Amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym am barhau i fod yn sefydliad cynhwysol, lle mae ein cyfleoedd cyflogaeth yn agored i bawb a lle y gall pobl Cymru ymgysylltu â'n gwaith. Darllenwch fwy i ganfod sut rydym yn cynnwys amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydym yn ei wneud.
Y newyddion diweddaraf
Darllenwch flog y Cynulliad i weld ein herthyglau diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am waith y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Adroddiadau blynyddol a data amrywiaeth
Bydd Comisiwn y Cynulliad yn paratoi adroddiad blynyddol ar y cynnydd a waned i hybu amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hefyd yn monitro, yn dadansoddi, ac yn cyhoeddi data amrywiaeth yn ymwneud â'r gweithlu, recriwtio a thâl, ac mae'r rhain i'w gweld isod.
Bydd unrhyw batrymau, tueddiadau neu faterion eraill a nodwyd yn ein setiau data'n helpu Comisiwn y Cynulliad i flaenoriaethu ei waith mewn perthynas ag amrywiaeth a chynhwysiant.
Darllenwch adroddiadau blaenorol y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle sy'n rhoi cyfleoedd rhwydweithio a chymorth gan gymheiriaid, gan gynnwys mentora a hyfforddi ar gyfer aelodau a chyfeillion.
Rydym wedi cael amrywiaeth o wobrau a chydnabyddiaeth allanol am ein hymrwymiad i'n staff ac am hybu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle.
Rydym yn cynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod polisïau, arferion a gwasanaethau a gaiff eu dylunio gennym yn deg a chynhwysol.
Cysylltwch â'r Tim Amrywiaeth ac Chynhwysiant
E-bost: amrywiaeth@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 7455
Rydym yn croesawu galwadau gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth Text Relay.