif 6.6, sy’n ymdrin ag ailgyfeirio Mesurau i bwyllgorau Rheol Sefydlog Rhif 6.12, sy’n ymdrin â threfn busnes Rheol Sefydlog Rhif 6.14, sy’n ymdrin â’r canllawiau ar gynigion a gwelliannau Rheol Sefydlog Rhif 31, sy’n ymdrin ag is-ddeddfwriaeth.
(Linc i Gofnod y Trafodion) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ionawr | |
14.01.2005 | Prif Weinidog Cymru’n cyhoeddi penodiad dwy Ddirprwy Weinidog newydd. Penodir Tamsin Dunwoody-Kneafsey AC (Llafur) yn Ddirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Christine Chapman AC (Llafur) yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, a Chyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Penodir Jeff Cuthbert AC (Llafur) yn Gadeirydd y Pwyllgor Monitro Amcan Un
|
| |
10.01.2005 | Penodi Dr Brian Gibbons AC yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Penodi Jane Hutt AC yn Drefnydd. Bydd Karen Sinclair AM yn parhau fel Prif Chwip ac yn mynychu cyfarfodydd y Cabinet.
|
| <<Dychwelyd i'r mynegai 2005 |
Brig y dudalen
2004
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru | | | |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr | |
01.12.2004 | Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n gwneud datganiad ar Araith y Frenhines, a ddilynir gan y ddadl flynyddol yn y Cyfarfod Llawn. (Cofnod y Trafodion 1 Rhagfyr 2004) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Tachwedd | |
23.11.2004 | Dau Fesur sy’n berthnasol i Gymru yn unig yn cael eu cyhoeddi yn Araith y Frenhines yn ystod agoriad swyddogol y Senedd yn San Steffan: Mesur Trafnidiaeth (Cymru) a Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).. (Linc i Hansard) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hydref | |
06.10.2004 | Yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Comisiwn Richard, derbynnir y cynnig bod y Cynulliad, 'ar ôl ystyried adroddiad comisiwn Richard, yn galw ar Brif Weinidog Cymru i annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflwyno cynigion i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 at y dibenion canlynol: a) sicrhau gwahaniad ffurfiol rhwng cangen weithredol a changen ddeddfwriaethol y Cynulliad; b) diwygio'r trefniadau etholiadol presennol er mwyn cael gwared ar unrhyw anghysondebau; c) gwella pwerau deddfwriaethol y Cynulliad.’ (Cofnod y Trafodion 6 Hydref 2004) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Medi | |
28.09.2004 | Y Cynulliad yn cymeradwyo’r cynnig bod Pwyllgor y Tŷ’n cymryd cyfrifoldeb dros adeilad newydd y Cynulliad wedi iddo gael ei gwblhau. (Cofnod y Trafodion 28 Medi 2004) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gorffennaf | |
15.07.2004 | Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus.
(Linc i'r agenda) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mehefin | |
21.06.2004 | Am y tro cyntaf, cynhelir cyfarfod ar y cyd ffurfiol rhwng un o bwyllgorau pwnc y Cynulliad a'r Pwyllgor Materion Cymreig. Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'r Pwyllgor Materion Cymreig yn trafod y Mesur Trafnidiaeth (Cymru) drafft yn y Cynulliad |
| |
15.06.2004 | Y Cynulliad yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Busnes. Bydd Rheol Sefydlog newydd Rhif 9.15 yn galluogi aelodau Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin i gymryd rhan yng nghyfarfodydd pwyllgorau pwnc y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion 15 Mehefin 2004) |
| |
08.06.2004 | Y Cynulliad yn pleidleisio i sefydlu pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 8.1 a fydd yn cynghori'r Cynulliad ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Etholir yr Aelodau Cynulliad canlynol yn aelodau'r Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus: - Jeff Cuthbert AC (Llafur);
- David Lloyd AC (Plaid Cymru);
- Jonathan Morgan AC (Ceidwadwyr);
- Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol);
- Val Lloyd AC (Llafur) (Cadeirydd).
(Cofnod y Trafodion 8 Mehefin 2004) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mai | |
27.05.2004 | Cyhoeddi'r Mesur Trafnidiaeth (Cymru) drafft. |
| |
13.05.2004 |
Ei Hardderchowgrwydd yr Arlywydd Vaira Vike-Freiberga o Latfia yn ymweld â’r Cynulliad.
|
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ebrill | |
26.04.2004 | Y newidiadau i Reolau Sefydlog a gymeradwywyd ar 24 Mawrth 2004 yn dod i rym, gan olygu mai enw newydd Swyddfa’r Llywydd yw ‘Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad’. |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mawrth | |
31.03.2004 | Cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Richard ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol. Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog er mwyn atgyfnerthu’r holl reolau a ddiwygiwyd yn ystod y Cynulliad Cyntaf, gan gywiro unrhyw anghysonderau a hynodweddau ynddynt. (Cofnod y Trafodion 31 Mawrth 2004) |
| |
24.03.2004 | Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog er mwyn iddynt adlewyrchu’r ffaith mai enw newydd Swyddfa’r Llywydd yw ‘Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad’. (Cofnod y Trafodion 24 Mawrth 2004) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Chwefror | |
02.02.2004 |
Canolfan ymwelwyr newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Colwyn yn agor i’r cyhoedd.
|
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ionawr | |
22.01.2004 |
Cyfarfod cyntaf Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
|
| |
13.01.2004 | Y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio o blaid sefydlu Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan Reol Sefydlog Rhif 8.1. Bydd y pwyllgor yn ystyried agweddau ar Fesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gan gynnwys y llythyr a anfonodd y Gweinidog Cyllid ar 1 Rhagfyr at Gadeirydd Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru). Etholir yr Aelodau Cynulliad canlynol yn aelodau o Bwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004: - Leighton Andrews AC (Llafur);
- Janice Gregory AC (Llafur);
- Alun Cairns AC (Ceidwadwyr);
- Jenny Randerson AC (Democrat Rhyddfrydol);
- Janet Davies AC (Plaid Cymru) (Cadair).
(Cofnod y Trafodion 13 Ionawr 2004) |
| <<Mynegai 2004 |
Brig
2003
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru | | | |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr | |
05.12.2003 |
Prif Weinidog Cymru a’r Llywydd yn ymweld â chwarel y Penrhyn ym Methesda er mwyn torri’r llechen gyntaf a fydd yn cael ei defnyddio yn adeilad newydd y Cynulliad.
|
| |
03.12.2003 | Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines (Cofnod y Trafodion 3 Rhagfyr 2003) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Tachwedd | |
28.11.2003 |
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cyfarfod yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
|
| |
19.11.2003 | Gweinidog-Lywydd Teufel o ranbarth Baden-Württemberg yr Almaen yn annerch y Cynulliad. Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 14 fel y gellir dirprwyo ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal; i Reol Sefydlog Rhif 15 fel y gellir dirprwyo ar y pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol; ac i Reol Sefydlog Rhif 19, fel bod modd cyhoeddi mwy nag un adroddiad ar gyllid llywodraeth leol mewn blwyddyn, ac er mwyn gwneud y trefniadau ar gyfer cyflwyno dogfennau yn gliriach. |
| |
04.11.2003 | Gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Drefniadau Seddi yn y Siambr. |
| |
| Cyhoeddi The National Assembly for Wales elections 2003: the official report and results.
|
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hydref | |
21.10.2003 |
Cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar Drefniadau Seddi yn y Siambr
|
| |
02.10.2003 |
Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar Drefniadau Seddi yn y Siambr.
|
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Medi | |
15.09.2003 |
Etholir Ieuan Wyn Jones AC yn arweinydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.
|
| |
10.09.2003 | Cyhoeddir bod un person, sef Adam Peat, wedi’i benodi i dair swydd: Comisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru, Comisiynydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru. |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Awst | |
04.08.2003 |
Y gwaith adeiladu’n dechrau ar adeilad newydd y Cynulliad.
|
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gorffennaf | |
15.07.2003 | Y Pwyllgor ar Drefniadau Seddi yn y Siambr yn cael ei sefydlu o dan Reol Sefydlog Rhif 8.1. Etholir aelodau'r pwyllgor ar 16 Gorffennaf: - Karen Sinclair AC (Llafur);
- Lynne Neagle AC (Llafur);
- Leighton Andrews AC (Llafur);
- Carl Sargeant AC (Llafur);
- Janet Davies AC (Plaid Cymru);
- Jonathan Morgan AC (Ceidwadwyr);
- Kirsty Williams AC (Democratiaid Rhyddfrydol);
- Yr Arglwydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) (Cadeirydd).
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 35, sy'n darparu ar gyfer aelodaeth pwyllgorau penderfyniadau cynllunio fel eu bod yn adlewyrchu'r cydbwysedd newydd rhwng y pleidiau yn y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion 15 Gorffennaf 2003) |
| |
09.07.2003 | Y Gwir Anrh. Helen Clark AS, Prif Weinidog Seland Newydd, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion 9 Gorffennaf 2003) |
| |
08.07.2003 | Cyfarfod cyntaf Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru). |
| |
02.07.2003 | Y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 8.1, yn ethol yr Aelodau Cynulliad canlynol yn aelodau Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru): (Cofnod y Trafodion 2 Gorffennaf 2003) |
| |
01.07.2003 | Derbynnir cynnig NDM1518 yn y Cyfarfod Llawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno i wneud contract cyfandaliad ar gyfer adeilad Siambr newydd y Cynulliad gyda Taylor Woodrow Construction Cyf ar gost o £40,997,000.00 (heb gynnwys TAW).. Y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu Pwyllgor Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru) o dan Reol Sefydlog Rhif 8.1 a fydd yn cynghori'r Cynulliad ar delerau Mesur Archwilio Cyhoeddus (Cymru). (Cofnod y Trafodion 1 Gorffennaf 2003) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mehefin | |
12.06.2003 | Croesewir y 100,000fed ymwelydd i’r Cynulliad yn y Pierhead ers agor y ganolfan i’r cyhoedd ym Mai 2001. |
| |
05.06.2003 | Agorir yr ail Gynulliad yn swyddogol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines, ynghyd â’i Fawrhydi Brenhinol Dug Caeredin a’i Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru. (Cofnod y Trafodion 5 Mehefin 2003) |
| |
03.06.2003 | Etholir cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau pwnc yn y Cyfarfod Llawn: - Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) – Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad;
- Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol) – Y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes;
- Rosemary Butler AC (Llafur) – Y Pwyllgor Diwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon;
- Ann Jones AC (Llafur) – Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Janice Gregory AC (Llafur) - Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio;
- David Melding AC (Ceidwadwyr) - Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- Christine Gwyther AC (Llafur) - Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth;
- Janet Davies AC (Plaid Cymru) - Y Pwyllgor Archwilio;
- Gwenda Thomas AC (Llafur) - Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal;
- Glyn Davies AC (Ceidwadwyr) - Y Pwyllgor Deddfau;
- Kirsty Williams AC (Democratiaid Rhyddfrydol) - Y Pwyllgor Safonau;
- Sandy Mewies AC (Llafur) - Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
(Cofnod y Trafodion 3 Mehefin 2003) |
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mai | |
20.05.2003 | Etholir aelodau Panel y Cadeiryddion. Bydd cadeiryddion y pwyllgorau yn cael eu dewis o blith aelodau'r panel, sef: - Rosemary Butler AC (Llafur);
- Janice Gregory AC (Llafur);
- Christine Gwyther AC (Llafur);
- Ann Jones AC (Llafur);
- Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru);
- David Melding AC (Ceidwadwyr);
- Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
|
| |
13.05.2003 | Cynhelir y Cyfarfod Llawn cyntaf ar brynhawn Mawrth o dan y drefn newydd, sef y bydd cyfarfodydd llawn yn cael eu cynnal ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher. Y Prif Weinidog yn penodi'r Dirprwy Weinidogion: - Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth – Brian Gibbons AC (Llafur);
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol – John Griffiths AC (Llafur);
- Cyfiawnder Cymdeithasol – Huw Lewis AC (Llafur).
Etholir aelodau Pwyllgor y Tŷ a’r Pwyllgor Busnes. (Cofnod y Trafodion 13 Mai 2003) |
| |
09.05.2003 | Prif Weinidog Cymru'n cyhoeddi ei Gabinet newydd ar gyfer ail dymor Llywodraeth Cynulliad Cymru: - Y Gweinidog dros Gyllid, gyda chyfrifoldeb am lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus - Sue Essex AC (Llafur);
- Y Trefnydd - Karen Sinclair AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio - Edwina Hart AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Jane Hutt AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth - Andrew Davies AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes - Jane Davidson AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad - Carwyn Jones AC (Llafur);
- Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg - Alun Pugh AC (Llafur).
|
| |
08.05.2003 | Ieuan Wyn Jones AC yn ymddiswyddo fel Llywydd Plaid Cymru. |
| |
07.05.2003 | Cyfarfod Llawn Cyntaf yr Ail Gynulliad. - Ailbenodi'r Arglwydd Elis-Thomas yn Llywydd;
- Penodi Dr John Marek AC yn Ddirprwy Lywydd;
- Ailethol Rhodri Morgan AC yn Brif Weinidog
(Cofnod y Trafodion 7 Mai 2003) |
| |
01.05.2003 | Etholiadau’r Cynulliad. (Canlyniadau'r etholiad) |
| <<Mynegai 2003 |
Brig