Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Llywodraethu Cymru: Pwy sy’n gyfrifol am beth?

Floor

Gwleidyddiaeth yn y DU

Gwladwriaeth unedol yw’r Deyrnas Unedig, ac mae pŵer wedi’i ganoli mewn senedd yn San Steffan. Yn ystod 1998 a 1999, cafodd rhai o bwerau a chyfrifoldebau Senedd y DU eu datganoli i gyrff etholedig eraill gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Yng Nghymru, rhoddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru; mae Senedd a Llywodraeth y DU, fodd bynnag, yn parhau i fod â phwerau sylweddol mewn perthynas â Chymru ac mae ganddynt gryn dipyn o ddylanwad dros faterion Cymru.

Gan fod y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mae Cymru hefyd yn ddarostyngedig i benderfyniadau a wneir ar lefel yr UE am ddeddfwriaeth a pholisïau sy’n gymwys i’r holl aelod-wladwriaeth.

Mae rhagor o fanylion am bob un o’r sefydliadau hyn ynghyd â braslun o’u hamrywiol bwerau a chyfrifoldebau wedi’u cynnwys isod. Mae dwy astudiaeth achos wedi’u cynnwys hefyd i ddangos pwy sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n ymwneud â Chymru a sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud.

Yr Undeb Ewropeaidd

Drwy ddau gytuniad craidd yr UE (Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd) a gafodd eu diweddaru ddiwethaf gan Gytuniad Lisbon yn 2009, mae’r DU wedi grymuso sefydliadau’r UE (y Cyngor Ewropeaidd / Cyngor y Gweinidogion, y Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop) i wneud ac i fabwysiadu deddfau.

Caiff y deddfau hyn eu gwneud i integreiddio a chysoni gwahanol systemau economaidd a gwleidyddol fwyfwy ac i sefydlu marchnad sengl o fewn aelod-wladwriaethau’r UE sy’n caniatáu i nwyddau, pobl, arian a gwasanaethau symud yn rhydd.

Mewn rhai meysydd polisi arbennig, mae’r aelod-wladwriaethau wedi trosglwyddo’u holl awdurdod i wneud deddfau i’r UE. Dyma’r meysydd hynny:

  • undeb tollau;

  • sefydlu’r rheolau cystadlu sydd eu hangen i fedru gweithredu’r farchnad fewnol;

  • polisi ariannol i’r aelod-wladwriaethau hynny sy’n defnyddio’r ewro;

  • diogelu adnoddau biolegol y môr o dan y polisi pysgodfeydd cyffredin;

  • polisi masnachol cyffredin.

Mewn meysydd eraill, rhennir y cyfrifoldeb dros wneud deddfau rhwng yr UE a llywodraethau cenedlaethol, sef:

  • y farchnad fewnol;

  • polisi cymdeithasol;

  • cydlyniant economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol;

  • amaethyddiaeth a physgodfeydd, ac eithrio diogelu adnoddau biolegol y môr;

  • yr amgylchedd;

  • diogelu defnyddwyr;

  • trafnidiaeth;

  • rhwydweithiau traws Ewropeaidd;

  • ynni;

  • rhyddid, diogelwch a chyfiawnder

  • pryderon diogelwch cyffredin mewn materion iechyd cyhoeddus.

Yn ogystal â hyn, mae meysydd yn ymwneud â chefnogi gwaith cydgysylltiol neu gyflenwol rhwng aelod-wladwriaethau a’r UE yn cynnwys:

  • diogelu a gwella iechyd pobl;

  • diwydiant;

  • diwylliant;

  • twristiaeth;

  • addysg, ieuenctid, chwaraeon a hyfforddiant galwedigaethol;

  • diogelwch sifil

  • cydweithrediad gweinyddol.

Mae cytuniadau craidd yr UE hefyd wedi darparu ar gyfer cydgysylltu polisïau economaidd a pholisïau cyflogaeth rhwng yr aelod-wladwriaethau a’r UE yn ogystal â datblygu polisïau cyffredin ym maes materion tramor a diogelwch.

Llywodraeth a Senedd y DU

Heblaw am y meysydd hynny y mae’r UE yn llwyr gyfrifol amdanynt, mae Senedd y DU yn parhau’n sofran mewn perthynas â holl ddeddfau’r DU a gall barhau i ddeddfu, yn ddamcaniaethol ac mewn ffaith, ym mhob maes sy’n ymwneud â Chymru. Yn ôl confensiwn, fodd bynnag, nid yw’n deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol neu i Weinidogion Cymru heb sicrhau cydsyniad  y Cynulliad Cenedlaethol drwy gyfrwng Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae hyn wedi'i nodi yn y Memorandwm Dealltwriaeth y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon ar 8 Mehefin 2011. Mae hefyd wedi'i adlewyrchu yn adran 2 o Ddeddf Cymru 2017.

Ymhlith yr enghreifftiau o feysydd sydd wedi'u cadw, ac nad ydynt felly wedi'u datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae: 

  • Awdurdoaeth gyfreithiol sengl Cymru a Lloegr;

  • Cysylltiadau â'r UE;

  • Amddiffyn y wlad;

  • Bancio;

  • Mewnfudo;

  • Plismona;

  • Gwerthu a chyflenwi alcohol;

  • Rheoleiddio gwyliau pecyn;

  • Swyddfeydd post;

  • Masnachu ar y Sul;

  • Cyflenwi trydan;

  • Olew a nwy;

  • Ynni niwclear;

  • Torseddau traffig ar y ffordd;

  • Hofrenfad;

  • Rheoleiddio meddygon a deintyddion;

  • Cysylltiadau diwydiannol a chyflogaeth;

  • Erthyliad;

  • Meddyginiaethau;

  • Darlledu;

  • Cymorth cyfreithiol;

  • Carchardai;

Mae trethiant, gan mwyaf, yn parhau'n gyfrifoldeb Llywodraeth a Senedd y DU. Fodd bynnag, ,ae pwerau wedi'u datganoli i godi treth dirlenwi a threth trafodiadau tir, ynghyd â gosod y dreth gyngor ac ardrethi busnes ac, o 2019, i amrywio cyfraddau'r dreth incwm. Trysorlys EM sy’n gyfrifol am bolisïau ariannol a macroeconomaidd ac am ddyrannu arian cyhoeddus ledled y DU. Caiff yr arian a ddyrennir i'r gweinyddiaethau datganoledig ei bennu mewn adolygiadau o wariant, ochr yn ochr â chyllid i adrannau Llywodraeth y DU. Daw'r arian hwn ar ffurf grant gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol a bydd Senedd y DU yn pleidleisio ar y mater.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i basio cyfreithiau (sef Deddfau’r Cynulliad) mewn meysydd nad ydynt wedi'u cadw gan Senedd y DU yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017). Mae'r ffeithlun hwn yn egluro sut y mae'r Model Cadw Pwerau yn gweithio mewn perthynas â datganoli yng Nghymru, mae'n rhestru materion a gedwir na all Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu yn eu cylch, ac mae'n nodi't cyfyngiadau eraill ar bwerau'r Cynulliad i ddeddfu. 

Awdurdodau Lleol yng Nghymru

Mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau statudol fel y'u mewn deddfwriaeth, ac mae cyfreithiau a wneir ar lefel Cymru ac ar lefel y DU yn eu grymuso i ddarparu gwasanaethau eraill hefyd. Maent yn darparu rhai o'r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol, yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ac yn comisiynu eraill i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Daw'r rhan fwyaf o'u harian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Er bod y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i gyfreithiau, strategaethau a thargedau a gaiff eu nodi a’u monitro'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddisgresiwn wrth ddarparu a chyflenwi'r gwasanaethau hynny yn eu hardaloedd. 

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau eang ac maent wedi’u nodi mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU a’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r rhestr isod yn rhoi trosolwg o’u pwerau a’u cyfrifoldebau cyffredinol.

  • gwasanaethau cofrestru sifil (genedigaethau, marwolaethau a phriodasau);

  • crwneriaid;

  • amlosgi a chladdu;

  • datblygu economaidd ac adfywio (gan gynnwys pwerau i ddarparu grantiau a chynorthwyo busnesau);

  • addysg (gan gynnwys darparu addysg feithrin, cynradd, uwchradd, llawn amser, 16-19 ac ôl 19 ac eithrio Addysg Uwch);

  • yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid, llygredd sŵn a golau, cerbydau sy’n cael eu gadael, cynnal a chadw tiroedd a pharciau a sbwriel etc);

  • cynllunio at argyfwng;

  • y gwasanaethau tân ac achub;

  • diogelwch bwyd;

  • rhai priffyrdd (o dan y darpariaethau a amlinellir yn Neddf Priffyrdd1980);

  • tai;

  • hamdden a chwaraeon;

  • llyfrgelloedd;

  • trwyddedu (gan gynnwys cyfrifoldeb dros trwyddau alcohol, tacsis, adloniant cyhoeddus a gamblo);

  • parciau cenedlaethol;

  • cynllunio;

  • gwasanaethau cymdeithasol;

  • cynllunio strategol;

  • trafnidiaeth;

  • safonau masnach

  • gwastraff

Astudiaeth achos 1 : Ffyrdd Cymru

Yr Undeb Ewropeaidd

Fel un o aelod-wladwriaethau’r UE, mae’r DU yn ddarostyngedig i amrywiaeth o ddeddfau’r UE sy’n ceisio cysoni’r trefniadau’n ymwneud â ffyrdd a defnyddio ffyrdd yn yr holl aelod-wladwriaethau. Mae Cyfarwyddebau diweddar yr UE yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â chyflwyno trwyddedau gyrru, a’r nod yw annog aelod-wladwriaethau i’w cydnabod ei gilydd a’i gwneud yn haws i bobl symud o fewn yr UE.

Mae’r UE hefyd yn ceisio dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi adroddiadau a dogfennau cyfathrebu nad ydynt yn gyfreithiol-rwym er mwyn ceisio integreiddio polisïau ffyrdd a thrafnidiaeth aelod-wladwriaethau’r UE ac i hybu arfer da mewn rhai meysydd penodol yn ymwneud â pholisïau trafnidiaeth, fel diogelwch ar y ffyrdd a safonau technegol cerbydau.

Mae’r UE hefyd yn cydweithio â’r DU ac aelod-wladwriaethau eraill i ddatblygu’r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) sy’n amcanu i sefydlu un rhwydwaith trafnidiaeth sy’n integreiddio ffyrdd ar y tir, ar y môr ac yn yr awyr ledled yr UE .

Llywodraeth a Senedd y DU

Mae Llywodraeth y DU, drwy’r Adran Drafnidiaeth a’i hasiantaethau gweithredol (megis y DVLA, yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yr Awdurdod Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr a’r Asiantaeth Trwyddedu Cerbydau) yn gyfrifol am droseddau traffig ar y ffordd, trwyddedu gyrwyr, esemptiadau rhag terfynau cyflymder, yswiriant cerbydau a chofrestriad cerbydau (mewn geiriau eraill, dyma'r holl faterion sydd wedi'u cadw ac sydd felly y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad).

Mae'r drefn gyhoeddus ac atal, darganfod ac ymchwilio i droseddau yn faterion sydd wedi'u cadw gan Senedd y DU. Mae plismona hefyd yn faterion sydd wedi'i gadw, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw felly.

Caiff Llywodraeth y DU ei dwyn i gyfrif gan ddau dy Senedd y DU, sydd hefyd yn cadw'r hawl i ddeddfu ym mhob maes sy'n ymwneud â ffyrdd a cherbydau ar draws y DU (o fewn y fframwaith sydd wedi'i amlinellu gan yr UE). Os yw Senedd y DU am ddeddfu mewn maes sydd o fewn cwmpas pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl confensiwn mae'n ofynnol cael cydsyniad y Cynulliad yn gyntaf (drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol). 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cyflawni’u dyletswyddau mewn perthynas â’r uchod drwy eu gwneud yn atebol am eu penderfyniadau yn y Cyfarfod Llawn ac yn Nghyfarfodydd y Pwyllgorau, a thrwy gyflwyno cwestiynau llafar ac ysgrifenedig i Weinidogion Cymru. Mae gan y Cynulliad bwerau i ddeddfu ar faterion trafnidiaeth nad ydynt wedi'u cadw yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau dros y meysydd a ganlyn mewn perthynas â ffyrdd yng Nghymru:

  • Llywodraeth Cymru yw’r Awdurdod Priffyrdd dros holl gefnffyrdd Cymru (h.y. yr holl draffyrdd a rhai ffyrdd A) ac mae’n gyfrifol am gynnal a chadw’r ffyrdd hyn. Mae tair Asiantaeth Cefnffyrdd - un yn y Gogledd, un yn y Canolbarth a’r llall yn y De – yn ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw hwn ar ran Lywodraeth Cymru gan weithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eu hardaloedd.

  • Mae’n gyfrifol am reoli traffig ar holl gefnffyrdd Cymru.

  • Mae’n gyfrifol am adnewyddu rhai ffyrdd, pontydd a rhai adeileddau ac am adeiladu ffyrdd newydd a gwella’r ffyrdd presennol.

  • Mae gan Weinidogion Cymru hefyd bwerau dros brisio cefnffyrdd Cymru.

Mae hefyd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi ac adolygu'n rheolaidd Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn rheolaidd, sy'n pennu'r polisïau ar gyfer cyfleusterau trefnidiaeth i Gymru ac o Gymru, â'r rheini'n ddiogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac enomaidd. Caiff yr amcanion hyn eu cyflawni drwy Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (sy’n cynnwys manylion cynlluniau ffyrdd mawr) a drwy Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a gaiff eu llunio gan grwpiau o awdurdodau lleol mewn consortia trafnidiaeth rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau monitro traffig ychwanegol drwy wefan Traffig Cymru ac mae’n darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru drwy wasanaeth Traveline Cymru.

Awdurdodau lleol Cymru

Mae awdurdodau lleol yn cadw amrywiaeth o gyfrifoldebau mewn perthynas â ffyrdd gan gynnwys:

  • dyletswyddau rheoli rhwydwaith ffyrdd;

  • rheoli parcio

  • monitro cludiant cyhoeddus.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn Awdurdodau Priffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd (y ffyrdd hynny nad ydynt yn draffyrdd nac yn ffyrdd A). O ganlyniad, gallant hefyd brynu tir i adeiladu priffordd, nad yw’n gefnffordd, sydd i’w chynnal a chadw ar draul y pwrs cyhoeddus.

Mae gan awdurdodau lleol swyddogaethau arbennig mewn perthynas â rheoli traffig, gan gynnwys gosod terfynau cyflymder lleol a rheoli pwy sy’n gyfrifol am osod arwyddion traffig a lle y cânt eu gosod.

Mae pob awdurdod lleol yn perthyn i un o’r pedwar consortia trafnidiaeth rhanbarthol ac yn cyfrannu at Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.


 

Astudiaeth achos 2: Rheoli gwastraff ac ailgylchu

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae gan yr Undeb Ewropeaidd rôl yn y gwaith o gydgysylltu ymdrechion ei aelod-wladwriaethau i leihau’r gwastraff a gaiff ei waredu drwy atal rhai mathau o wastraff rhag cael eu cynhyrchu, drwy reoleiddio’r broses o waredu rhai mathau o wastraff a drwy hybu dulliau o ailgylchu sy’n ddichonadwy’n economaidd ac yn ecolegol.

Yn benodol, drwy ei Chyfarwyddeb Gwastraff, mae’r UE wedi gosod fframwaith cyfreithiol cyffredinol ar gyfer trin gwastraff sy’n ceisio diogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl drwy atal effeithiau niweidiol cynhyrchu gwastraff a rheoli gwastraff. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau :

  • gymryd camau i drin eu gwatraff yn unol â ‘hierarchiaeth gwastraff’;

  • trin gwastraff eu hunain (neu gydweithredu i sefydlu rhwydwaith o gyfleusterau gwaredu gwastraff os oes angen);

  • cyhoeddi trwyddedau i sefydliadau sy’n ymgymryd â’r gwaith o drin gwastraff er mwyn monitro a rheoli gweithreddiadau;

  • sefydlu un cynllun rheoli neu ragor ar gyfer holl diriogaeth yr aelod-wladwriaeth dan sylw (a gaiff eu hanfon gan yr aelod-wladwriaethau i’r Comisiwn Ewropeaidd).

Llywodraeth a Senedd y DU

Mae’r rhan fwyaf o’r penderfyniadau a’r cyfrifoldebau’n ymwneud â rheoli gwastraff yng Nghymru wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Mae Llywodraeth y DU, drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig  (Defra), a Senedd y DU, o ganlyniad, yn gyfrifol am y trefniadau cyfatebol mewn perthynas â rheoli gwastraff yn Lloegr.

Fodd bynnag, mae'r cyfrifoldeb dros waredu gwastraff niwclear a sylweddau ymbelydrol peryglus (heblaw am waredu gwastraff ymbelydrol lefel isel iawn sydd wedi'i symud o'r safle) yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, drwy'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Os bydd Senedd y DU am basio cyfraith sy'n ymwneud â gwastraff datganoledig neu fater ynghylch ailgylch a fyddai'n gymwys i Gymru, byddai arni angen cydsyniad y Cynulliad cEnedlaethol cyn gwneud hynny (drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol).

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod targedau manwl ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas ag ailgylchu, compostio ac ailddefnyddio er mwyn cyrraedd ei nod o ailgylchu o leiaf 70 y cant o wastraff Cymru erbyn 2025. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am osod a monitro targedau awdurdodau lleol mewn perthynas â thirlenwi o dan Gyfarwyddeb Tirlenwi’r UE. Wrth weithio tuag at hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio o fewn y fframwaith a osodwyd gan Gyfarwyddeb yr UE ar Wastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi i :

  • osod targedau tirlenwi i awdurdodau lleol;

  • monitro cynnydd

  • cynhyrchu adroddiadau rheoli gwastraff trefol yn nodi i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cadw at y fframwaith.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd y pŵer i leihau'r graddau y gwaredir y deunydd sy'n cael yr effaith fwyaf sylweddol ar ôl-troed ecolegel Cymru, sef gwastraff bwyd, papur a chardfwrdd pren, metelau a phlastig yn bennaf. Ar hyn o bryd, mae’n gwneud hyn drwy:

  • hwyluso’r broses o ddatblygu cyfleusterau trin gwastraff trefol yn lle defnyddio safleoedd tirlenwi;

  • codi tâl am fagiau plastig i annog pobl i ddefnyddio bagiau siopa untro.

Mae pwerau Gweinidogion Cymru i roi’r cynigion hyn ar waith yn deillio'n rhannol o Fesur Gwastraff Cymru 2010 a gafodd ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2010 ac sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru osod targedau ailgylchu penodol ar gyfer awdurdodau lleol, ac sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wahardd neu gyfyngu rhai mathau o wastraff rhag cael eu gwaredu ar safleoedd tirlenwi.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod targedau ailgylchu a thargedau tirlenwi’r Llywodraeth yn addas ar gyfer yr awdurdodau lleol dan sylw a bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo i fonitro a yw’r awdurdodau lleol yn cydymffurfio a’i bod yn rhoi ei pholisïau ei hun ar waith yn briodol ac yn rhesymol.

Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hefyd bwerau eang i basio deddfwriaeth mewn perthynas â’r amgylchedd gan fod hwn, yn gyffredinol, yn faes sydd heb ei gadw i Senedd y DU.

Awdurdodau lleol Cymru

Mae gan Awdurdodau lleol Cymru gyfrifoldeb statudol i gasglu ac i waredu gwastraff trefol. Mae hyn yn cynnwys:

  • casglu gwastraff o gartrefi’n rheolaidd;

  • casglu deunyddiau i’w hailgylchu;

  • casglu eitemau swmpus;

  • casglu gwastraff sy’n cyrraedd safleoedd amwynder dinesig

  • gwastraff a gesglir o ffynonellau nad ydynt yn gartrefi.

Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswydd statudol i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Caiff y cyfrifoldebau hyn eu monitro a’u rheoli gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol i ddatblygu cyfleusterau trin gwastraff cynaliadwy.

 

 

 

 

 

Partners & Help