Manylion y pwyllgor
Newyddion
- Bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Chwefror 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF 709KB) ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Pysgodfeydd - Chwefror 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch craffu ar ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit– 6 Chwefror 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF 266KB) ar Graffu ar reoliadau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Adroddiad cynnydd - Chwefror 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF 223KB) ar y Cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Ionawr 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi canllaw (PDF 275KB) i’r broses o graffu ar y rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) – 22 Ionawr 2019.
- Mae ein hymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) bellach wedi cau.
- Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd - datganiad 17 Ionawr 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth – 4 Ionawr 2019.
- Mae'r Pwyllgor wedi cytuno ar Brotocol gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer craffu ar y rheoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd - 29 Hydref 2018.
Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddMCD
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin 2016 i cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Dolenni cyflym
Is-ddeddfwriaeth
Deddfwriaeth arall
Ymholiadau Cyfredol
Ffrydiau gwaith eraill
Biliau'r Cynulliad sy’n destun gwaith craffu ar hyn o bryd
Gwaith wedi’i gwblhau gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adran-Aelodau






Aelodaeth
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Gareth Williams.
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 0300 200 6362
E-bost: SeneddMCD@cynulliad.cymru