Canllaw i'r Broses Ddeddfu
Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Cynulliad ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf Cynulliad’. Gall y Cynulliad basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).
Canllawiau a Dogfennau Deddfwriaeth
Mae'r lincs a'r dogfennau isod yn cynnig gwybodaeth manwl am brosesau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Canllaw i Filiau a Deddfau Cyhoeddus
Gall Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Cynulliad, Aelod unigol neu Gomisiwn y Cynulliad gynnig Bil Cyhoeddus. Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i Filiau Cyhoeddus wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26.
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:
- Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
- Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
- Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
- Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Bil.
Mae cyfnod diwygio ychwanegol dewisol, a elwir yn gyfnod adrodd, y gellir ei gynnwys rhwng cyfnodau 3 a 4, os bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnig hynny a bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo.
Canllaw i Filiau Preifat
Caiff Bil Preifat ei gyflwno gan unigolyn neu sefydliad y tu allan i’r Cynulliad er mwyn cael pwerau sy’n ychwanegol at y gyfraith gyffredinol, neu yn groes iddi. Mae gweithdrefnau’r Cynulliad mewn perthynas â Biliau Preifat wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26A.
Nid oes Biliau Preifat ar y gweill ar hyn o bryd.
Balot ar gyfer Biliau Aelodau
O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal Balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw Aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau gyflwyno’r wybodaeth sy’n angenrheidiol cyn y balot yn unol â Rheol Sefydlog 26.90.
Penderfyniadau’r Llywydd o ran Ffurf Briodol