Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad

Mae'r Cynulliad bellach yn cyflwyno cyfreithiau ac yn penderfynu ar drethi, yn ogystal â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a sicrhau ffocws canolog ar gyfer trafodaethau democrataidd ar faterion sy'n bwysig i bobl Cymru.

 

Mae'r Cynulliad heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd ym 1999.

Ar y pryd, nid oedd ganddo unrhyw bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi'i wahanu'n ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae'n gyfrifol am ddeddfu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai o'r meysydd sydd â'r effaith fwyaf ar fywydau pobl yng Nghymru.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol bellach yn gweithredu ar sail model newydd cadw pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017, gyda chyfrifoldebau dros y trethi Cymreig cyntaf ers 800 mlynedd, gan gynnwys pwerau i amrywio treth incwm.

Mae Deddf Cymru 2017 hefyd yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad wneud penderfyniadau mewn perthynas â maint y sefydliad a sut y mae'r Aelodau'n cael eu hethol.

Ym mis Chwefror 2018, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef "Senedd sy'n Gweithio i Gymru".

Bu'r Panel yn ystyried capasiti'r Cynulliad i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, a daeth i'r casgliad fod y Cynulliad, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bu'r Panel yn ystyried hefyd sut y dylid ethol yr Aelodau, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Yn ogystal ag argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys newidiadau posibl eraill i bwy all bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, pwy sy’n cael bod yn Aelod Cynulliad, a newidiadau i’r gyfraith sy'n ymwneud â gweinyddiaeth etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill 2018.

Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a chyhoeddir adroddiad ar yr ymgynghoriad maes o law.


Enw'r Cynulliad Cenedlaethol

 

Ym mis Gorffennaf 2016, cytunodd Aelodau'r Cynulliad yn unfrydol y dylai enw'r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

Ymgynghorodd Comisiwn y Cynulliad â'r cyhoedd rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017.

Dangosodd yr ymgynghoriad fod 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

Yr enw a oedd yn disgrifio orau rôl a chyfrifoldeb y sefydliad yn ôl yr ymatebwyr oedd: Senedd Cymru / Welsh Parliament.

"Rydym wedi cytuno y dylem, cyn diwedd y Cynulliad hwn, ddeddfu i newid enw'r sefydliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament. Byddai'r Aelodau yn cael eu galw  yn Aelodau o Senedd Cymru (ASC)/ Welsh Parliament Members (WPM)."

Darllenwch y datganiad llawn (PDF, 196KB) gan Elin Jones AC / AM, Llywydd y Cynulliad

Bydd y newid yn cael ei ddatblygu fel rhan o raglen ehangach diwygio'r Cynulliad.


Y camau nesaf

 

Mae'r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi deddfwriaeth yn 2018 i roi effaith i newid enw'r Cynulliad a diwygiadau posibl eraill.

Bydd y Comisiwn yn penderfynu ar gwmpas y ddeddfwriaeth yn ddiweddarach eleni. Bydd ei benderfyniad yn cael ei lywio gan yr ymatebion i ymgynghoriad Diwygio'r Cynulliad. Caiff adroddiad ar yr ymgynghoriad ei gyhoeddi maes o law.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Cynulliad: Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf

 
 

 

Adroddiad ar yr ymgynghoriad i newid enw'r Cynulliad

Cawsom gyfanswm o 2,821 o ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oed ac o bob cwr o Gymru.

Dadansoddiad o ganlyniadau'r ymgynghoriad (PDF, 5.35MB)

Creu Senedd i Gymru

Darllenwch y ddogfen ymgynghori i gael rhagor o wybodaeth.

Dogfen yr ymgynghoriad (PDF, 4.79MB)

Panel Arbenigol

Penododd y Llywydd y Panel Arbenigol i ddarparu cyngor cadarn, diduedd yn wleidyddol ar gapasiti'r Cynulliad yn y dyfodol. Cyhoeddodd adroddiad ym mis Rhagfyr 2017.

Dysgwch fwy am y panel

 

 

  


 

Partners & Help