Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :


 

Adnewyddu Ein Democratiaeth


Mae Comisiwn y Cynulliad yn arwain diwygiadau i helpu i greu democratiaeth sy'n addas at y dyfodol.

Dilynwch y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) >

 

Rhaglen Diwygio'r Cynulliad

 

Mae Cymru wedi newid yn sylweddol ers i ni bleidleisio i sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1997.

Ar ôl 20 mlynedd yn cynrychioli pobl Cymru, mae Comisiwn y Cynulliad o'r farn ei bod yn bryd bellach inni drawsnewid ein Cynulliad am heriau newydd a helpu i greu democratiaeth Gymreig sy'n addas at y dyfodol.

Mae'n cyflawni'r diwygiadau hyn mewn dau gam.

Yn y cam cyntaf, mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnig cyfraith newydd, sef y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i ostwng yr oedran pleidleisio, newid enw'r Cynulliad a gwneud newidiadau pwysig eraill.

Cyflwynwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror 2019.

 

 

 

Pleidlais i bobl 16 oed

Bydd y Bil Senedd ac Etholiadau yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

The proposed new law will put Wales firmly on the road towards votes at 16 becoming a reality for 2021. Empowering 16 and 17 year olds to vote at Welsh general elections, giving them a voice on decisions that will define their future.

Rhagor o wybodaeth am bleidleisiau i bobl 16 oed >

 

 

 

 

Newid enw'r Cynulliad

Bydd y Bil Senedd ac Etholiadau yn newid enw'r Cynulliad yn 'Senedd'.

Bwriedir i enw'r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol. Defnyddir yr enw 'Senedd' yn eang a chaiff ei gydnabod yng Nghymru, ac mae'n perthyn i deulu rhyngwladol o enwau a ddefnyddir i ddisgrifio deddfwrfeydd cenedlaethol. 

Rhagor o wybodaeth am newid yr enw >

 

 
 

 

 

 

 

 

Gweinyddu etholiadau yng Nghymru

Bydd y Bil yn dweud yn glir wrth ddarpar ymgeiswyr i'r Senedd a ydyn nhw'n gymwys i sefyll etholiad. Bydd yn galluogi mwy o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf.

Hefyd, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd adolygu'r trefniadau ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol a'i atebolrwydd ar gyfer etholiadau datganoledig, a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad.

Rhagor o wybodaeth >

 

 
 
 

 

"Y bwriad yw mai pleidleisiau yn 16 oed ac ailenwi'r Cynulliad fydd y cam cyntaf yn rhaglen ddiwygio ehangach y Cynulliad. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i greu democratiaeth yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol erbyn 2021."

- Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Darllenwch ragor >

 
 

 

Craffu ar y Bil

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fydd yn arwain y gwaith o graffu ar gam cyntaf y Bil. Bydd yn cael tystiolaeth gan y cyhoedd ynghylch egwyddorion cyffredinol y Bil, ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â hwy.

Yn ogystal, bydd y Pwyllgor Cyllid yn gwneud gwaith craffu manwl ar y costau dan sylw.

Dilynir y gwaith o ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil gan waith craffu llinell wrth linell gan y Cynulliad cyfan.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol >

Y Pwyllgor Cyllid >

 
 

 

 

 

 

Diwygio'r Cynulliad: Cam 2

 

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynglŷn â nifer yr Aelodau Cynulliad sydd eu hangen ar Gymru, sut maent yn cael eu hethol a sut mae sicrhau bod y Cynulliad yn adlewyrchu'n llawn y cymunedau a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Gan na chafwyd consensws gwleidyddol ar y materion hyd yma, mae'r Comisiwn wedi penderfynu nad yw'n bosib deddfu ar gam 2 y broses o ddiwygio’r trefniadau etholiadol yn ystod y Cynulliad hwn.

Fodd bynnag, bydd gwaith y Comisiwn i archwilio materion sy'n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y dylid ethol ei Aelodau yn parhau ac yn cynorthwyo'r drafodaeth gyhoeddus a'r pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn.

 

 

 

 
 

 

Nid yw democratiaeth yn sefyll yn ei unfan.

Cael rhagor o wybodaeth a chefndir Rhaglen Diwygio'r Cynulliad.

 

Amserlen Diwygio'r Cynulliad

Dysgwch ragor am y gwaith sydd ar y gweill i helpu i greu democratiaeth yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol.

Dysgwch ragor am amserlen y broses ddiwygio >

 

Cwestiynau cyffredin

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am raglen ddiwygio'r Cynulliad.

Cwestiynau Cyffredin>

 

Canlyniadau'r Ymgynghoriad Cyhoeddus

Dysgwch ragor am yr ymgynghoriad cyhoeddus 'Creu Senedd i Gymru', a chael y canlyniadau.

Rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus >

 

Beth yw Comisiwn y Cynulliad?

Corff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad.

Rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Cynulliad >


 

 

 

Cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf

Cael yr holl newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wrth iddo symud ymlaen.

 

Gweld popeth >

Cofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf >

 

 

 

Title



Partners & Help