Canlyniadau ymgynghoriad Diwygio'r Cynulliad.
Ym mis Chwefror 2018, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y
Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef "Senedd sy'n Gweithio i Gymru", a diwygiadau posibl eraill.
Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus sgwrs â phobl a chymunedau Cymru am sut y dylai eu senedd eu cynrychioli a'u gwasanaethu yn y dyfodol.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad, ymgysylltu â'r cyhoedd ac â rhanddeiliaid, a'i gwneud mor rhwydd â phosibl i bobl ymateb, gwnaethom gyhoeddi nifer o ddeunyddiau ymgynghori, gan gynnwys dogfen ymgynghori hawdd ei darllen a microwefan hygyrch.
Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar-lein, trwy gyfryngau traddodiadol a chyfryngau cymdeithasol. Hefyd, gwnaethom gynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru, gan greu cyfleoedd ar gyfer dadlau a herio adeiladol. Bu inni hefyd ymgysylltu yn uniongyrchol â dros 400 o blant a phobl ifanc.
Cawsom dros
3,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mae canfyddiadau llawn ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn, 'Creu Senedd i Gymru', wedi'u cyhoeddi ac maent ar gael ar-lein, ynghyd â fersiwn hawdd ei darllen a chrynodeb o'r prif ganfyddiadau, gan gynnwys:
Cafwyd dros 1,800 o ymatebion i gwestiynau am faint y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r mwyafrif yn nodi bod ar y sefydliad angen mwy o Aelodau i gyflawni ei rôl yn effeithiol.
System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy oedd dewis clir y rhai a atebodd gwestiynau ynghylch sut y dylid ethol Aelodau'r Cynulliad. Cafodd gefnogaeth 54% o'r rhai a atebodd gwestiynau am y systemau a argymhellir gan y Panel Arbenigol, o gymharu â 17% ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Hyblyg, a 16% ar gyfer y system Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg a ddefnyddir ar hyn o bryd. Nid oedd 13% o'r ymatebion yn cefnogi yr un o'r tair system a gynigiwyd gan y Panel Arbenigol.
Dywedodd 59% o'r ymatebion mewn perthynas â'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai fod yn 16, o'i gymharu â 39% a ddywedodd y dylai fod yn 18 oed.
Ar gwestiwn ynghylch a ddylai'r un bobl gael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, roedd mwyafrif o'r rhai a atebodd naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf.
Ymhlith y rhai a ymatebodd i gwestiwn ar amrywiaeth, roedd cefnogaeth glir i'r cynnig y dylid newid y system etholiadol er mwyn annog ethol Cynulliad sy'n adlewyrchu'n agosach natur amrywiol cymdeithas Cymru. O'r ymatebion i'r cwestiwn ar wahân am a ddylai Aelodau gael rhannu swyddi, roedd 52% yn anghytuno y dylai pobl allu sefyll ar gyfer eu hethol ar y sail hon
---
---
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau i ddatblygu prif elfennau o'i raglen i ddiwygio senedd Cymru.
Darllenwch ragor