Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Ymchwil Academaidd a'r Cynulliad

Pa ymchwil sydd o ddiddordeb i'r Cynulliad?

Yn gyffredinol, bydd gan Aelodau'r Cynulliad a'u staff ddiddordeb mewn ymchwil sy'n berthnasol i faterion cyfoes sydd dan ystyriaeth yn y Cynulliad neu a allai fod yn rhan o agenda'r Cynulliad yn y dyfodol.  Bydd yr ymchwil mwyaf perthnasol yn y meysydd polisi hynny lle mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli, ond efallai y bydd gan Aelodau ddiddordeb mewn ymchwil ar bynciau nad ydynt wedi'u datganoli, yn enwedig lle gallai'r rhain effeithio ar eu hetholwyr.

Bydd ymchwil sy'n amlygu'r angen am newid polisi neu weithredu hefyd o ddiddordeb, hyd yn oed os nad yw hyn ar agenda'r Cynulliad ar hyn o bryd.

Mae'r meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd wedi'u pennu yn  Neddf Cymru 2017. Mae hyn yn cynnwys yr holl feysydd polisi neu'r rhan fwyaf o bethau megis iechyd, trafnidiaeth, addysg a'r amgylchedd. Bellach mae meysydd polisi wedi'u datganoli oni bai eu bod wedi'u neilltuo'n benodol i Senedd y DU. Mae rhestr eang o'r materion a gadwyd yn ôl i'w chael yma.

  

Sut mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio gan y Cynulliad?

Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn darparu ymchwil a gwybodaeth amhleidiol ac annibynnol i holl Aelodau'r Cynulliad.  Mae angen mynediad at arbenigedd a thystiolaeth ar ei staff a bydd yn defnyddio amryw ffynonellau, gan gynnwys arbenigedd academaidd.

Mae'r gwasanaeth yn datblygu arferion ymgysylltu presennol ac yn treialu mentrau newydd i gryfhau'r cysylltiadau â phrifysgolion ac academyddion yng Nghymru a thu hwnt, gyda'r nod o wella'r gwasanaeth a ddarparwn i Aelodau'r Cynulliad.


Mae Pwyllgorau'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliadau ar wahanol bynciau, yna'n ysgrifennu adroddiadau sy'n cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru a rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt.  Gall ymchwil academaidd gyfrannu at yr ymchwiliadau hyn. 

Mae'r pwyllgorau hefyd yn gwneud gwaith craffu ar gynigion deddfwriaethol.  Gall academyddion gyfrannu at y gwaith craffu ar Fil Cynulliad neu amlygu materion allweddol, eu goblygiadau a'r canlyniadau tebygol.

Gall staff sy'n cefnogi'r pwyllgorau hefyd ddefnyddio arbenigedd ymchwilwyr allanol i'w helpu i nodi pynciau ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol, i gynnal a diweddaru eu gwybodaeth bynciol a phennu ymchwilwyr penodol i weithredu fel tystion neu gynghorwyr arbenigol.

 

Mae Grwpiau Trawsbleidiol y Cynulliad yn fforwm i Aelodau’r Cynulliad o wahanol bleidiau ddod at ei gilydd i ystyried a thrafod buddiannau cyffredin mewn pynciau penodol.  Nid grwpiau ffurfiol y Cynulliad yw'r Grwpiau Trawsbleidiol, ond maent yn cynnal sgyrsiau ac ymchwiliadau, a gall ymchwil academaidd gyfrannu at y rhain.


Gall Aelodau'r Cynulliad ddefnyddio ymchwil academaidd i graffu ar bolisi Llywodraeth Cymru, hysbysu'r ddadl ar faterion cyfoes ac ystyried deddfwriaeth newydd.

Mae gan Aelodau'r Cynulliad staff cymorth yn gweithio iddynt, sy'n eu helpu i gael ymchwil a gwybodaeth.  Gall ymchwil academaidd helpu i ateb ymholiadau gan etholwyr neu roi sylw i faterion yn eu hardal leol.

 

Dulliau o ymgysylltu â'r Cynulliad

Rhoi Tystiolaeth i Bwyllgor

  • Mae rhagor o wybodaeth am roi tystiolaeth i Bwyllgorau'r Cynulliad ar gael yma
  • Mae manylion ymgynghoriadau cyfredol y Pwyllgor ar gael yma

 

Bod yn Gynghorydd Arbenigol i Bwyllgor

 

Gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymchwil

          • Rhoi cyngor a rhannu gwybodaeth
    • Cyfrannu at frîff neu erthygl blog
    • Cynorthwyo gydag adolygiad gan gymheiriaid
    • Dod yn Gymrawd Ymchwil
    • Mae Gwybodaeth ar sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Ymchwil ar gael yma.

 

Cyfrannu at Grŵp Trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad

 

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch Ganllawiau Ymgyrch y Gwyddorau Cymdeithasol i Lwybrau at Effaith yng Nghymru.

Darganfod rhagor am ymgysylltiad academaidd â Senedd y DU.

 

Partners & Help