Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Beth yw pwyllgor?

Mae’r pwyllgorau yn un modd o alluogi’r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau statudol a chyfansoddiadol.

Yn y Cynulliad, caiff pwyllgor ei ffurfio gan nifer o Aelodau o grwpiau’r pleidiau gwahanol, sydd wedi’u penodi gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn i weithio gyda'i gilydd i ymgymryd â gwaith manwl ac i gyflawni swyddogaethau penodol. Y Cynulliad hefyd sy’n penderfynu pwy sydd i gadeirio pob pwyllgor. Ni all neb nad yw’n Aelod Cynulliad fod yn aelod o bwyllgor nac o is-bwyllgor.

Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn pennu pa bwyllgorau y mae’n rhaid eu sefydlu. Maent yn rhoi’r rhyddid i’r Cynulliad gynllunio strwythur pwyllgorau sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a’r amgylchiadau ar y pryd. Mae’n ofynnol sicrhau bod y swyddogaethau allweddol a restrir yn y Rheolau Sefydlog yn cael eu cyflawni gan y pwyllgorau o fewn y strwythur.

Mae'r Pwyllgor Busness yn gyfrifol am trefn y Cynulliad.

Is-bwyllgorau ac is-grwpiau anffurfiol

Ar ôl i bwyllgor gael ei sefydlu, gall ei aelodau benderfynu ffurfio grwpiau llai i wneud gwaith y mae’r pwyllgor yn gyfrifol amdano.

Gall pwyllgor benderfynu defnyddio Rheol Sefydlog Rhif 17 i sefydlu is-bwyllgor i gyflawni gorchwyl ar ei ran, ac i adrodd yn ôl iddo (gweler y Rheolau Sefydlog). Mae is-bwyllgorau yn grwpiau ffurfiol a reoleiddir gan Reolau Sefydlog yn yr un ffordd ag ar gyfer y pwyllgor a’u sefydlodd.

Wrth sefydlu is-bwyllgor, rhaid i’r pwyllgor benderfynu ar ei aelodaeth, ei Gadeirydd, y gorchwyl y bydd yn ei gyflawni ac am ba hyd y bydd yn bodoli.

Mae’n bosibl y bydd aelodau pwyllgor yn penderfynu y byddai o fudd gwneud darn penodol o waith mewn ffordd fwy anffurfiol. Gall y pwyllgor, felly, sefydlu grwp anffurfiol, gan ddefnyddio aelodau o’r pwyllgor sydd â diddordeb yn y maes, neu gall hyd yn oed ofyn i aelod unigol o’r pwyllgor wneud darn o waith.

Bydd grwp anffurfiol, a elwir weithiau yn grwp rapporteur, yn cynnwys aelodau’r pwyllgor o fwy nag un blaid, ac fel arfer bydd aelodau yn gwirfoddoli i fod yn rhan ohono.

Bydd y grwp yn cyflawni ei waith drwy gyfarfodydd ac ymweliadau. Ni fydd trawsgrifiadau o’i gyfarfodydd, ond fel arfer mae nodyn sy’n crynhoi’r prif faterion yn cael ei greu fel y gall y grwp ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth lunio adroddiad.

Ar ôl i’r grwp orffen ei waith bydd yn cytuno ar adroddiad drafft i’w gyflwyno i’r pwyllgor.

Cyfarfodydd Pwyllgor

Mae pwyllgorau’r Cynulliad yn ymgymryd â’r rhan fwyaf o’u gweithgareddau yn eu cyfarfodydd.

Fel arfer, mae amseroedd yn cael eu dynodi ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor, ac mae’r pwyllgorau yn cael penderfynu ar y gwaith y maent am ei wneud yn ystod yr amseroedd hyn. Cyhoeddir y manylion ac amseroedd y cyfarfodydd ar wefan y Cynulliad fel y gall unrhyw un sydd â diddordeb ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd.

Cyfarfod yn gyhoeddus

Gan amlaf, mae pwyllgorau’n cyfarfod yn gyhoeddus, yn y Senedd. Mae cyfarfodydd pwyllgor yn cael eu darlledu’n fyw ar Senedd TV, a chynhyrchir Cofnod gair am air o’r trafodion (sef trawsgrifiad o’r drafodaeth). Mae trafodion pob pwyllgor yn ddwyieithog.

Gall y sawl sy’n cymryd rhan mewn cyfarfod pwyllgor siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o’r cyfraniadau Cymraeg. Mae systemau meicroffonau wedi’u gosod yn yr ystafelloedd pwyllgora sy’n caniatáu i’r sain gael ei throsglwyddo. Defnyddir y sain gan y ddarlledwyr a chyfieithwyr. Mae clustffonau ar gael yn yr ystafell ac yn oriel y cyhoedd i’r sawl sydd am wrando naill ai ar y cyfieithiad neu ar yr hyn a ddywedir gyda’r sain yn uwch.

Gall pwyllgorau gwrdd y tu allan i Fae Caerdydd mewn lleoliadau yng Nghymru sy’n berthnasol i’w gwaith. Os mai cyfarfod ffurfiol ydyw, caiff yr un gwasanaethau eu darparu ag a geir mewn cyfarfod yn y Senedd.

Cyfarfod yn breifat

Mae pwyllgorau’n gallu cwrdd yn breifat o dan rai amgylchiadau – efallai i drafod eu blaenraglenni gwaith, neu i drafod cynnwys ac argymhellion adroddiadau sydd ar y gweill. Gall pwyllgorau hefyd gwrdd yn anffurfiol. Nid yw’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn gyhoeddus fel arfer. Caniateir eu defnyddio at sawl diben, fel digwyddiadau casglu ffeithiau neu i gael briffio anffurfiol gan staff y Cynulliad neu gyrff allanol. Gall cyfarfodydd anffurfiol gynnwys pob aelod pwyllgor neu grwp llai ohonynt, fel grwp rapporteur sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil ar ran y pwyllgor.

Pan fydd pwyllgorau’n cymryd tystiolaeth i lywio ymchwiliad, maent yn aml yn cynnal cyfarfodydd anffurfiol cyn neu ar ôl cyfarfodydd ffurfiol. Mae hyn yn galluogi’r pwyllgor i ystyried a thrafod trywydd yr holi ac ystyried y prif faterion i godi o’r dystiolaeth y mae newydd ei chlywed.

Agendâu

Caiff yr agendâu eu llunio gan glerc y pwyllgor ar ran y cadeirydd. Yn gyffredinol, mae agendâu’n cael eu pennu gan raglen waith y pwyllgor neu, yn achos pwyllgorau deddfwriaeth, gan yr amserlen a gytunwyd ar gyfer y gwaith sydd i’w gwblhau.

Er mwyn eu helpu i gynllunio eu gweithgaredd, ac i gynorthwyo pobl y tu allan i’r Cynulliad a all fod yn cyfrannu at waith y pwyllgor, mae pwyllgorau fel arfer yn cytuno ar raglen waith. Mae rhaglenni gwaith yn cael eu drafftio gan y clerc yn seiliedig ar y tasgau y mae’r pwyllgorau’n dymuno ymgymryd â hwy, yr amser cyfarfod sydd ar gael ac unrhyw ffactorau cyfyngol eraill, er enghraifft, amserlen y ddeddfwriaeth. Dogfen waith yw rhaglen waith fanwl a gellir ei diwygio i ganiatáu newid ym mlaenoriaethau’r pwyllgorau.

I bobl sydd â diddordeb yng ngwaith y pwyllgorau, cyhoeddir eu hagendâu a’r dogfennau cysylltiedig ar y rhyngrwyd, ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud ag eitemau a gaiff eu hystyried yn breifat. Gwneir hyn cyn y cyfarfod gan y tîm clercio.

Ar ôl y cyfarfod, o fewn ychydig ddyddiau, cyhoeddir cofnodion byr o’r hyn a ddigwyddodd, a bydd trawsgrifiad llawn o’r hyn a ddywedwyd ar gael wedyn.

Natur agored pwyllgorau

Pan fydd pwyllgorau yn gwneud gwaith ffurfiol, rhaid iddynt gyfarfod yn gyhoeddus oni bai bod yr amgylchiadau penodol yn golygu bod y Rheolau Sefydlog yn caniatáu iddynt gael eu hystyried yn breifat. Pan fydd pwyllgorau’n cwrdd yn y Senedd, gall pobl wylio’r cyfarfod o’r oriel gyheoddus. Mae’r trefniadau yn gallu bod yn wahanol os bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn man arall. Darlledir y cyfarfodydd ar Senedd TV, sy’n cynnig yr opsiwn o’u gwylio yn ddiweddarach.

Pleidleisio yn y pwyllgorau

Yn wahanol i’r Cyfarfod Llawn, nid yw pwyllgorau’n pleidleisio ar faterion fel rhan o bob cyfarfod. Mae llawer o gyfarfodydd pwyllgor yn digwydd heb fod angen cynnal pleidlais. Er hynny, mae angen pleidlais i gyrraedd penderfyniad ffurfiol ar rai pethau, er enghraifft cytuno ar adroddiad pwyllgor neu gwblhau rhai o gyfnodau’r broses ddeddfu.

Pan fydd angen cynnal pleidlais, rhaid i’r cadeirydd wahodd y pwyllgor i dderbyn y cynnig neu’r gwelliant. Gall hyn ymddangos yn weddol anffurfiol, ac os nad oes gwrthwynebiad gan Aelod, derbynnir y cynnig neu’r gwelliant drwy gonsensws yn y pwyllgor.

Os bydd Aelod yn gwrthwynebu’r hyn a gynigir, rhaid cynnal pleidlais drwy ddangos dwylo. Os bydd aelod o’r pwyllgor yn gofyn i’r bleidlais gael ei chofnodi, bydd enwau’r rhai sy’n pleidleisio yn cael eu cofnodi yn y cofnod byr o drafodion y pwyllgor.

Partners & Help