Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 14/10/2010

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2010-0061 - PneumoAware Cymru

Codwyd gan:

Andrew RT Davies

Tanysgrifwyr:

PneumoAware Cymru

Mae’r Cynulliad hwn:

Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad “PneumoAware Wales” ac yn falch o lwyddiant Cymru o ran lefel y plant sydd wedi cael y dosau cyntaf o'r brechiad PCV. Ar hyn o bryd, mae dros 95% wedi cael y dôs cyntaf ac mae 91% wedi cael y dôs 13 mis;

Yn cydnabod nad yw 1 ym mhob 10 plentyn yn cael eu brechu o hyd ac mae angen cynnal lefel y brechiadau gan anelu at gynyddu'r niferoedd;

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a GIG Cymru i gynnal y rhaglen frechu ar lefel genedlaethol a lleol, a hynny yn hinsawdd y toriadau ar wariant cyhoeddus, gan weithio tuag at gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o frechu.



Partners & Help