Ymddygiad, Rheolau a Chanllawiau
Mae rheolau a gweithdrefnau'r Cynulliad wedi'u nodi yn y Rheolau Sefydlog, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru (2006), a fe'u gorfodir gan y Llywydd, sef yr awdurdod uchaf yn y Cynulliad.
Mae dau gorff annibynnol allanol hefyd yn rhan o lunio canllawiau a rheolau ymddygiad y Cynulliad. Mae rôl Comisiynydd Safonau yn cynnwys cynghori'r Cynulliad ar y Cod Ymddygiad Aelodau'r Cynulliad a'r canllawiau cysylltedig, ac ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad. YBwrdd Taliadau sy'n gyfrifol am bennu tâl, lwfansau ac adnoddau Aelodau.
Rheolau Sefydlog
Caiff gweithdrefnau'r Cynulliad eu rheoli gan ei Reolau Sefydlog. Mae'r rheolau hyn yn ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006
Trawslwytho:
Canllawiau'r Llywydd
Rôl Llywydd yw'r un swyddfa bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n adlewyrchu rolau Siaradwyr a Swyddogion Llywyddu mewn senedd ar draws y byd.
Gwaithdrefn Arbennig
Gosod busnes y Cynulliad a penderfyniadau o ran Ffurf Briodol
Amserlen y Cynulliad
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno amserlen a thoriadau'r Cynulliad.
Gweld hefyd:
Os ydych yn newydd i Fusnes y Cynulliad a'r termau a ddefnyddir i ddisgrifio ei weithdrefnau ac allbynnau, ewch i'r adran cymorth. Mae’r Comisiynydd Safonau yn ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad neu’r Rheolau Sefydlog, ac mae’n rhoi cyngor a chymorth ynghylch materion o egwyddor.
Bwrdd annibynnol yw’r Bwrdd Taliadau, a sefydlwyd yn 2010 i edrych ar gyflog a lwfansau Aelodau’r Cynulliad. Prif swyddogaeth y Bwrdd yw sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad yr adnoddau cywir