Cyfieithu peirianyddol
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae'r iaith Gymraeg bellach wedi ymuno â rhestr gynyddol o ieithoedd sy'n elwa o wasanaethau cyfieithu a ddarperir gan Microsoft Translator. Datblygwyd y system gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Microsoft. Bydd yn cynnwys gwasanaethau a chymwysiadau a fydd yn darparu cymorth mewn perthynas â chynnyrch a gwasanaethau Microsoft, gan gynnwys Word ac Outlook, ynghyd â chymwysiadau Bing Translator ar gyfer Windows, Windows Phone ac ar-lein yn http://www.bing.com/translator
Cyfarwyddiadau desg ar ddefnyddio Microsoft Translator (323KB)
Mae’r fideo isod yn dangos y ffordd y mae cyfieithu
peirianyddol yn helpu staff y Cynulliad i gyfathrebu’n ddwyieithog. Mae’n
cynnwys clip o ddigwyddiad lansio’r cyfleuster ar Microsoft ym mis Chwefror
2014, yn ogystal â chyfweliadau ag aelodau staff y Cynulliad.
Pam yr ydym yn gwneud hyn
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad dwyieithog. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol (1.45MB) yn datgan ein huchelgais, sef cael ein cydnabod fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog lle gall Aelodau'r Cynulliad, aelodau'r staff a'r cyhoedd ddewis gweithio neu gyfathrebu yn y naill iaith neu'r llall, neu'r ddwy iaith swyddogol, a lle mae defnyddio'r ddwy iaith yn cael ei annog a'i hyrwyddo. Mae'r cam o gyflwyno cyfleuster Cymraeg ar gyfer Microsoft Translator yn gam mawr ymlaen o ran gweithio'n ddwyieithog. Dylai'r defnydd o gyfieithu peirianyddol alluogi rhagor o bobl i gyfathrebu'n ddwyieithog.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i wario arian yn ddoeth a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad a staff i gyflawni eu swyddi mewn modd effeithiol. Mae ein Strategaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn datgan y byddwn yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i weithio'n hyblyg ac mewn modd sy'n sicrhau ein bod yn hygyrch i bobl Cymru.
Er mwyn cyflawni hyn, mae Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, ac aelodau o staff y Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda Microsoft i ddatblygu model iaith Gymraeg ar gyfer ei systemau cyfieithu peirianyddol, sef Bing Translator a Microsoft Translator. Gellir defnyddio'r systemau hyn wrth ddefnyddio Microsoft Office. Bydd y systemau hyn yn galluogi pobl ledled y byd i gyfieithu testun i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg, ac i wneud hynny'n syml drwy glicio ar y botwm 'Translate' ar y tab 'Review'.
Ansawdd cyfieithu peirianyddol
Er mwyn sicrhau bod y cyfieithiadau mor gywir â phosibl, rydym wedi bod yn gweithio gyda llu o sefydliadau dwyieithog i lwytho cymaint o ddata dwyieithog â phosibl i'n system. Maent wedi ein helpu i fwydo nifer fawr o ddogfennau i'r system. Bydd pob dogfen yn ein helpu i wella ansawdd y cyfieithiadau a awgrymir.
Nid yw safon cyfieithu peirianyddol yn berffaith ac nid yw cystal â chyfieithiadau proffesiynol. Ffordd o helpu pobl i ddeall yr iaith yw’r system hon, a thrwy hynny, galluogi mwy o bobl i gyfathrebu’n ddwyieithog. Gall hefyd arbed amser a chostau i gyfieithwyr proffesiynol. Nid disodli’r angen am gyfieithu dogfennau a negeseuon ffurfiol yn broffesiynol yw’r amcan, ond cynnig dull arall o alluogi pobl i gyfathrebu’n ddwyieithog pan na fyddai’n bosibl fel arall.
Defnyddio technoleg cyfieithu yn y Cynulliad
24 Tachwedd, 2011 – Comisiwn y Cynulliad yn penderfynu defnyddio cyfuniad o gyfieithu peirianyddol ac ôl-olygu i gyfieithu'r Cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn o fewn pum niwrnod gwaith. Cytunodd y Comisiwn hefyd i gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf.
17 Ionawr, 2012 – Cyhoeddi'r Cofnod cyntaf o drafodion y Cyfarfod Llawn a gyfieithwyd gan ddefnyddio peiriant cyfieithu ac ôl-olygu.
Haf 2012 – Swyddogion yn dechrau ymchwilio i botensial defnyddio cyfieithu peirianyddol o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi.
3 Hydref, 2012 – Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn cael ei basio'n unfrydol gan y Cynulliad.
12 Tachwedd 2012 – Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn cael Cydsyniad Brenhinol.
17 Gorffennaf, 2013 – Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad yn cael ei gytuno gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i wneud y defnydd gorau o dechnoleg i gyfieithu dogfennau yn gynt ac yn fwy effeithlon ac i archwilio manteision defnyddio system cyfieithu peirianyddol.
21 Tachwedd 2013 – Comisiwn y Cynulliad yn cytuno y dylai swyddogion barhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu ei system gyfieithu gyda golwg ar greu system newydd a fyddai ar gael i'r cyhoedd yn 2014.
21 Chwefror 2014 – Lansio'r cyfleuster Gymraeg ar gyfer Microsoft Translator.
Cyfranwyr
Rydym yn ddiolchgar i'r canlynol am gyfrannu data i helpu'r broses o hyfforddi'r system a gwella cyfieithiadau:
BBC Cymru Wales
Comisiynydd y Gymraeg
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Golwg
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llywodraeth Cymru
Plaid Cymru
Prifysgol Caerdydd
S4C
y Blaid Lafur
y Ceidwadwyr Cymreig
y Gweiadur gan Gwerin
Cymryd rhan
Unwaith y caiff y system gyfieithu ei defnyddio, gall defnyddwyr weithio gyda Microsoft i ddatblygu a gwella'r system fel y gall pobl ledled y byd ei defnyddio'n hyderus.
Os oes gennych chi, neu eich sefydliad, ddata y byddech yn barod i'w gyfrannu er mwyn gwella'r model iaith Gymraeg ymhellach, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ganlyn: cyfieithupeirianyddol@cymru.gov.uk.
Mwy o wybodaeth: Blog Microsoft