Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
 

Cwestiynau Cyffredin: Rhaglen Diwygio’r Cynulliad

Dyma’r cwestiynau mwyaf cyffredin ar Raglen Diwygio’r Cynulliad a’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

 

Pasiwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gan Aelodau'r Cynulliad ar 27 Tachwedd 2019.

Mae’r Bil:

  • yn newid enw'r Cynulliad a theitl ei Aelodau;
  • yn gwneud newidiadau i etholfraint y Cynulliad, gan gynnwys gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed a rhoi’r bleidlais i ddinasyddion tramor cymwys;
  • yn newid y gyfraith sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad; ac
  • yn gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad.

Disgwylir y caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2020. Ar ôl iddo gael Cydsyniad Brenhinol bydd y Bil yn dod yn gyfraith. Mae’r Bil yn nodi pryd y daw ei wahanol rannau i rym (er enghraifft, ni fydd enw'r Cynulliad yn newid tan 6 Mai 2020).

Mae gwybodaeth am yr ystyriaeth a roddodd y Cynulliad i'r Bil ar gael yma.

 
 

 

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Pam mae angen newid enw'r Cynulliad?

Mae'r Cynulliad heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd ym 1999. Bryd hynny, nid oedd ganddo unrhyw bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi’i wahanu’n ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae ganddo gyfrifoldeb am ddeddfu ac am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai o’r meysydd sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl.

Ym mis Gorffennaf 2016, cytunodd Aelodau'r Cynulliad yn unfrydol y dylai enw'r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol. Wrth iddyn nhw ystyried y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), trafododd Aelodau'r Cynulliad yr enw newydd arfaethedig. Pasiwyd y Bil gan y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2019 a rhagwelir y bydd yn dod yn gyfraith ym mis Ionawr 2020.

Mae'r Bil yn darparu y bydd y Cynulliad yn cael ei sefydlu'n ffurfiol fel senedd ar 6 Mai 2020 ac y bydd yn cael ei alw’n 'Senedd Cymru’ neu ‘Welsh Parliament'. Mae hyn 12 mis union cyn dyddiad arfaethedig etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021.

A yw'r cyhoedd yn cefnogi newid enw’r Cynulliad?

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. At ei gilydd, cafwyd 2,821 o ymatebion i’r arolwg. Y canfyddiadau allweddol oedd:

  • roedd 60 y cant o'r ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â'r datganiad bod pobl yn deall rôl y Cynulliad yn dda;
  • roedd 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.
Beth fydd enw newydd y Cynulliad?

Ar 6 Mai 2020, bydd y Cynulliad yn dod yn senedd a bydd yn newid ei enw i 'Senedd Cymru’ neu ‘Welsh Parliament'.

Bydd hyn yn adlewyrchu statws cyfansoddiadol y Cynulliad fel senedd genedlaethol i Gymru.

Beth fydd yr enw newydd ar Aelodau'r Cynulliad?

O 6 Mai 2020 ymlaen, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael eu galw'n 'Aelodau o'r Senedd' neu'n ‘Members of the Senedd’.

Pryd fydd yr enw'n newid?

Bydd yr enw cyfreithiol yn newid ar 6 Mai 2020. Mae hyn 12 mis union o ddyddiad arfaethedig etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021, gan ganiatáu amser i bobl ddod yn gyfarwydd â'r enw newydd cyn yr etholiad hwnnw.

Bydd arwyddion, gwefan a deunydd ysgrifennu'r Cynulliad ei hun yn arddangos yr enw newydd o 6 Mai 2020 ymlaen. Er bod sefydliadau eraill yn cael eu hannog i gyfeirio at yr enw cywir o'r dyddiad hwn, disgwylir y bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn raddol dros amser.

 
 

 

Pleidlais i bobl 16 oed

 

Pam mae'r Bil Senedd ac Etholiadau yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16?

Mae sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu'n effeithiol â gwaith y Cynulliad yn flaenoriaeth bwysig i Gomisiwn y Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn credu bod grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc 16 oed i bleidleisio'n ddatganiad pwerus gan y Cynulliad ein bod yn gwerthfawrogi eu barn, gan roi llais iddynt yn nyfodol ein cenedl. Mae'n adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi ei wneud i sefydlu’r Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf erioed.

Cafodd y cynnig i ostwng yr oedran pleidleisio ei argymell gan y Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Roedd canlyniadau ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad yn dangos bod 59 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r cwestiwn perthnasol yn cytuno y dylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Ble arall y gall pobl bleidleisio yn 16 oed?

16 yw'r oedran pleidleisio isaf yn yr Alban, Awstria, Malta, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Roedd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn refferendwm annibyniaeth yr Alban a gall pobl ifanc 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol yn yr Alban ac yn etholiadau Senedd yr Alban.

Faint o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru fyddai'n gymwys i bleidleisio?

Tua 70,000.

Pryd fydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021?

Bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad o 1 Mehefin 2020 ymlaen.

Er mwyn gallu pleidleisio, rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol. Gallwch chi fynd ar y gofrestr etholiadol ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen bapur. Os oes angen help arnoch i gofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Ym mha etholiadau y caniateir i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio?

Mae’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad o 2021 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil sy’n cynnig caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru o 2022, hynny yw y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae Aelodau'r Cynulliad yn ystyried hyn ar hyn o bryd.

Pam nad yw pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau eraill, megis etholiadau San Steffan neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu?

Dim ond pŵer i ddeddfu ar yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau lleol yng Nghymru sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Senedd y DU hefyd yn cadw'r pŵer dros yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau San Steffan, refferenda'r DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Oni fyddai'n drysu pleidleiswyr os yw'r oedran pleidleisio yn wahanol ar gyfer gwahanol etholiadau?

Mae'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau yn yr Alban yn wahanol i etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau San Steffan. Yn 2016, roedd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd yr Alban. Yn 2017, roedd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol ond nid yn etholiad cyffredinol y DU. Mae adroddiadau gan y Comisiwn Etholiadol ar yr etholiadau hynny yn awgrymu nad oedd dryswch mawr ymysg pleidleiswyr.

A yw pobl ifanc 16 oed yn ddigon aeddfed i bleidleisio?

Ystyriodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a oedd gan bobl ifanc 16 oed y wybodaeth wleidyddol, yr aeddfedrwydd a'r annibyniaeth meddwl i bleidleisio. Canfu ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol, yn sgil etholiadau lleol 2017 yn yr Alban, fod pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi ei chael yn haws cael gafael ar wybodaeth am sut i fwrw eu pleidlais na phobl rhwng 18 a 24 oed, a'u bod yn llai tebygol o'i chael yn anodd llenwi eu papur pleidleisio. Rhwng popeth, daeth y Panel Arbenigol i'r casgliad y byddai gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 o 2021 ymlaen yn fodd grymus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad ymhlith pobl ifanc.

Roedd y Panel Arbenigol yn glir, pe bai'r oedran pleidleisio yn cael ei ostwng i 16 oed, y dylai addysg wleidyddol a dinasyddiaeth briodol gyd-fynd â hynny. Pa wybodaeth a chefnogaeth a roddir i bobl ifanc 16 ac 17 oed er mwyn eu paratoi ar gyfer pleidleisio??

Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio, mae’r gostyngiad yn yr oedran pleidleisio yn cael ei gyflwyno law yn llaw ag addysg briodol mewn perthynas â gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda phobl iau, a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc, i gyd-gynhyrchu adnoddau ar gyfer eu hanghenion penodol hwy. Mae hefyd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i gydlynu’r gweithgareddau addysg a chodi ymwybyddiaeth.

 
 

 

Etholfraint

 

Roedd eich ymgynghoriad yn gofyn a ddylai pob un sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. A fydd y Bil yn rhoi’r bleidlais i bob preswylydd cyfreithiol? Beth am ddinasyddion yr UE ar ôl Brexit?

Ar hyn o bryd, gall dinasyddion yr UE a dinasyddion y Gymanwlad bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Ni fydd Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn newid hyn. Bydd dinasyddion y Gymanwlad a dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn dal i allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Er nad oes eglurder eto o ran manylion cytundeb Brexit mewn perthynas â hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gwarchod hawl dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol ar ôl diwrnod ymadawiad y DU â'r UE. Felly, mae Comisiwn y Cynulliad yn fodlon nad oes angen dim camau pellach ar hyn o bryd i warchod hawl dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad.

Diwygiwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn ystod hynt y Bil i ganiatáu i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad o 2021 ymlaen. Bydd hyn yn caniatáu i ddinasyddion sydd â chaniatâd i aros yn y DU, neu sy'n cael eu trin fel rhai sydd â chaniatâd o’r fath, i allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad (ar yr amod nad ydyn nhw'n gallu pleidleisio am reswm arall: fel bod o dan 16 oed, neu'n byw y tu allan i Gymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy’n cynnig caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru o 2022 ymlaen. .

 
 

 

Anghymhwyso

 

Pam newid y rheolau ynghylch pwy na chaiff fod yn Aelod o'r Cynulliad??

Nid yw pawb yn gymwys i fod yn Aelod o’r Cynulliad. Nid yw rhai pobl yn gymwys i fod yn Aelod o’r Cynulliad nac i sefyll etholiad i'r Cynulliad oherwydd y swyddi sydd ganddynt (ee swyddi a allai achosi gwrthdaro buddiannau â bod yn Aelod o'r Cynulliad), neu oherwydd agweddau ar eu hamgylchiadau personol (ee cael eu carcharu am gyfnod o fwy na blwyddyn).

O’r blaen, roedd pob anghymhwysiad yn gwahardd person rhag sefyll i'w ethol i'r Cynulliad. Wedi iddynt gael eu henwebu, roedd yn rhaid i ymgeiswyr ddatgan nad oeddent wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o'r Cynulliad. Pe byddent yn anghymwys, ni allent sefyll etholiad. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i bersonau sydd mewn swyddi neu rolau sy'n eu hanghymhwyso roi'r gorau i'w cyflogaeth er mwyn sefyll i'w hethol i'r Cynulliad.

Mae Comisiwn y Cynulliad am alluogi ac annog mwy o bobl i sefyll i'w hethol. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, bydd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn newid y gyfraith fel bod y rhan fwyaf o'r rhesymau dros anghymhwyso yn gwahardd person rhag cymryd sedd yn y Cynulliad ond nid rhag sefyll i'w ethol. Bydd hyn yn caniatáu i fwy o bobl sefyll i'w hethol a rhoi'r gorau i'r swydd neu'r rôl sy'n eu hanghymhwyso dim ond os cânt eu hethol. Mae'r Bil hefyd yn gwneud y rheolau ar anghymhwyso yn gliriach trwy nodi mewn un darn o gyfraith yr holl waharddiadau rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad.

Mae'r newidiadau i’r gyfraith ar anghymhwyso a wneir gan y Bil yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad yn ei adroddiad ynghylch anghymhwyso.

Pam mae'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn gwahardd Aelodau Tŷ'r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau o’r Cynulliad?

Caiff Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi eu hanghymhwyso rhag gwasanaethu yn y Cynulliad oni bai eu bod wedi gwneud cais am gyfnod o absenoldeb ffurfiol o Dŷ'r Arglwyddi. Gall Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi gymryd cyfnod o absenoldeb o Dŷ'r Arglwyddi, er enghraifft er mwyn gwasanaethu fel Barnwyr yn y Goruchaf Lys. (Ni chaiff person fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi a Barnwr yn y Goruchaf Lys ar yr un pryd).

Mae'r newid hwn i’r gyfraith ar anghymhwyso yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad. Yn ei adroddiad ar anghymhwyso dywedodd fel a ganlyn: “Rydym yn fodlon y gallai gwrthdaro godi rhwng buddiannau pan mae'r gallu gan rywun i wasanaethau dwy ddeddfwrfa sy'n craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a fydd o bosibl yn delio â‘r un maes polisi.”

Pam bod y Bil yn anghymhwyso cynghorwyr awdurdodau lleol rhag bod yn Aelodau o'r Cynulliad?

Fel y cafodd ei ddrafftio’n wreiddiol, nid oedd y Bil yn anghymhwyso cynghorwyr awdurdodau lleol rhag bod yn Aelodau o’r Cynulliad. Fodd bynnag, cynigiodd Llywodraeth Cymru welliannau i'r Bil i anghymhwyso cynghorwyr o'r fath rhag gwasanaethu yn y Cynulliad, ar y sail bod dal y ddwy rôl ar yr un pryd yn amhriodol. Pleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad o blaid gwelliannau Llywodraeth Cymru. Caniateir i gynghorwyr awdurdodau lleol sefyll i'w hethol i'r Cynulliad. Os yw cynghorydd yn llwyddiannus mewn etholiad Cynulliad, bydd yn rhaid iddo ildio'i aelodaeth o'r awdurdod lleol er mwyn gwasanaethu yn y Cynulliad.

Pam mae'r Bil yn gwahardd Aelodau o Senedd yr Alban, Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon) ac Aelodau o Senedd Ewrop rhag bod yn Aelodau o’r Cynulliad?

Mynegodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad y farn y gallai fod gwrthdaro buddiannau wrth wasanaethu dwy ddeddfwrfa ar yr un pryd.

Yn dilyn gwelliannau, mae'r Bil yn darparu y gall Aelodau Senedd yr Alban, Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac Aelodau Senedd Ewrop sefyll i'w hethol i'r Senedd, ond - pe cânt eu hethol - yna byddai'n rhaid iddynt ildio aelodaeth o'u deddfwrfa arall i wasanaethu yn y Cynulliad.

 
 

 

Ariannu’r comisiwn etholiadol a’i atebolrwydd

 

Pam mae'r Bil yn gwneud newidiadau i drefniadau ariannol a goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol?

Mae Comisiwn y Cynulliad o'r farn, gan mai'r Cynulliad sy'n cymryd cyfrifoldeb am etholiadau datganoledig, y dylai'r Cynulliad hefyd fod yn gyfrifol am drefniadau ariannol a goruchwylio ar gyfer etholiadau a refferenda datganoledig.

Barn y Comisiwn Etholiadol yw y dylai gael ei gyllido gan y Cynulliad a bod yn atebol i'r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y DU, am ei waith yn ymwneud ag etholiadau datganoledig.

Felly, mae'r Bil yn darparu bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu gan y Cynulliad am ei waith mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru, a dod yn atebol i'r Cynulliad am y gwaith hwnnw. Bydd y dyddiad y bydd y newid hwn yn digwydd yn cael ei bennu gan Weinidogion Cymru mewn is-ddeddfwriaeth.

 
 

 

Maint y Cynulliad

 

Beth sydd wedi digwydd i argymhellion y Panel Arbenigol y dylid cynyddu maint y Cynulliad erbyn 2021?

A. Cytunodd y Cynulliad ar 10 Gorffennaf 2019 bod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad, ac y dylid gwneud gwaith trawsbleidiol pellach i fwrw ymlaen â hyn. Fodd bynnag, nid oes consensws eto ar y system bleidleisio y dylid ei defnyddio i ethol y sefydliad mwy hwnnw, nac o ran y mesurau a allai annog ethol deddfwrfa fwy amrywiol.

Yn dilyn hynny, cytunodd y Cynulliad ar 18 Medi 2019 i sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Rôl y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad. Bydd mewn sefyllfa dda i sicrhau bod ystyriaeth o faint y Cynulliad a’i drefniadau etholiadol yn cael ei wneud mewn ffordd dryloyw, drawsbleidiol. Cyfarfu'r Pwyllgor am y tro cyntaf ar 21 Hydref 2019 a bydd yn llunio adroddiad ar ei ganfyddiadau maes o law. .

 
 

 

Y broses

 

Pam mae diwygio’r Cynulluiad yn flaenoriaeth nawr o ystyried materion pwysig eraill a phwysau ariannol?

Mae llawer o flaenoriaethau a heriau pwysig yng Nghymru. Tasg y Cynulliad Cenedlaethol yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Gyda chymaint o faterion i'w hystyried, mae'n briodol ein bod yn sicrhau bod ein senedd mor effeithiol, hygyrch ac amrywiol â phosibl ac yn gallu gweithredu ar y materion sy'n bwysig i bobl Cymru.

Gyda phwy wnaethoch chi ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig? Sut allai pobl gymryd rhan?

Gwnaeth y Comisiwn ymdrech fawr i wneud y broses ymgynghori mor hygyrch â phosibl drwy ei ymgynghoriad Creu Senedd i Gymru. Yn ogystal â dogfen ymgynghori ffurfiol, cyhoeddodd ddeunyddiau ymgynghori Easy Read, a microwefan hygyrch gydag arolygon ar-lein i helpu pobl i ymateb ar yr holl faterion neu'r rhai a oedd o ddiddordeb iddynt yn unig.

Yn ogystal â hyrwyddo ar-lein a chyhoeddusrwydd mwy traddodiadol, cynhaliodd y Comisiwn gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru a oedd yn caniatáu dadlau a herio adeiladol. Mae'r Comisiwn yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran a'r rhai wnaeth helpu i gynnal y cyfarfodydd. Yn ogystal, roedd tîm allgymorth y Cynulliad hefyd yn ymwneud yn uniongyrchol â thros 400 o blant a phobl ifanc. Cafwyd dros 3,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad, o bob rhan o Gymru, gan gynnwys 37 o ymatebion gan sefydliadau. Hefyd, cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad ar wahân ar gynigion i newid enw’r Cynulliad.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pasiwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gan y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2019, drwy fwyafrif o 41 i 19 o bleidleisiau.

Disgwylir y caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2020. Yr adeg honno, bydd yn dod yn gyfraith.

Fodd bynnag, ni fydd holl ddarpariaethau'r Bil yn dod i rym ar unwaith. Er enghraifft, ni fydd y newid enw yn dod i rym tan 6 Mai 2020 ac ni chaniateir i bobl ifanc 16 ac 17 oed gofrestru i bleidleisio tan 1 Mehefin 2020.

Gwneir gwaith i weithredu'r Bil mewn pryd ar gyfer etholiadau 2021. Er enghraifft, bydd arwyddion ar ystâd y Cynulliad yn cael eu newid i adlewyrchu'r enw newydd a bydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael yr holl wybodaeth a chymorth sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn arfer eu hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad.

Yn yr un modd â phob deddfwriaeth arall, mae'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi bod yn destun prosesau craffu deddfwriaethol y Cynulliad. Cewch ragor o wybodaeth am y broses hon ar dudalen y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar y we.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cyflwynwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ym mis Chwefror 2019.

Fel yn achos unrhyw ddeddfwriaeth, mae'n rhaid i'r Bil fynd drwy brosesau craffu deddfwriaethol y Cynulliad.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fu arwain cyfnod cyntaf y gwaith o graffu ar y Bil. Hefyd, bu’r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar gost y Bil. Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 10 Gorffennaf 2019. Felly, mae'r Bil wedi cwblhau Cyfnod 2 o’r broses ddeddfwriaethol, lle cafodd y Bil ei ystyried fesul llinell, a chafodd yr Aelodau y cyfle i gynnig newidiadau. Cyfnod 3 fydd y cyfnod nesaf, lle bydd modd trafod gwelliannau pellach.

Bydd angen “uwch-fwyafrif” ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn ei gyfnod deddfwriaethol olaf; Mae hyn yn golygu y bydd angen i o leiaf 40 allan o 60 Aelodau bleidleisio o blaid y Bil.

Bydd yr amserlen hon yn caniatáu i newidiadau gael eu gweithredu mewn pryd ar gyfer etholiadau 2021.

 


Title


 

 
 


Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau i ddatblygu prif elfennau o'i raglen i ddiwygio senedd Cymru.  

Darllenwch ragor

 
Mae eich barn yn bwysig

Eich Cynulliad chi ydym ni, ac rydym ni yma i’ch cynrychioli chi.

Darllenwch ragor am sut y gallwch helpu i lywio ein gwaith.

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Cynulliad

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf

 

 


 

 

 

Partners & Help